PDC yn ymuno â phartneriaeth canolfan seiber gyda Llywodraeth Cymru a Thales
14 Ionawr, 2019
Mae Prifysgol De Cymru (PDC), Llywodraeth Cymru a'r cwmni technoleg byd-eang Thales yn cydweithio i sefydlu canolfan seiber werth £20m a fydd yn rhan ganolog o raglen y Cymoedd Technoleg.
Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates, heddiw mai Canolfan Ecsploetio Ddigidol Genedlaethol (CEDdG) - sydd ym Mlaenau Gwent ac o dan ofal Thales mewn cydweithrediad â PDC - fydd y cyfleuster ymchwil a datblygu cyntaf o'i fath yng Nghymru. Bydd yn gweithredu fel canolfan lle gall busnesau bach a chanolig a microfusnesau brofi a datblygu eu cysyniadau digidol.
Bydd hefyd yn darparu labordy ymchwil lle gall cwmnïau rhyngwladol ddatblygu technoleg o bwys, a bydd yn cysylltu Cymru â chanolfannau technoleg o bwys ledled y byd.
Bydd y Ganolfan Seiber yn helpu Cymru i fanteisio ar y cyfleoedd byd-eang a ddaw o’r trawsnewidiad digidol, a bydd hefyd yn cyflwyno’r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar fusnesau i ennill cyfran fwy o brosiectau rhanbarthol a chenedlaethol mawr.
Bydd PDC yn cynnal Sefydliad Seiber Uwch yn y Ganolfan a fydd yn darparu canolfan ar gyfer ymchwil academaidd pwysig, gwerth miliynau o bunnoedd, a bydd hefyd yn gweithredu Canolfan Addysg Ddigidol fydd yn galluogi busnesau bach a chanolig, ysgolion ac unigolion i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i'w diogelu eu hunain ar-lein.
Yn ogystal â darparu cyfleuster hanfodol ar gyfer busnesau bach a chanolig ac ymchwil academaidd yng Nghymru, bydd y CEDdG hefyd yn gwreiddio cwmni technoleg enfawr Thales yn gadarn yng nghymoedd De Cymru. Tîm bychan fydd yn rheoli'r ganolfan, y mae rhai ohonyn nhw eisoes wedi eu recriwtio o'r gymuned leol.
Mae Llywodraeth Cymru a Thales wedi ymrwymo £10m yr un i'r prosiect ac mae disgwyl iddo greu incwm sylweddol. Mae disgwyl i holl elfennau’r prosiect, ar wahân i agweddau addysgol y ganolfan, fod yn gwbl hunangynhaliol o fewn pum mlynedd.
Wrth gyhoeddi'r bartneriaeth, dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates: "Rwyf wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â'r cwmni technoleg byd-eang Thales ar ganolfan seiber newydd gwerth £20m a fydd wedi'i lleoli ym Mlaenau Gwent ac wrth wraidd prosiect y Cymoedd Technoleg.
"Bydd y ganolfan yn helpu i sicrhau bod Cymru'n manteisio ar gyfleoedd byd-eang yn sgil y trawsnewidiad digidol, gan ddarparu canolfan ar gyfer ymchwil arloesol. Bydd yn cyflwyno’r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar fusnesau o bob math a maint i ennill cyfran fwy o brosiectau rhanbarthol a chenedlaethol mawr.
"Rwy'n hyderus y byddwn ni, drwy ein partneriaeth â Thales a Phrifysgol De Cymru, yn gweithio i ysgogi a chreu cyflogaeth mewn busnesau gwerth uchel ym maes technoleg - uchelgais sydd wrth galon prosiect y Cymoedd Technoleg."
Dywedodd yr Athro Julie Lydon, Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru: "Mae PDC eisoes yn cael ei chydnabod am ei harbenigedd mewn seiberddiogelwch, gyda'n Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSA) yng Nghasnewydd yn gweithio'n agos gyda busnesau i roi profiad go iawn i fyfyrwyr yn y sector.
"Mae'r arbenigedd hwn wrth baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa mewn diwydiant yn golygu ein bod mewn sefyllfa ddelfrydol i gefnogi nod CEDdG o harneisio ymchwil academaidd ac addysg i raddedigion i ddatblygu dealltwriaeth o'r farchnad, gwella gallu technolegol, a datblygu gweithlu medrus yng Nglyn Ebwy a rhanbarth ehangach De Cymru drwy ei hallgymorth addysgol, cyrsiau DPP, a chefnogaeth i fusnesau bach a chanolig.
"Bydd y prosiect hwn yn gam sylweddol ymlaen o ran cynyddu enw da'r rhanbarth yn y farchnad fyd-eang ar gyfer graddedigion seiber ac arbenigedd ymchwil, sy’n cynyddu bob dydd."
Dywedodd Gareth Williams, Is-Lywydd Systemau Cyfathrebu a Gwybodaeth Diogel Thales: "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Prifysgol De Cymru a Chyngor Blaenau Gwent i ddatblygu a chyflawni'r CEDdG. Bydd hyn yn gonglfaen i'n galluoedd seiberddiogelwch yn y DU, yn darparu man profi ar gyfer ein technoleg, a hefyd yn gatalydd i adfywio’r rhanbarth.
"Bydd y cyfleuster hynod dechnegol a hygyrch hwn yn ganolfan i addysg, seiber a datblygu digidol, ac yn gyswllt rhwng de Cymru a chanolfannau technoleg mawr ledled y Deyrnas Unedig."