Yr Athro Damian Bailey yn Gadeirydd newydd Gweithgor Gwyddorau Bywyd yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd

16 Hydref, 2020

Yr Athro Damian Bailey

Mae’r Athro Damian M Bailey, Athro Ffisioleg a Biocemeg yn Uned Ymchwil Niwrofasgwlaidd PDC wedi'i benodi'n Gadeirydd y Gweithgor Gwyddorau Bywyd (LSWG) dan ofal yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd.

Bydd yn arwain gwyddonwyr gorau Ewrop drwy dywys a llywio ymchwil fiofeddygol yn y dyfodol sy'n gysylltiedig â’r gofod, gyda'r ffocws hirdymor ar deithiau i’r gofod.   

Mae'r LSWG yn cynnwys gwyddonwyr blaenllaw’r byd ar draws pob arbenigedd gwyddor bywyd, ac mae'n uwch gorff ymgynghorol i Gyfarwyddwr Teithiau Gofod â Chriw a Microddisgyrchiant ar bob mater gwyddonol sy'n ymwneud â disgyblaethau ymchwil gwyddorau bywyd a ffisegol yn y gofod. Dyma brif ddehonglydd barn ac anghenion y gymuned wyddonol Ewropeaidd o ran mynediad at arbrofi ym maes y gofod o dan ficroddisgyrchiant ac amodau gofod eraill. 

"Dyma'r tro cyntaf i gynrychiolydd o'r DU gael ei benodi i'r rôl fawreddog hon ac mae’n anrhydedd enfawr i mi, ac yn wir, yn destun gwyleidd-dra, i gael fy ngofyn i wneud hyn," meddai'r Athro Bailey. 

"Rwyf wedi fy nghyfareddu â gwyddoniaeth gofod ers pan oeddwn yn blentyn, a bydd llawer o ffocws ein tîm ar sicrhau bod archwilio’r gofod yn ddiogel, gan arwain at daith i'r blaned Mawrth â chriw, sy'n ffaith wyddonol gadarn ac nid yn ffuglen yn unig. 

"O safbwynt personol, mae gen i ddiddordeb arbennig yn y ffordd y mae micro/gor-ddisgyrchiant yn effeithio ar swyddogaeth ymennydd gofodwyr ar ôl cwblhau sawl arbrawf hedfan parabolig," parhaodd yr Athro Bailey. 

Penodwyd yr Athro Bailey yn ddiweddar hefyd i'r Pwyllgor Cynghori ar Archwilio’r Gofod (SEAC) dan ofal Asiantaeth Ofod y DU, oherwydd ei arbenigedd mewn ffisioleg yr ymennydd.