Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC yn agor Campws Caerdydd Dyrchafedig PDC

2 Tachwedd, 2016

Tony Hall, Director-General of the BBC, opening the enhanced USW Cardiff Campus on November 1, 2016

Tony Hall yn agor Campws dyrchafedig PDC Caerdydd

Agorodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tony Hall, gampws diwydiannau creadigol dyrchafedig Prifysgol De Cymru yn swyddogol ar 1 Tachwedd.

Ar ôl cwrdd â myfyrwyr, staff ac arweinwyr yr economi greadigol, wnaeth yr Arglwydd Hall o Benbedw dadorchuddio’r plac ar Gampws Caerdydd PDC, yng nghanol parth diwydiannau creadigol cynyddol Caerdydd rhwng Pinewood, pentref drama Porth y Rhath, a Phencadlys newydd BBC Cymru yng nghanol y ddinas.

Cyhoeddodd yr Arglwydd Hall y bydd Cymrodoriaethau newydd yn PDC yn cael eu creu ar gyfer uwch arweinwyr y BBC, a fydd yn darlithio yn y Brifysgol ac yn croesawu myfyrwyr PDC ym mhencadlys y BBC ledled y DU.

Wrth siarad mewn seremoni gyda'r nos ar ôl derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd gan y Brifysgol, dywedodd Tony Hall: "Bydd Cymrodyr y BBC yn PDC yn cael eu tynnu o sawl maes arbenigol gwahanol - mewn newyddiaduraeth, arweinyddiaeth, radio, teledu a chyfryngau digidol – a byddant i gyd yn cynrychioli'r mwyaf disglair a gorau o'r BBC. Dros amser, rwy'n gobeithio y byddant yn rhoi cipolwg go iawn i fyfyrwyr yma ar fyd cyfryngau cymhleth a sut mae ein darlledwyr mwyaf yn addasu ar adeg o fflwcs a newid digynsail."

Mae'r datblygiad yn gartref i Gyfadran Diwydiannau Creadigol PDC, gan efelychu gweithleoedd diwydiant ledled y sector creadigol i ddarparu stiwdios dawns proffesiynol, stiwdios darlledu ffilm a theledu i fyfyrwyr, stiwdios ffotograffiaeth, mannau theatr ddrama, fferm rendro animeiddio a stiwdios recordio cerddoriaeth.

Dywedodd Jane McCloskey, Deon Cyfadran Diwydiannau Creadigol PDC: "Ein nod yw i'n Campws Caerdydd PDC dyfu fel pwerdy ar gyfer twf a chreadigrwydd.

"Rydyn ni'n darparu llif o dalent greadigol. Rydym yn gwneud hyn drwy addysg gan weithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn eu diwydiannau. Rydym yn ei wneud trwy leoliadau gyda'n partneriaid yn yr economi greadigol, o stiwdios ffilm i fusnesau newydd animeiddio, ac rydym yn ei wneud yn y cyfleusterau efelychu proffesiynol mwyaf arloesol. Rydyn ni'n agor y drysau i weithwyr proffesiynol y diwydiant i weithio gyda'r genhedlaeth nesaf o dalent sy'n dod i'r amlwg."

Dywedodd yr Athro Julie Lydon, Is-Ganghellor PDC: "Mae'r campws a'r Cymrodoriaethau hyn yn adlewyrchu ffocws PDC ar y gweithle. Mae'r pwyslais galwedigaethol hwnnw ar yrfaoedd yn rhywbeth sydd yn ein DNA, ac rydym yn falch ohono.

"Boed ein graddedigion yn ennill gwobrau Oscar am eu rhaglenni dogfen, yn tyfu busnesau newydd, cyhoeddi llyfrau, recordio albymau - ac rydym yn falch eu bod yn gwneud yr holl bethau hynny - maen nhw'n ychwanegu at ein heconomi ac at y gymdeithas o'n cwmpas."