Pump ffaith nad oeddech chi (yn ôl pob tebyg) yn eu gwybod am fasnach caethweision
18 Tachwedd, 2019
Mae Dr Chris Evans, athro Hanes yn USW, yn ymchwilio i ddiddymiadaeth yn y byd Prydeinig yn y 19eg ganrif a'r cysylltiadau rhwng diwydiant Ewropeaidd a masnach gaethweision yr Iwerydd.
1. Dechreuodd masnach caethweision yr Iwerydd yn llawer cynharach nag yr ydych chi'n ei feddwl. Dechreuodd y Portiwgaliaid fasnachu caethion Affricanaidd yn y 1440au. Yn Lloegr, nid oedd Rhyfeloedd y Rhosynnau wedi dechrau eto.
2. Nid masnach drawsatlantig oedd hi i ddechrau. Yn y dyddiau cynnar, byddai caethweision Affricanaidd yn cael eu symud i Bortiwgal neu i ynysoedd yr Iwerydd, fel Madeira, i weithio ym maes amaethyddiaeth.
3. Nid oedd yr Unol Daleithiau yn gyrchfan arwyddocaol i longau caethweision. Pan fyddwn yn dychmygu caethwasiaeth, rydym yn arfer meddwl am ddelweddau o daleithiau deheuol America. Mewn gwirionedd, glaniodd llai na phump y cant o ddioddefwyr caethwasiaeth drawsatlantig ar arfordir yr Unol Daleithiau fel y gwyddom amdani heddiw. Cludwyd y rhan fwyaf o gaethweision Affricanaidd i'r Caribî (45 y cant) neu i Frasil (45 y cant).
4. Nid oedd y 'fasnach drionglog' bob amser yn drionglog. Rydym yn aml yn meddwl am fasnach caethweision yr Iwerydd fel tair rhan. Hwyliodd caethfasnachwyr o borthladdoedd Ewrop yn cludo nwyddau wedi'u gweithgynhyrchu. Masnachodd caethfasnachwyr y nwyddau hynny am gaethion ar arfordir Affrica. Yna hwyliodd y caethfasnachwyr i'r Byd Newydd, gwerthasant eu carcharorion, a dychwelasant i Ewrop, gan gwblhau'r triongl. Fodd bynnag, roedd llawer o'r masnachu i Frasil yn ddwy ochrog. Gadawodd caethfasnachwyr Rio de Janeiro, aethant am Angola, a daethant yn syth yn ôl i Frasil.
5. Parhaodd masnach caethweision yr Iwerydd yn hirach nag yr ydych chi'n ei ddychmygu. Diddymodd y Prydeinwyr eu masnach caethweision ym 1807; felly hefyd yr Americanwyr. Parhaodd y fasnach i ffynnu, fodd bynnag, hyd at y 1850au. Hwyliodd y llong gaethweision olaf y gwyddys amdani, a gludodd gaethweision i Giwba, ym 1866.