Copr Abertawe: Hanes Byd-eang

20 Hydref, 2020

Gweithfeydd Copr Segur

Yn ystod y ddeunawfed ganrif, fe wnaeth ‘proses Gymreig’ chwyldroadol newydd o fwyndoddi copr yn effeithlon wneud Abertawe yn ganolbwynt i’r diwydiant copr byd-eang. Yn wir, rhwng y 1770au a’r 1840au, roedd ardal Abertawe’n cynhyrchu traean o gopr wedi’i fwyndoddi’r byd yn rheolaidd, ac weithiau’n rhagori ar y gyfran hon.

Yr hanes trawsgenedlaethol anhygoel hwn sydd wedi ysgogi astudiaeth newydd arloesol gan yr Athro Chris Evans o PDC a’r Athro Louise Miskell (Prifysgol Abertawe).

Swansea Copper: A Global History yw'r llyfr cyntaf i fanylu ar effaith fyd-eang cynhyrchu copr yn Abertawe, a sut y trawsnewidiodd Ynysoedd Prydain o ganlyniad i newid technolegol mawr, a dod yn ganolfan fwyaf deinamig y byd ar gyfer mwyndoddi copr.

Yn y ddeunawfed ganrif, roedd perthynas Abertawe â chopr fel perthynas Manceinion y bedwaredd ganrif ar bymtheg â chotwm neu Detroit yr ugeinfed ganrif â cheir. Gan ddechrau tua 1700, daeth Abertawe yn fan lle ffynnodd dull chwyldroadol newydd o fwyndoddi copr, a fedyddiwyd yn ddiweddarach fel y Broses Gymreig.

Gan ddefnyddio glo mwynol fel ffynhonnell ynni, roedd mwyndoddwyr Abertawe yn gallu cynhyrchu copr mewn meintiau a oedd yn gwbl annirnadwy yng nghanolfannau mwyndoddi hen, sefydledig canolbarth Ewrop a Sgandinafia. Ar ôl rhai camau cyntaf petrusgar, daeth ardal Abertawe yn ganolfan fwyndoddi o bwysigrwydd Ewropeaidd, ac yna’n fyd-eang.

Yn Swansea Copper, mae Chris Evans a Louise Miskell yn olrhain hanes gwneud copr ym Mhrydain o ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, pan drawsnewidiodd y Broses Gymreig ddiwydiant copr Prydain, i'r 1890au, pan aeth teyrnasiad Abertawe fel y chwaraewr mwyaf blaenllaw ym masnach copr y byd i ddirywiad llwyr.

Gan symud yn ôl ac ymlaen mewn amser, mae Evans a Miskell yn dechrau trwy archwilio sefyllfa copr yn Ewrop y Baróc, gan arolygu'r dirwedd gynhyrchiol y ffrwydrodd Copr Abertawe ynddi a manylu ar y dulliau y gwnaeth hynny.

Maent yn egluro sut y cyflawnodd copr Abertawe oruchafiaeth fyd-eang yn y blynyddoedd rhwng y Rhyfel Saith Mlynedd a Waterloo, yn archwilio rheoliadau masnachol newydd a ganiataodd fod copr yn cael ei fewnforio o bob cwr o'r byd i Brydain, ac yn cysylltu cynnydd y fasnach gopr â chynnydd y fasnach gaethweision drawsatlantig. Maent hefyd yn archwilio cynnydd cystadleuol diwydiant copr yr Unol Daleithiau ar ôl y Rhyfel Cartref.

Er bod llawer o gyfraniadau at hanes byd-eang yn canolbwyntio ar nwyddau defnyddwyr o ansawdd uchel —cerameg Tsieineaidd, cotwm Indiaidd, a'u tebyg—mae Swansea Copper yn archwilio nwydd cynhyrchiol, sef metel, a chwaraeodd ran allweddol wrth gefnogi technolegau newydd yr oes ddiwydiannol, fel grym ager a thrydan.

Gan ddangos yn fedrus pa mor ddwfn y mae hanes mwynau wedi'i wreiddio yn hanes y byd modern, mae Evans a Miskell yn cyflwyno ymchwil newydd nid yn unig ar Abertawe ei hun, ond ar y lleoedd yr effeithiodd ei diwydiant copr arnynt: trefi mwyngloddio yng Nghiwba, Chile, De Affrica, a De Awstralia.

Bydd y llyfr craff hwn o ddiddordeb i unrhyw un sy'n ymwneud â gwreiddiau hanesyddol globaleiddio, a'r Chwyldro Diwydiannol fel ffenomen fyd-eang.

Gwybodaeth am yr Athro Chris Evans

Mae’r Athro Chris Evans yn gweithio ar hanes diwydiannol o’r ail ganrif ar bymtheg i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a hanes caethwasiaeth yr Iwerydd yn oes y diddymiad.