Graddio

Graddio yw uchafbwynt y flwyddyn academaidd. Mae'n gyfle i fyfyrwyr ddathlu eu cyflawniadau ym mhresenoldeb eu teulu, eu ffrindiau a'r staff academaidd sydd wedi eu cefnogi.

Students wearing graduations gowns and caps celebrating in a group

Cynhelir ein seremonïau yng International Convention Centre, Wales a gallwch ddod o hyd i bopeth sydd angen i chi ei wybod am eich Diwrnod Graddio ar y tudalennau hyn, o gynllunio a pharatoi, i docynnau a gwybodaeth cyrraedd.


Cysylltu â Ni

Mae'r holl wybodaeth graddio a thystysgrif a thrawsgrifiad ar gael yma

Os nad ydych wedi gallu dod o hyd i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano, dychwelwch i'r dudalen hon i gwblhau un o'r ffurflenni ymholiad isod:

Myfyrwyr UNICAF - Cwblhewch ein ffurflen ymholiad UNICAF

Pob myfyriwr presennol arall - Cysylltwch â ni trwy'r Ardal Gynghori Ar-lein.

Pob myfyriwr arall nad yw'n gallu cyrchu eu cyfrifon Prifysgol - Cwblhewch ein ffurflen ymholiad cyffredinol

Eich Data

Mae'r Brifysgol yn prosesu eich data personol er mwyn iddi allu gweinyddu'r seremoni raddio, darparu rhaglenni graddio, a chynnal digwyddiad graddio ffrwd fyw. Am fwy o wybodaeth edrychwch ar yr Hysbysiad Prosesu Teg neu anfonwch e-bost at [email protected]

Hysbysiad Prosesu Teg