Pam mae mwncïod yn ymosod ar bobl - eglurhad gan arbenigwr primatiaid

15 Chwefror, 2024

Mwnci Macaque

Gan Tracie McKinney, Uwch-ddarlithydd mewn Anthropoleg Biolegol. Mae twristiaeth bywyd gwyllt yn ffynnu ar ein syndod gan anifeiliaid, ac mae primatiaid yn benodol ddeniadol i dwristiaid. Gyda’u hwynebau lled-ddynol, deinameg teuluol cymhleth ac anturiaethau acrobatig, maen nhw’n werth eu gweld.

Ond, mae straeon wedi’u cyhoeddi yn ddiweddar, sy’n cyfleu mwncïod mewn golau gwael. Mae adroddiadau am “ymosodiadau mwncïod”, “mwncïod y diafol”, neu hyd yn oed “mwncïod sy’n rhwygo wynebau a brathu esgyrn” wedi dod yn gyffredin yn y wasg. A yw’n cefndryd primataidd wedi troi yn ein herbyn ni?

Mae’r ymosodiadau mwncïod diweddar yn cynnwys amrywiaeth o rywogaethau mewn gwledydd amrywiol. Maen nhw’n cynnwys y macaco cynffon hir a’r macaco cynffon cyrliog yng Ngwlad Thai, macacos Japaneaidd yn Japan, a langwriaid Hanwman yn India.

Mae’r rhan fwyaf o’r rhywogaethau hyn yn facacos, sy’n grŵp amrywiol o fwncïod. Ond mae’r holl fwncïod fel hyn yn gymdeithasol, yn ddeallus, yn eithaf mawr (rhwng 4kg a 9kg), ac yn teithio’n gyfforddus ar y tir. Mae ganddynt ddiet hyblyg, ond mae’n well ganddynt fwyta ffrwythau. Hefyd, mae ganddynt gydau yn eu bochau sy’n caniatáu iddynt gasglu bwyd yn gyflym a’i gario i rywle diogel i’w fwyta.

Gor-gynefino

Waeth beth fo’r rhywogaeth neu’r lleoliad, ffactor mawr mewn brathiadau ac ymosodiadau gan fwncïod yw “gor-gynefino”. Proses yw cynefino a ddefnyddir gan ymchwilwyr anifeiliaid, i ennill ymddiriedaeth anifeiliaid a chofnodi eu hymddygiad, heb effeithio’n ormodol ar yr anifeiliaid.

Er hyn, gall anifeiliaid gael eu cynefino’n anfwriadol. Enghraifft o hyn yw wiwerod mewn parciau canol dinas, sydd wedi dod i arfer cael bwyd gan bobl. Enghraifft arall yw llwynogod trefol yn y DU, eirth yng Ngogledd America, ac mewn llawer o wledydd trofannol, mwncïod.

Pan na fydd anifeiliaid yn ofni bodau dynol mwyach ac yn dod yn niwsans, maent wedi’u gor-gynefino. Ym mhob achos o or-gynefino bron, y prif ffactor yw bwyd dynol. Mae’n bwyd ni’n ddeniadol iawn i fywyd gwyllt. Mae’n llawn maeth, yn hawdd ei dreulio ac ar gael mewn biniau sbwriel, bagiau sydd wedi’u gadael, neu hyd yn oed yn uniongyrchol gan bobl.

O safbwynt ecolegol, mae llawer o gymhellion yn arwain yr anifeiliaid at fanteisio ar yr adnodd o safon uchel. Felly, does dim syndod y bydd anifeiliaid yn addasu eu hofnau a’u hymddygiad naturiol yn unol â hynny.

Er mai gor-gynefino yn sgil cysylltu twristiaid â bwyd yw’r prif ffactor am yr ymosodiadau gan fwncïod sydd wedi’u hadrodd, nid yw hynny’n golygu bod pawb sydd wedi’u brathu neu eu bygwth gan fwnci’n euog o fwydo neu dynnu coes mwnci.

Mae mwncïod yn glyfar iawn, mae ganddynt gof hir ac maen nhw’n dysgu gan ei gilydd. Mae llawer o grwpiau wedi arfer cymaint â bwydydd dynol fel eu bod wedi dysgu sut i boenydio twristiaid er mwyn cael bwyd. Mae rhai mwncïod yn gwneud hyn mor dda fel eu bod yn gwybod pa eitemau sy’n werthfawr i dwristiaid, a byddant yn aml yn “cyfnewid” rhain am fwyd. Mewn geiriau eraill, byddant yn dwyn eich ffôn symudol, ond yn ei ollwng pan fyddwch chi’n taflu bwyd iddynt.

Ffactor pwysig arall o ran ymosodiadau mwncïod mewn safleoedd twristiaid yw anwybodaeth o iaith y corff yr anifeiliaid, mynegiant eu hwynebau a’u synau. Bydd hyd yn oed mwncïod sydd wedi’u gor-gynefino i raddau helaeth yn rhybuddio cyn ymosod. Ond bydd amhrofiadol o ran ymddygiad mwncïod yn aml yn camddehongli mynegiant wyneb bygythiol am un cyfeillgar. Gall hyn arwain at sefyllfaoedd peryglus.

Cyngor

Does dim disgwyl i dwristiaid sy’n gweld bywyd gwyllt ddeall mynegiant wyneb ac osgo’r corff pob rhywogaeth. Ond gall rhai pethau helpu twristiaid i fod yn fwy diogel a chyfrifol, waeth pa rywogaeth o brimatiaid maen nhw’n eu gweld.

  • Peidiwch â mynd yn rhy agos. Yn ôl yr Undeb Cadwraeth Natur Rhyngwladol, rhwydwaith o sefydliadau amgylcheddol, argymhellir y dylid cadw pellter o saith metr (23 o droedfeddi) rhwng pobl a’r anifeiliaid. Mae hyn yn helpu’r anifail i deimlo’n ddiogel, a hefyd yn lleihau’r risg o drosglwyddo clefydau.
  • Peidiwch â sefyll rhwng yr anifail a’r llwybr at ddiogelwch, neu rhwng oedolion a rhai bach.
  • Ceisiwch osgoi gwneud cyswllt llygad uniongyrchol neu ddangos eich dannedd, oherwydd efallai y bydd mwncïod yn ystyried hyn yn ymddygiad ymosodol.
  • I lawer o rywogaethau o brimatiaid, ymhlith bygythiadau cyffredin mae dangos dannedd (gan gynnwys dylyfu gên), syllu’n uniongyrchol gyda phen i lawr, a cherddediad byr neu daro’r ddaear gyda’r dwylo. Os bydd anifail yn gwneud unrhyw rai o’r pethau hyn, symudwch yn ôl yn araf deg.
  • Peidiwch â bwydo’r mwncïod.

Mae twristiaeth bywyd gwyllt yn cyfrannu dros US$100 biliwn (£786 biliwn) y flwyddyn at yr economi byd-eang. Mae’n gallu talu ar ei ganfed a chynnig llu o fanteision i fywyd gwyllt a chymunedau o bobl sy’n byw gerllaw. Er hyn, dylem oll fod yn dwristiaid cyfrifol.