PDC yn ennill dyfarniad Efydd Athena SWAN am ymrwymiad at gydraddoldeb rhyw
3 Ebrill, 2020
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi cael cydnabyddiaeth am ei hymrwymiad at gydraddoldeb rhyw gyda dyfarniad Efydd gan Athena SWAN.
Siarter Rhywedd Advance HE yw Athena SWAN, ac mae’n cydnabod y camau gweithredu mae Sefydliadau Addysg Uwch (SAU) yn eu rhoi ar waith o ran materion ym ymwneud â chydraddoldeb rhyw. Mae Advance HE yn sefydliad sydd â chyfrifoldeb dros helpu sefydliadau addysg uwch i lywio dyfodol y sector.
Cafodd y siarter ei sefydlu yn 2005 i annog a chydnabod ymrwymiad at ddatblygu gyrfaoedd menywod mewn swyddi gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) yn y sectorau addysg uwch ac ymchwil.
Yn 2015 cafodd y siartr ei hehangu i gydnabod gwaith sy’n cael ei wneud yn y celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol, busnes a’r gyfraith, mewn rolau cymorth a phroffesiynol, ac ar gyfer staff a myfyrwyr trawsryweddol. Mae’r siarter bellach yn cydnabod gwaith a wneir i fynd i’r afael â chydraddoldeb rhyw yn fwy cyffredinol, ac nid dim ond brwydro’r rhwystrau sy’n effeithio ar gynnydd menywod.
Yn rhan o’r broses ymgeisio, mae tîm hunan-asesu yn dadansoddi gwybodaeth meintiol ac ansoddol yn drylwyr i nodi materion allweddol yn ymwneud â chydraddoldeb rhyw, a chynllun gweithredu pedair mlynedd i fynd i’r afael â nhw.
Mae PDC wedi penodi aelod o staff o bob Cyfadran i fod yn Hyrwyddwyr Athena SWAN ar ei rhan. Yr Hyrwyddwyr sy’n ffurfio tîm hunan-asesu PDC, sydd â Dr Louise Bright, y Cyfarwyddwr Ymchwil ac Ymgysylltu â Busnes, yn gadeirydd arno.
Dywedodd Dr Bright: “Rydyn ni wrth ein bodd bod ein gwaith ar gydraddoldeb rhyw, amrywiaeth a chynhwysiant wedi ei gydnabod gan Athena SWAN. Mae’n dyst i waith caled llawer o bobl o bob cwr o PDC, gan gynnwys ein Hyrwyddwyr Athena SWAN, sydd wedi gweithio’n ddiflino i ymgysylltu gyda chydweithwyr yn eu hamryfal feysydd a sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed. Rwy’n edrych ymlaen at weld y newidiadau cadarnhaol a ddaw pan fydd ein cynllun gweithredu Athena SWAN cyffrous yn cael ei roi ar waith.”