Mynegiad Agored
Mae Mynediad Agored yn golygu sicrhau bod eich allbynnau ymchwil ar gael am ddim ar-lein. Y nod yw sicrhau y gall unrhyw un yn unrhyw le yn y byd allu darllen yr ymchwil/cyhoeddiad a gwybod at ba bwrpas y gallan nhw’i ddefnyddio.
Mae mynediad agored yn rhoi amryw o fanteision i ymchwilwyr, gan gynnwys gwneud eich gwaith ymchwil yn amlycach. Yn PDC, rydyn ni’n cefnogi awduron sy’n defnyddio mynediad agored, yn rhoi hyfforddiant, ac yn eu helpu i lywio eu ffordd drwy'r gofynion.
Rydyn ni’n cefnogi llwybr gwyrdd i fynediad agored sy'n golygu bod yr awdur yn archifo fersiwn a gymeradwyir gan gyhoeddwr o'r llawysgrif, yn rhad ac am ddim, yn ein storfa ymchwil sefydliadol, yr Archwiliwr Ymchwil.
Straeon am Fynediad Agored
Rheoli Data Ymchwil
Mae Rheoli Data Ymchwil (RDM) yn helpu i gynyddu effaith gwaith ymchwil. Mae cofnodi data ymchwil yn gywir ac yn fanwl yn elfen hollbwysig mewn arferion ymchwil da.
Yn PDC rydyn ni’n helpu ymchwilwyr i wneud eu gwaith ymchwil mewn ffordd gyfrifol a moesegol yn unol â pholisi RDM y Brifysgol.
Gallwn helpu ym mhob cob cam yn eich gwaith ymchwil, o hyfforddiant a datblygu cynlluniau rheoli data i storio eich setiau data.
Cymorth
Mae'r Llyfrgellydd Ymchwil a'r Cynghorydd Cymorth yn helpu staff ymchwil a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig gyda Mynediad Agored a Rheoli Data Ymchwil. Gallant hefyd eu cyfeirio at y polisïau a'r canllawiau.