O dorri pob cyswllt (ghosting) i gadw perthynas ‘wrth gefn’: y rhesymau pam mae pobl yn ymddwyn mor wael ar apiau chwilio am gariad
24 Mawrth, 2022
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2022/03-march/Online_dating_resized.jpg)
Gan Dr Martin Graff, Uwch Ddarlithydd, Seicoleg
Nid oes amheuaeth bod apiau chwilio am gariad ar-lein wedi trawsnewid y ffordd yr ydym yn cychwyn, yn ffurfio ac yn diweddu perthnasoedd rhamantus. Efallai y byddwn hefyd yn cwestiynu a yw hwylustod yr apiau hyn wedi ein hannog i ymddwyn yn wahanol nag y byddem mewn “bywyd go iawn”. Yn fwy penodol, a yw apiau chwilio am gariad symudol yn magu ymddygiad gwael neu wrthgymdeithasol?
Os ydych chi'n defnyddio apiau chwilio am gariad, mae'n debyg eich bod chi wedi profi torri pob cyswllt ar brydiau (lle mae rhywun yn tynnu pob cyswllt yn ôl) - neu efallai eich bod chi wedi gwneud hynny eich hun. Efallai eich bod wedi darganfod bod rhywun rydych chi wedi bod yn sgwrsio ag ef/hi ar ap mewn perthynas. Neu os nad ydych chi'n defnyddio'r apiau hyn, efallai eich bod chi wedi clywed storïau arswydus gan ffrindiau.
Gadewch i ni edrych ar rai o'r ymddygiadau drwg rydyn ni'n eu gweld amlaf - a sut y gall seicoleg eu hesbonio.
Un o'r prif themâu yw pa mor gyffredin yw hi i bobl fod yn defnyddio apiau chwilio am gariad tra mewn perthnasoedd. Mae data o'r UD wedi dangos bod tua 42% o bobl â phroffil Tinder naill ai mewn perthynas neu'n briod.
Mewn astudiaeth o fyfyrwyr israddedig Americanaidd, datgelodd tua dwy ran o dair eu bod wedi gweld rhywun ar Tinder yr oeddent yn gwybod ei fod mewn perthynas. Ymhellach, dywedodd 17% o’r cyfranogwyr eu bod wedi anfon neges at rywun ar Tinder tra mewn perthynas ymroddedig, gyda 7% yn cymryd rhan mewn perthynas rywiol gyda rhywun yr oeddent wedi cyfarfod ag ef/hi ar Tinder tra mewn perthynas ymroddedig.
Mae tystiolaeth hefyd bod pobl yn defnyddio apiau chwilio am gariad i gynnal yr hyn rydyn ni'n ei alw'n berthnasoedd “wrth gefn”. Dyma pan fydd rhywun ar ap chwilio am gariad yn cadw cysylltiad â pherson arall yn y gobaith o fynd ar drywydd rhywbeth rhamantus neu rywiol rhyw ddiwrnod.
Yn syndod, canfu awduron astudiaeth yn 2018, yn cynnwys 658 o fyfyrwyr coleg israddedig nad oedd nifer y perthnasoedd ‘wrth gefn’ a adroddwyd yn wahanol iawn rhwng y rhai a oedd yn sengl, y rhai fyddai’n mynd ar ddêt achlysurol neu mewn perthynas ymroddedig. Dywedodd tua 73% o'r holl ymatebwyr fod ganddynt o leiaf un person wrth gefn.
Mae cyfathrebu ar-lein, wrth gwrs, yn gwneud cadw mewn cysylltiad yn llawer haws. Mae ymchwilwyr wedi awgrymu bod cynnal perthynas mewn perthynas wrth gefn yn cynnwys positifrwydd (bod yn dosturiol wrth y person arall a sicrhau bod rhyngweithio â nhw yn hwyl ac yn bleserus), bod yn agored (datgelu gwybodaeth bersonol iddyn nhw, efallai hyd yn oed rhannu cyfrinachau) a sicrwydd (dangos dymuniad i'r berthynas gael ei chynnal dros amser).
Mae chwilio am gariad ar-lein hefyd wedi gwneud torri pob cyswllt yn llawer haws. Canfu astudiaeth yn 2019 fod 29% o ymatebwyr wedi gwneud hyn i'r bobl yr oeddent wedi mynd ar ddêt gyda nhw, ac roedd hyn wedi digwydd i 25% o’r ymatebwyr eu hunain. Yn ogystal, dywedodd 74% o ymatebwyr eu bod yn credu bod hyn yn ffordd briodol o ddod â pherthynas i ben.
Adroddodd y rhai a gymerodd ran yn yr astudiaeth hon am y ddau achos o dorri pob cyswllt (torri pob cyswllt yn sydyn) a thorri cysylltiad yn raddol (arafu cyswllt cyn diflannu'n gyfan gwbl). Cynyddodd torri pob cyswllt graddol faint yr ansicrwydd i'r sawl a oedd yn profi hynny.
Mae'n debyg bod torri pob cyswllt yn digwydd mor aml oherwydd ei bod yn hawdd dod â pherthynas i ben yn y modd hwn, yn enwedig os nad yw'r cwpl wedi cyfarfod yn bersonol eto. Mae awduron yr un astudiaeth hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod chwilio am gariad ar-lein yn cynnig digonedd o bartneriaid posibl, ac y gall pobl sy’n torri pob cyswllt gydag un partner wneud hynny oherwydd eu bod wedi symud ymlaen at rywun newydd.
Nid dim ond i geisio perthynas neu ar gyfer rhyw y mae pobl yn defnyddio apiau chwilio am gariad - mae llawer o bobl yn dweud eu bod yn eu defnyddio er hwyl yn unig. O'r herwydd, gall defnyddwyr mwy dilys yr apiau hyn fod yn dargedau hawdd ar gyfer trolls, sy'n dymuno creu gwrthdaro ac achosi trallod i ddefnyddwyr ar-lein eraill er eu difyrrwch eu hunain.
Canfu astudiaeth yn 2017 fod troliau apiau chwilio am gariad yn sgorio’n uchel ar fesurau ymddygiad sadistaidd, gan ddangos diystyrwch o’r boen neu’r dioddefaint a achosir i bobl eraill; ac yn uchel ar fyrbwylldra camweithredol, a nodweddir gan beidio â dilyn addewidion.
Rhai rhesymau cyffredinol dros ymddygiad gwael
Mae’r cyfleustra a’r dewis helaeth o chwilio am gariad ar-lein efallai’n annog diwylliant o “dafladwyaeth” – gallu “cyfnewid” yn y farchnad chwilio am gariad a chefnu ar bartner presennol yn haws. Mae dyfeisiau symudol personol, sydd â chod mynediad neu amddiffyniad adnabod wynebau, yn caniatáu ar gyfer ymddygiad mwy dirgel a chyfrinachol, a gallent hyd yn oed ei annog.
Mae ymddygiad ar-lein yn aml yn cael ei nodweddu gan ddiffyg ataliaeth – rydym yn dueddol o ymddwyn yn fwy rhydd ar-lein nag a wnawn mewn cyd-destun wyneb yn wyneb. Yn rhannol, mae hyn oherwydd y teimlad o anhysbysrwydd sydd gennym ar-lein.
Yn olaf, mae'r ffordd y mae pobl yn defnyddio apiau chwilio am gariad yn gysylltiedig iawn â nodweddion personoliaeth. Er enghraifft, mae pobl sydd ag arddulliau personoliaeth agored (agored i brofiad, anturus) a llai dymunol (llai gofalgar a meddylgar tuag at eraill) yn fwy tebygol o ddefnyddio apiau chwilio am gariad mewn ffordd fwy achlysurol.
Os yw ymddygiad gwael neu gamweithredol bellach yn ymddangos yn gyffredin ar apiau chwilio am gariad, cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein yn gyffredinol, mae'r dechnoleg sydd wedi arwain at yr ymddygiad hwn yma i aros. Efallai y bydd angen i ni addasu ein disgwyliadau yn unol â hynny.
Ailgyhoeddir yr erthygl hon o The Conversation dan Drwydded Creative Commons. Darllen yr erthygl wreiddiol.