Llwyddiant cyllid ymchwil i gefnogi menywod Du a Lleiafrifoedd Ethnig wedi’u heffeithio gan drais a cham-drin domestig
18 Hydref, 2024
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2024/10-october/GettyImages-1271549456.jpg)
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi derbyn dros £300,000 o gyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer prosiect ymchwil ar raddfa fawr sy’n canolbwyntio ar gymorth i fenywod Du a Lleiafrifoedd Ethnig (BME), sydd wedi’u heffeithio gan Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV).
Dros ddwy flynedd, bydd yr astudiaeth arloesol hon yn rhoi lle canolog i leisiau a phrofiadau menywod BME. Trwy ddulliau manwl fel cyfweliadau, adrodd straeon digidol a gweithdai, bydd y prosiect yn datblygu fframwaith cynhwysfawr wedi’i gynllunio i sicrhau bod gwasanaethau, sy’n rhychwantu gofal iechyd, gorfodi’r gyfraith, gwasanaethau cymdeithasol, a sefydliadau cymunedol, yn gallu diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth yn well.
Dan arweiniad Dr Sarah Wallace o PDC, mae’r astudiaeth mewn partneriaeth â Bawso, gwasanaeth sy’n darparu gwasanaethau atal, amddiffyn a chefnogi ymarferol ac emosiynol i unigolion BME a mudol sydd wedi dioddef cam-drin domestig, trais rhywiol, anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfod, trais ar sail anrhydedd, caethwasiaeth fodern, a masnachu mewn pobl.
O’r enw ‘Mae Gwrando’n Gam Mawr: Cyd-ddatblygu Fframwaith Aml-asiantaeth gyda menywod BME ar gyfer Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol’, bydd yr astudiaeth yn archwilio anghenion a phrofiadau menywod sydd mewn cysylltiad â llawer o wasanaethau gwahanol, gan gydnabod effaith anghymesur mathau penodol o VAWDASV, ynghyd â rhwystrau ychwanegol a wynebir wrth ddatgelu a rhoi gwybod am gamdriniaeth, gan gynnwys diffyg ymddiriedaeth mewn awdurdodau, rhwystrau iaith, pryderon mewnfudo ac ofnau hiliaeth.
Dywedodd Dr Wallace: “Bydd y prosiect hwn yn gweithio’n uniongyrchol gyda menywod BME i gyd-greu atebion sy’n sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a bod eu profiadau’n sail i’r gwasanaethau sydd wedi’u cynllunio i’w hamddiffyn. Drwy wella’r ffordd mae gwasanaethau’n gweithio gyda’i gilydd, gallwn gael effaith wirioneddol ar les unigolion a newid cymdeithasol. Mae gweithio'n agos gyda Bawso a'u defnyddwyr gwasanaeth i lywio'r gwaith hwn yn ganolog ac rydym yn falch iawn o allu cyflawni'r prosiect hwn fel partneriaeth.
“Mae’r astudiaeth yn amserol yng ngoleuni Strategaeth VAWDASV Llywodraeth Cymru (2022-26), sy’n galw am gryfhau partneriaethau aml-asiantaeth i fynd i’r afael â’r mater hollbresennol hwn. Byddwn yn darparu adnoddau hanfodol i lunwyr polisi, darparwyr gwasanaeth a chymunedau ar gyfer sut y gall asiantaethau gydweithio’n fwy effeithiol i fynd i’r afael ag anghenion menywod BME.”
Dywedodd Samsunear Ali, Prif Weithredwr Bawso: “Rydym yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr gwasanaeth. Mae ein defnyddwyr gwasanaeth yn ymwneud â chynllunio, datblygu ac adolygu ein gwasanaethau. Bydd bod yn rhan o'r ymchwil yma’n rhoi cyfle i ddefnyddwyr y gwasanaeth rannu eu profiadau o'r gwasanaethau cyhoeddus i wneud gwelliannau. Fel partner ymchwil, rydym yn gobeithio y bydd gwaith Bawso hefyd yn cael ei gydnabod gan y sector ehangach.”
Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Rydym wrth ein bodd gyda safon uchel y ceisiadau am grantiau prosiect eleni. Mae gan y prosiectau ymchwil amrywiol hyn y potensial i gael effaith sylweddol ar iechyd a lles pobl. Bydd ansawdd ymchwil yng Nghymru yn helpu i sicrhau bod ein cymuned ymchwil yn parhau i fod yn gystadleuol ac yn parhau i ffynnu.”