Ymchwil PDC ar flaen y gad o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy
20 Mehefin, 2019
Mae prosiect ymchwil dan arweiniad Canolfan Hydrogen Prifysgol De Cymru yn un o nifer o ddatblygiadau ynni gwyrdd a gafodd eu datgelu’n ddiweddar gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.
Mae ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos mai Castell-nedd Port Talbot yw'r ardal awdurdod lleol sydd â'r cyfanswm uchaf o gapasiti ynni adnewyddadwy (358 MW) a'r un sy’n cynhyrchu’r mwyaf o ynni adnewyddadwy, gydag amcangyfrif o 1122 GWh ledled Cymru.
Mae FLEXIS (Systemau Ynni Integredig Hyblyg), prosiect ymchwil gwerth £24 miliwn dan arweiniad PDC, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe, yn cefnogi Strategaeth Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy'r Cyngor drwy gymhwyso ei ymchwil at safle ffisegol yn y sir, a elwir yn ardal arddangos FLEXIS.
Nod y prosiect yw datblygu gallu i ymchwilio i systemau ynni yng Nghymru a fydd yn adeiladu ar y gallu o'r radd flaenaf sydd eisoes yn bodoli ym mhrifysgolion Cymru, ac a fydd yn cael ei gyflwyno yng Ngorllewin Cymru, Cymoedd y De a Dwyrain Cymru.
Mae un o'r cynlluniau blaenllaw yn cynnwys defnyddio hydrogen sy'n cael ei gynhyrchu o drydan gweddilliol fel tanwydd ar gyfer cerbydau. Arweinir y gwaith hwn gan yr Athro Alan Guwy, Pennaeth Canolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy PDC, a Jon Maddy, Rheolwr y Ganolfan Hydrogen.
Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Prif Ymchwilydd FLEXIS: "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mor agos â Chyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot ar nifer o brosiectau hydyniant sy'n cyfrannu at ddyfodol carbon isel a chlyfar. Mae creu swyddi, mynd i'r afael â thlodi tanwydd ac ansawdd aer i gyd yn ddeilliannau hollbwysig o ymchwil FLEXIS."
Mae Cyngor CNPT wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda FLEXIS, sy'n amlinellu nifer o brosiectau eraill gan gynnwys: datblygu cerbydau allyriadau isel ymhellach; defnyddio system 'ynni gwyrdd' arloesol sy'n defnyddio amonia i storio a rhyddhau ynni sero-carbon; hydrogen a dŵr mwyngloddiau fel gwres ar gyfer cartrefi a chymunedau; a gweithio gyda phartneriaid diwydiannol i ddad-beryglu datgarboneiddio gwres.
Wedi'i ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, gweledigaeth prosiect pum mlynedd FLEXIS yw sicrhau system ynni wydn, fforddiadwy a diogel ledled Cymru gyda'r potensial ar gyfer ei defnyddio’n fyd-eang.