"A minnau’n academydd sy'n canolbwyntio ar dangynrychiolaeth y De byd-eang yn y broses o gynhyrchu gwybodaeth fyd-eang, rwyf eisiau sicrhau bod modd i bobl gael gafael ar fy ngwaith ymchwil a bod modd i’r gynulleidfa ehangaf bosibl ei ddefnyddio.
"Mae Mynediad Agored yn arbennig o bwysig yn nhermau dadgoloneiddio’r cwricwlwm a gwybodaeth. Mae'n chwarae rhan ganolog wrth wneud gwybodaeth yn fwy cydradd a lleihau'r bwlch gwybodaeth rhwng academyddion a chymunedau ysgolheigaidd yn y De byd-eang a'r Gogledd byd-eang. Mae hyn yn ymgorffori'r gwerthoedd rwyf wedi ymrwymo iddyn nhw, yn academaidd ac yn bersonol.
"Mae llawer o fy ngwaith diweddar wedi canolbwyntio ar argyfwng y Rohingya, un o argyfyngau dyngarol mawr y cyfnod presennol. Roedd y cyhoeddiad hwn yn seiliedig ar dystiolaeth a ddaeth o astudiaeth wedi’i hariannu gan yr Academi Brydeinig i ddeall y profiad o ddioddef trais a cholli urddas ymhlith y Rohingya yn Bangladesh a phobl sydd wedi’u dadleoli’n fewnol yn Affganistan.
"Mae'r term 'urddas' yn cael ei ddefnyddio'n aml mewn confensiynau hawliau dynol rhyngwladol, heb lawer o eglurder ynglŷn â'r hyn y mae'n ei olygu. Mae'r papur hwn yn cynnig dealltwriaeth o urddas, o’r gwaelod i fyny, gan ein galluogi i weld urddas drwy lens y bobl sy’n teimlo’r effaith, y bobl sy’n dioddef, a’r bobl sy’n agored i niwed.
"Er mwyn gwneud penderfyniadau effeithiol a chynaliadwy ar gyfer y grwpiau hyn, gall dealltwriaeth o'r fath fod o gymorth mawr i lunwyr polisïau cenedlaethol, rhanbarthol a rhyngwladol, gan eu galluogi i ddod yn ymwybodol o urddas o safbwynt y bobl a ddadleolir.
"Roedd sicrhau bod y gwaith ymchwil hwn ar gael drwy Fynediad Agored yn golygu y byddai ar gael i gynulleidfa ehangach yn Bangladesh – a rhannau eraill o'r De byd-eang sy'n cynnal ffoaduriaid. Cynulleidfa yw hon na fyddai fel arall yn gallu gweld y gwaith oherwydd capasiti sefydliadol neu ddiffygion ariannol.
"Mae'n hanfodol bwysig bod academyddion, llunwyr polisi, cymunedau lleol, melinau trafod a sefydliadau ymchwil eraill ledled y byd yn gallu cael mynediad ar-lein am ddim, ar unwaith, at dystiolaeth ymchwil a all eu helpu nhw i greu polisïau cadarn sy’n helpu i wella bywydau ffoaduriaid a grwpiau eraill sy’n agored i niwed."
Yr Athro Palash Kamruzzaman
Mae gan yr Athro Palash Kamruzzaman brofiad ymchwil yn y meysydd datblygu rhyngwladol a chymorth; cyfrannu at lunio polisïau; cymdeithas sifil; tlodi byd-eang a sut y mesurir tlodi eithafol.
Yn ddiweddar cwblhaodd astudiaeth a ariannwyd gan yr Academi Brydeinig i’r profiad o drais a cholli urddas ymhlith y Rohingyas ym Mangladesh a phobl sydd wedi’u dadleoli yn fewnol yn Affganistan.