Partneriaeth yn rhoi cyfle i'r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilm weithio ar gynyrchiadau teledu blaenllaw

5 Rhagfyr, 2019

Professor Julie Lydon and Allison Dowzell with Emily Wright, a graduate who works for Bad Wolf in His Dark Materials

DRWY BARTNERIAETH newydd unigryw, bydd myfyrwyr a graddedigion Ysgol Ffilm a Theledu Cymru Prifysgol De Cymru yn cael gweithio ar gynyrchiadau teledu blaenllaw.

Bydd y genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilm yn cael cyfle i weithio ar gynyrchiadau teledu blaenllaw, diolch i bartneriaeth newydd unigryw rhwng Prifysgol De Cymru a Chynghrair Sgrin Cymru.

Bydd y cytundeb tair blynedd rhwng Ysgol Ffilm a Theledu Cymru, a leolir ar Gampws Caerdydd Prifysgol De Cymru, a Chynghrair Sgrin Cymru, yn cryfhau perthynas sydd eisoes wedi rhoi cyfle i fyfyrwyr a graddedigion o Brifysgol De Cymru weithio ar gynyrchiadau teledu mawr, gan gynnwys y gyfres ddrama boblogaidd His Dark Materials.

Gan weithio fel hyfforddeion yn Stiwdios Wolf Caerdydd, mae graddedigion o Brifysgol De Cymru wedi bod yn gweithio ar gynhyrchiad y BBC a HBO o drioleg Philip Pullman His Dark Materials yn ogystal â drama HBO 'Industry' o dan gyfarwyddyd Lena Dunham, a dwy gyfres o ddrama boblogaidd Sky One, 'A Discovery of Witches'. 

Mae eu profiadau wedi amrywio o gynorthwywyr cynhyrchu a thechnegwyr sain, i weithio yn y gweithdy propiau a gweithio i ddylunwyr gweledol His Dark Materials, Painting Practice.   

Bydd y cytundeb yn golygu bod Cynghrair Sgrin Cymru yn dal i hyrwyddo'r gwaith y mae'n ei wneud gydag Ysgol Ffilm a Theledu Cymru, gan gefnogi'r gwaith o recriwtio a datblygu myfyrwyr newydd gyda Phrifysgol De Cymru ar yr un pryd.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, cafodd dros 50 o fyfyrwyr leoliadau cysgodi, tra bod 30 o fyfyrwyr wedi cael eu cyflogi mewn swyddi gyda thâl. Mae 500 o fyfyrwyr eraill o Brifysgol De Cymru wedi bod ar daith o gwmpas y Stiwdios i gael golwg y tu ôl i'r llenni a chwrdd â thimau cynhyrchu. 

Mae Cynghrair Sgrin Cymru hefyd wedi helpu i ddarparu ystod o ddosbarthiadau meistr, gweithdai a digwyddiadau ar gyfer yr Ysgol Ffilm a Theledu a cholegau partner Addysg Bellach Prifysgol De Cymru. Bydd Cynghrair Sgrin Cymru hefyd yn parhau i weithio gyda Phrifysgol De Cymru i ddatblygu partneriaethau pellach posib, ac i weithio gydag ysgolion i hyrwyddo a beirniadu Gwobrau Ysgolion a Cholegau blynyddol Ysgol Ffilm a Theledu Cymru.

Llofnodwyd y cytundeb gan yr Athro Julie Lydon, Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru, ac Allison Dowzell, Rheolwr Gyfarwyddwr Cynghrair Sgrin Cymru, mewn dangosiad a digwyddiad panel gyda graddedigion o Brifysgol De Cymru a fu’n gweithio ar His Dark Materials.

Meddai'r Athro Lydon: “Mae'r gwaith gyda Chynghrair Sgrin Cymru wedi bod yn llwyddiant aruthrol ac mae wedi creu cyfleoedd anhygoel i’n myfyrwyr. Rydyn ni'n falch iawn o allu cyhoeddi y bydd y bartneriaeth hon yn parhau i ehangu dros y tair blynedd nesaf.

“Mae ein gwaith agos gyda Chynghrair Sgrin Cymru yn sicrhau bod ein myfyrwyr a’n graddedigion yn cael cyfle heb ei debyg i gael profiad o weithio ar ystod amrywiol a chyffrous o gynyrchiadau teledu, gan helpu i wneud Caerdydd yn un o’r prif ganolfannau ar gyfer cynhyrchu teledu, nid yn unig yng ngwledydd Prydain, ond ledled y byd.

“Mae Prifysgol De Cymru yn bodoli i roi'r profiad mewn diwydiant sydd ei angen ar ein hisraddedigion i lwyddo yn eu dewis yrfa, a does dim enghraifft well o hyn na’n gwaith gyda Chynghrair Sgrin Cymru.”

Meddai Allison Dowzell, Rheolwr Gyfarwyddwr Cynghrair Sgrin Cymru: “Mae’r bartneriaeth sydd gan Gynghrair Sgrin Cymru a Phrifysgol De Cymru yn unigryw. I bobl sy'n astudio yng Nghymru ac yn y Brifysgol yma, mae'n rhoi profiad ymarferol na fyddent yn ei gael mewn ystafell ddosbarth neu gyda'r ffordd arferol o ddysgu mewn prifysgolion.

“Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'r Brifysgol i nodi'r bylchau sgiliau a chyfleoedd ar gyfer datblygu talent rydyn ni'n eu gweld yn y dyfodol, felly rydyn ni'n ceisio sicrhau hefyd bod y diwydiant yn addas ar gyfer y dyfodol.

“Mae cael y berthynas yna gyda phrifysgol, a galluogi eu graddedigion a’u myfyrwyr i gael amser go iawn a phrofiad ymarferol yma yn y stiwdio, yn gam enfawr ymlaen i bob un ohonon ni.”