Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru yn ymuno â PDC

8 Medi, 2017

Professor Peter Vaughan - Police Sciences

Bydd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Peter Vaughan QPM, yn ymuno â Phrifysgol De Cymru (PDC) pan fydd yn ymddeol o'r gwasanaeth heddlu ddiwedd y flwyddyn.

Bydd yn ymgymryd â rôl Athro a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ryngwladol Plismona a Diogelwch.

Mae gan y Ganolfan enw ardderchog yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am ei chyrsiau israddedig ac ôl-raddedig mewn gwyddorau’r heddlu, cymuned a phartneriaethau a phlismona rhyngwladol, yn ogystal â'i chyfleusterau addysgu ac ymchwil.

Bydd Mr Vaughan yn goruchwylio grŵp profiadol o ymchwilwyr, academyddion ac ymarferwyr heddlu yn y Ganolfan yn ogystal ag arwain datblygiad partneriaeth y Brifysgol gyda heddluoedd ledled Cymru a'r DU.

Dywedodd Mr Vaughan: "Rwy'n falch iawn o fod yn ymgymryd â'r rôl newydd gyda PDC. Doeddwn i ddim yn barod i roi diwedd ar fy nghysylltiad â phlismona a gwasanaeth cyhoeddus ac yn gweld hyn fel cyfle go iawn i barhau â'r gwaith hwnnw. Mae gan y Ganolfan Ryngwladol Plismona a Diogelwch enw da iawn ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r staff a'r myfyrwyr gwych."

Dywedodd Martin Steggall, Deon y Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg yn PDC: "Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Peter i Brifysgol De Cymru ar ddiwedd y flwyddyn.

"Bydd y profiad helaeth y mae wedi'i ennill yn ystod y 33 mlynedd diwethaf yn gweithio yng ngwasanaeth yr heddlu yn ychwanegu at yr enw da o'r radd flaenaf sydd gennym eisoes yn y Brifysgol ar gyfer ein Canolfan Ryngwladol Plismona a Diogelwch gan ddarparu addysgu ac ymchwil sy'n adlewyrchu'r amgylchedd plismona modern."