PDC i weithio gyda phum heddlu i ddarparu addysg swyddogion

21 Mai, 2019

RTS Awards 2020 Midnight Court cast and crew

Yr Athro Peter Vaughan, Cyfarwyddwr Prosiectau Strategol: Plismona a Diogelwch, yn PDC; Helen Martin, Rheolwr Pwnc Academaidd ar gyfer Plismona a Diogelwch yn PDC; Yr Athro Julie Lydon, Is-Ganghellor PDC; Yr Athro Jonathan Crego, a ddatblygodd system Hydra Minerva a ddefnyddir i hyfforddi swyddogion heddlu yn PDC; Dr James Gravelle, Pennaeth yr Ysgol; a Hannah Coombs, Rheolwr Academaidd ar gyfer Plismona Gweithredol.

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi arwyddo cytundebau i ddarparu addysg arbenigol i swyddogion heddlu newydd ar draws pedwar heddlu yn Lloegr ac un yng Nghymru.

Bydd Heddlu Dyfnaint a Chernyw, Heddlu Dorset, Heddlu Swydd Gaerloyw, Heddlu Wiltshire a Heddlu Dyfed-Powys yn cael Prentisiaeth Gradd Cwnstabl yr Heddlu (PCDA) a'r Rhaglen Mynediad i Ddeiliaid Gradd Ôl-raddedig (DHEP) a ddarperir gan arbenigwyr yn adran Plismona a Diogelwch PDC, mewn cydweithrediad â hyfforddwyr o'r pum heddlu.

Bydd cyfanswm o 2,214 o swyddogion ar draws pedwar o heddluoedd De Orllewin Lloegr yn dechrau ar eu hastudiaeth gyda PDC, sydd, ynghyd â'n partneriaeth bresennol gyda Heddlu Dyfed-Powys, yn ddaearyddol yn cynrychioli tua 20% o'r DU.

Bydd y prentisiaid heddlu a'r swyddogion myfyrwyr graddedig hyn yn ymuno â'u llu yn raddol drwy gydol y flwyddyn, gyda thua 400 yn dechrau'r rhaglenni bob blwyddyn.

Yn gynharach eleni, PDC oedd y brifysgol gyntaf yn y DU i gael ei hyfforddiant ar gyfer cwnstabliaid graddedig yr heddlu wedi'i ddilysu, trwy gydweithrediad â Heddlu Dyfed-Powys. Dilysodd y bartneriaeth hon hefyd ei chwrs gradd israddedig ar gyfer cwnstabliaid gweithredol yr heddlu, gan sefydlu PDC fel un o'r prifysgolion cyntaf yn y DU i ennill yr un gydnabyddiaeth.

Yn dilyn proses gymeradwyo hir a thrylwyr, rhoddwyd achrediad gan y Coleg Plismona i'r Diploma Graddedig mewn Ymarfer Plismona Proffesiynol a'r BSc (Anrh) Ymarfer Plismona Proffesiynol.

Mae'r cymeradwyaethau yn ganlyniad i symudiadau i 'broffesiynoli' y rhai sy'n dod i mewn i'r heddlu fel cwnstabliaid, trwy'r Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona (PEQF).

Bydd hyn yn cynnwys tri llwybr gwahanol i'r proffesiwn: prentisiaeth lefel gradd, y bydd swyddogion yn ei chwblhau yn ystod eu cyfnod prawf; rhaglen i raddedigion ar gyfer swyddogion sydd eisoes â gradd, sydd hefyd i'w chwblhau yn ystod eu cyfnod prawf; a gradd israddedig cyn-ymuno mewn plismona proffesiynol, a fydd yn gwrs prifysgol draddodiadol a gwblhawyd cyn gwneud cais i ymuno â gwasanaeth yr heddlu.

Mae gan PDC hanes hir o ddarparu addysg yr heddlu, ar ôl dysgu gradd Gwyddorau’r Heddlu am y 15 mlynedd diwethaf. Mae hyn bellach wedi esblygu i radd cyn-ymuno gydnabyddedig y Coleg Plismona.

“Rwy'n falch o ddweud mai PDC yw'r unig brifysgol yn y DU ar hyn o bryd i fod mewn partneriaeth â lluoedd heddlu i ddarparu'r cymwysterau pwysig hyn, ar draws Cymru a Lloegr,” esboniodd yr Athro Peter Vaughan, Cyfarwyddwr Prosiectau Strategol: Plismona a Diogelwch yn PDC.

“Mae'r ddarpariaeth hon yn sefydlu PDC fel un o'r darparwyr prentisiaethau mwyaf a'r mwyaf blaenllaw yn y wlad, gan osod y Brifysgol o fewn chwartel uchaf Sefydliadau Addysg Uwch.

“Gan symud ymlaen fel arweinwyr y farchnad, edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda'r Coleg Plismona a'n lluoedd partner i hyrwyddo'r gwaith o broffesiynoli'r gwasanaeth heddlu, gan wireddu uchelgais y PEQF.”

Cyrsiau Plismona a diogelwch yn PDC