Manteision Mynediad Agored: Cynyddu Effaith Eich Gwaith Ymchwil
Ymchwil Cefnogi ymchwil
“Mae llawer o gyrff cyllido yn ei gwneud yn ofyniad – neu’n ffafrio – bod cynnyrch cyllid ymchwil ar gael drwy fynediad agored. Rhoddodd Historic England, a ariannodd ein hymchwil ar Ddata Cysylltiedig ar gyfer yr Amgylchedd Hanesyddol, gymorth i gyhoeddi papur am y canlyniadau drwy’r llwybr Mynediad Agored Aur.
“Roedd y papur hwn yn cynnwys gwaith ymchwil cymhwysol iawn ei natur, ac felly roedden ni eisiau i’r darllenwyr fod yn weithwyr proffesiynol ym maes treftadaeth ddiwylliannol, yn ogystal ag yn academyddion. Roedd sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael yn eang i ymarferwyr na fyddai o reidrwydd â mynediad at lyfrgelloedd prifysgol yn ystyriaeth o bwys i ni.
"Yn gynyddol yn ein maes ni, mae llawer o gyfnodolion yn dymuno cyhoeddi elfennau o’r data cysylltiedig, yn ogystal â chanlyniadau’r gwaith ymchwil, a hynny er mwyn hwyluso gwaith ymchwil cydweithredol. Mae elfen o ddinasyddiaeth dda ynghlwm wrth hyn hefyd, a photensial i gynyddu effaith canlyniadau'r ymchwil.
“Mae Internet Archaeology yn gyfnodolyn archaeoleg mynediad agored hirsefydlog sy'n annog cynnwys dolenni i wybodaeth gyd-destunol. Fe wnaethon ni greu storfa GitHub gyhoeddus (llwyfan datblygu meddalwedd ar-lein a ddefnyddir i storio, olrhain a chydweithio ar brosiectau) i bostio allbynnau ein gwaith mapio data, ynghyd â gwybodaeth am gwmpas y prosiect, ac roedd dolenni i’r storfa yn y papur.
“Mae data a chodau ffynhonnell sydd ar gael yn agored yn caniatáu i bobl atgynhyrchu methodolegau a chanlyniadau ymchwil yn hawdd ac yn gywir, cyn eu hasesu, datblygu arnyn nhw, eu gwella, eu haddasu, a’u hailddefnyddio. Gan hynny, yn ein maes ni, mae cyllidwyr fel y Cynghorau Ymchwil yn ystyried bod egwyddor mynediad agored hefyd yn golygu sicrhau bod y feddalwedd ymchwil ar gael fel ffynhonnell agored. Mae hyn yn rhywbeth rydyn ni wedi bod yn ei wneud ers tro. Roedd yn ddefnyddiol ar gyfer ein hastudiaethau achos o effaith ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn 2014 a 2021, lle roedd modd i ni gyfeirio at ddefnyddwyr yr adnoddau roedden ni wedi eu datblygu yn ogystal â defnyddwyr y geirfaoedd data treftadaeth cysylltiedig oedd wedi cael eu creu.”
Yr Athro Douglas Tudhope
Mae diddordebau ymchwil yr Athro Douglas Tudhope mewn Gwasanaethau a Systemau Trefnu Gwybodaeth (KOS). Mae ganddo ddiddordeb mewn sut y gall systemau hypergyfryngau sydd wedi’u mynegeio’n semantig helpu prosesau adalw rhyngweithiol ac awtomatig.