Barnwr yn dangos bod gwaith caled yn werth chweil

3 Mawrth, 2015

Sophie Tomes

Sophie Toms, Dirprwy Farnwr Rhanbarth

"Does dim ots beth yw eich cefndir, a does dim ots a aeth eich rhieni i'r brifysgol ai peidio. Gall unrhyw un ei wneud."

Dyna gyngor Sophie Toms – cyn-fyfyriwr Prifysgol De Cymru, Cyfreithiwr Cyfraith Droseddol, a Dirprwy Farnwr Rhanbarth (Llysoedd Ynadon) ieuengaf Cymru.

Wedi'i geni a'i magu ym Mrynbuga, daeth cynnydd Sophie i'w safle yn y Farnwriaeth trwy'r hyn a allai gael ei ystyried yn llwybr anarferol.

Ar ôl cwblhau ysgol uwchradd bu'n astudio ar gyfer Safon Uwch yng Ngholeg Pont-y-pŵl, cyn mynd ymlaen wedyn i Brifysgol Morgannwg i wneud Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Astudiaethau Cyfreithiol. Gan barhau â'i dysgu ym Morgannwg, aeth ymlaen i wneud gradd atodol i LLB llawn yng nghanol y 1990au cyn gwneud Cwrs Ymarfer Cyfreithiol.

O'r fan honno, sicrhaodd Sophie gontract hyfforddi - a ddywedodd ei fod yn 'brentisiaeth yn y bôn' - aeth ymlaen i weithio i gwmni cyfreithiol amaethyddol, ac yn y pen draw aeth ymlaen i arbenigo mewn cyfraith droseddol.

Roedd astudiaethau a hyfforddiant Sophie yn y gwaith yn rhoi'r arbenigedd angenrheidiol iddi roi cynrychiolaeth arbenigol i gleientiaid yn ystod treialon troseddol.

Ac arweiniodd y profiad a'r wybodaeth hon at rôl ehangach, ei phenodiad yn Ddirprwy Farnwr Rhanbarth – ac erbyn hyn hi yw'r un sy'n goruchwylio treialon mewn Llysoedd Ynadon.

"Fel arfer mae yna ddau neu dri Ynad lleyg sy'n goruchwylio treialon yn y llys, yn gwneud y penderfyniad dros euogrwydd neu ddieuogrwydd, a naill ai'n cyflwyno cosb neu gyfeirio'r achosion at Lys y Goron am ddyfarniad gan y Barnwr yno," meddai.

"Fel Barnwr Rhanbarth, fodd bynnag, rwy'n clywed achosion ar fy mhen fy hun - sy'n aml yn fwy cymhleth - ac yna'n gwneud penderfyniad ar y dystiolaeth a gyflwynwyd.

"Dwi wedi eistedd ym Mhontypridd, Abertawe, Merthyr a hefyd yng nghanolbarth Lloegr. Yn amlwg, ni allaf oruchwylio treial yn ymwneud â phobl yr ydw i’n yn eu hadnabod neu wedi eu cynrychioli yn y llys fel cyfreithiwr, felly rwy'n tueddu i glywed achosion i ffwrdd o'r rhan o Gymru rwy'n byw ynddi."

Felly, a yw'r ffaith ei bod yn bell o stereoteip Barnwr nodweddiadol yn golygu bod Sophie yn meddwl ei bod hi'n unigryw, yn hytrach na model rôl?

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod pobl yn sylweddoli bod e'n hyder ynoch chi'ch hunan, a'r parodrwydd i roi'r gwaith caled i mewn, mae hynny'n mynd i wneud iddo ddigwydd," meddai.

“Mae'r Comisiwn Penodiadau Barnwrol - sy'n gwneud yr asesiad ar eich addasrwydd ar ôl arholiadau a diwrnod dethol - yn trin pawb yr un fath.

"Mae barnwyr benywaidd ar gynnydd - ond does dim ots o ble rydych chi'n dod, neu eich cefndir - mae apwyntiad yn cael ei wneud ar sail teilyngdod yn unig.

"Felly dyw eich rhywedd neu gefndir chi wir ddim yn bwysig iawn. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw eich bod chi'n rhoi’r oriau, yr astudio, y gwaith caled, a'r ymrwymiad i mewn - a gallwch chi gyflawni unrhyw beth rydych chi ei eisiau."