BSc (Anrh)

Rheoli Prosiect (Adeiladu)

Chwaraewch eich rhan yn y gwaith o ddatblygu isadeiledd yfory. Dyma gyfle i chi fireinio eich sgiliau a datblygu gwybodaeth hanfodol ar gyfer gyrfa ym maes Rheoli Prosiectau Adeiladu.

Sut i wneud cais Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £9,535*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Mae Rheolwr Prosiectau Adeiladu da yn hanfodol. Mae angen i bob prosiect, boed yn adeilad newydd neu’n waith adnewyddu, yn ddatblygiad preswyl, yn nendwr, neu’n brosiect isadeiledd, gael ei reoli i sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau ar amser, o fewn y gyllideb ac i safon uchel. Mae’r Rheolwr Prosiectau Adeiladu yn gweithio’n agos gyda’r cleient, y tîm dylunio a’r contractwr.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Bydd astudio cwrs BSc (Anrh) Rheoli Prosiectau Adeiladu ym Mhrifysgol De Cymru yn rhoi’r sgiliau a’r hyblygrwydd angenrheidiol i chi mewn sector cynyddol ddeinamig. Rydym yn derbyn myfyrwyr yn syth o'r ysgol, ac unigolion sydd â phrofiad sylweddol o weithio yn yr Amgylchedd Adeiledig sydd eisiau ehangu eu gwybodaeth a'u rhagolygon gwaith.

Llwybrau Gyrfa

  • Rheolwr Prosiectau Cleientiaid
  • Rheolwr Prosiectau Adeiladu
  • Rheolwr Safle
  • Rheolwr Cyfleusterau
  • Rheolwr Gweithrediadau

Y sgiliau a addysgir

  • Cyfathrebu
  • Datrys problemau
  • Sgiliau TG/Digidol
  • Gweithio gydag eraill
  • Cyflogadwyedd

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Dulliau cyflenwi amser llawn a rhan-amser

Gall myfyrwyr gwblhau eu hastudiaethau’n amser llawn neu’n rhan-amser wrth ennill profiad gwerthfawr yn y diwydiant.

Ffocws ar gyflogadwyedd

Rydym yn ymgysylltu â’r diwydiant, fel rhanddeiliad allweddol, wrth ddatblygu ein deunydd cwrs, gan eu gwahodd i gyflwyno darlithoedd gwadd sy’n berthnasol i’r diwydiant.

Sgiliau dymunol sy’n mynd i’r afael â phrinder yn y diwydiant

Byddwch yn datblygu sgiliau cyfathrebu, datrys problemau, sgiliau digidol TG, a chydweithio.

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut byddwch chi’n dysgu

Addysgir y radd Rheoli Prosiectau Adeiladau drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau.

Cewch gyfle i gymryd rhan mewn ymweliadau safle â chwmnïau lleol, gan eich galluogi i weld sut mae theori’n cael ei chymhwyso mewn lleoliad proffesiynol. Byddwch yn gweithio’n annibynnol i baratoi ar gyfer dosbarthiadau a chwblhau gwaith prosiect.

Nid ydym yn credu y gallwch ddysgu sgiliau hanfodol fel gwneud penderfyniadau dadansoddol a datrys problemau drwy ddarllen amdanynt yn unig. Dyna pam rydym ni’n cynnig gweithgareddau ymarferol sy’n eich helpu i ddeall a chymhwyso’r theori rydych chi’n ei dysgu mewn darlithoedd.

Bydd asesiadau'n cynnwys arholiadau, gwaith cwrs ac ymarferion sy'n seiliedig ar broblemau a addysgir gan ddefnyddio senarios bywyd go iawn.

 

Staff Addysgu

Mae’r pwnc Rheoli Prosiectau Adeiladu yn cynnig polisi drws agored, lle gall myfyrwyr gael mynediad at staff ar unrhyw adeg. Rydym hefyd yn cynnig Hyfforddwr Academaidd Personol ar gyfer pob un o'n myfyrwyr drwy gydol eu hastudiaethau.

 

Lleoliadau

Rydym yn argymell eich bod yn treulio blwyddyn yn gweithio yn y diwydiant adeiladu fel rhan o’ch gradd rheoli prosiectau adeiladu. Yn ystod y flwyddyn ryngosod hon, byddwch yn cael profiad ymarferol a fydd yn eich gwneud yn ymgeisydd mwy deniadol i gyflogwyr ac a fydd yn llywio eich astudiaethau yn eich blwyddyn olaf.

Gall ein swyddog lleoliadau gyrfaoedd pwrpasol eich helpu i ddod o hyd i leoliadau yn ystod y gwyliau.

 

 

Cyfleusterau

Ar gyfer profiad ychwanegol, byddwch yn defnyddio cyfleusterau o safon diwydiant ar y campws. Mae’r rhain yn cynnwys labordai cyfrifiadura gyda meddalwedd peirianneg fel Revit, ArchiCAD, AutoCAD, Autodesk, QTO, CostX, Synchro, a Navisworks.

Byddwch hefyd yn cael eich cyflwyno i’r technolegau digidol diweddaraf fel dronau, delweddu thermol, Realiti Rhithwir a Realiti Estynedig.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Mae rheoli prosiectau yn broffesiwn ffyniannus yn y DU ac yn rhyngwladol. Erbyn i chi raddio, bydd gennych y sgiliau a’r hyder i symud ymlaen fel rheolwr prosiectau adeiladu.

Llwybrau gyrfa posibl

Adeiladu yw un o’r diwydiannau mwyaf yn y byd, ac ni fyddai’n bosibl heb arolygwyr a rheolwyr prosiectau. Mae ein cysylltiadau diwydiannol a masnachol cryf yn golygu ein bod ni’n gwybod beth mae cyflogwyr ei eisiau gennych chi pan fyddwch chi’n graddio. Ers dros bedwar degawd, mae gennym hanes balch o ddatblygu graddedigion sy'n barod am ddiwydiant.

Mae rheoli prosiectau yn broffesiwn ffyniannus yn y DU ac yn rhyngwladol. Ar ôl graddio, gallech weithio i gwmnïau preifat, adrannau eiddo, cwmnïau adeiladu a datblygu, sefydliadau llywodraeth leol a chanolog, neu fod yn hunangyflogedig.

Cymorth gyrfaoedd

Fel myfyriwr ym Mhrifysgol De Cymru, byddwch yn gallu cael cyngor gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd drwy gydol eich astudiaethau ac ar ôl i chi raddio. Mae gan yr Amgylchedd Adeiledig gynghorydd gyrfaoedd pwrpasol.

Yn ogystal, mae gennym adnoddau ar-lein helaeth i'ch helpu i ystyried eich opsiynau gyrfa a chyflwyno eich hun yn dda i gyflogwyr. Mae gan ein cronfa ddata o gyflogwyr dros 2,000 o gyflogwyr cofrestredig sy'n targedu myfyrwyr Prifysgol De Cymru, gallwch gael hysbysiadau e-bost wythnosol am swyddi. 

Bywyd yn PDC

Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.

Cyngor Derbyn

Rydym yma i helpu. P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Siarad â ni