Troseddau cyllyll: tlodi ac anghydraddoldeb yn sail i drais angheuol ar y stryd, meddai'r Athro Fiona Brookman

2 Mawrth, 2020

Pwyllgor Dethol Troseddau Cyllyll Ieuenctid

Mae Fiona Brookman, athro Troseddeg, wedi cyfrannu at adroddiad Senedd y DU ar droseddau â chyllyll.

Canfu ei thystiolaeth nad oedd y Llywodraeth yn "gwrando ar bobl ifanc" a bod ffactorau cymdeithasol fel tlodi ac anghydraddoldeb yn brif ffactorau sylfaenol troseddau â chyllyll. Mae'r adroddiad, a gynhyrchwyd gan Bwyllgor Dethol Ieuenctid Cyngor Ieuenctid Prydain ac a gyflwynwyd i Dŷ'r Cyffredin, yn ystyried strategaeth bresennol y Llywodraeth i fynd i'r afael â throseddau â chyllyll a'i chyfyngiadau, a'r hyn sydd angen ei wneud o hyd.

Gwahoddwyd yr Athro Brookman gan y Pwyllgor Dethol Ieuenctid i ddarparu tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig yn seiliedig ar dystiolaeth ymchwil, gan gynnwys ei thystiolaeth ei hun.

Roedd ei thystiolaeth, a grynhoir isod, yn sail uniongyrchol i argymhellion a chasgliadau'r adroddiad.

Canfyddiadau ac argymhellion allweddol Athro Brookman:

· Mae angen ymchwil ansoddol fanylach gyda phobl ifanc i helpu i ddeall trais â chyllyll a beth sy’n ysgogi hyn yn well. Mae deall 'realiti byw' pobl ifanc mewn cymunedau amrywiol yn hanfodol mewn unrhyw ymdrechion i fynd i'r afael â thrais (sy'n gysylltiedig â chyllyll neu fel arall).

· Mae diwylliannau stryd treisgar yn dod i'r amlwg mewn ymateb i anfantais strwythurol (Brookman, 2010). Mae angen i'r Llywodraeth fynd i'r afael â

gwreiddiau strwythurol trais ieuenctid trwy fuddsoddiad parhaus i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a thlodi yn hytrach na chwilio am 'atebion' tymor byr.

· Mae ymgysylltu ystyrlon â phobl ifanc yn allweddol. Mae cwmpas sylweddol i gynnwys pobl ifanc (troseddwyr presennol a chyn-droseddwyr, dioddefwyr lle bo modd a phobl ifanc yn gyffredinol) mewn ystod eang o grwpiau a fforymau'r Llywodraeth a sefydliadau eraill ac, yn hollbwysig, wrth ddylunio a chyflwyno rhaglenni gwaith a allai helpu i lywio pobl ifanc i ffwrdd o drais a thuag at ddewisiadau bywyd cadarnhaol. Yn rhy aml, mae grwpiau o'r fath yn methu â chynnwys llais pobl ifanc sydd, wedi'r cyfan, yn gwybod yn well nag unrhyw oedolion, sut beth yw bod yn unigolyn ifanc a theimlo fel unigolyn ifanc heddiw.

· Pwysigrwydd ymgysylltu â negeswyr a chefnogwyr credadwy wrth gyflwyno unrhyw fentrau newydd a'r problemau gyda chynyddu/ailgyflwyno strategaethau 'stopio a chwilio'. O ystyried y ddadl ynghylch stopio a chwilio, a'r effeithiau niweidiol sydd wedi'u dogfennu'n dda ar ymddiriedaeth a pherthnasoedd rhwng yr heddlu a'r gymuned, mae angen i gymunedau ddeall pam a sut y gallai hyn fod yn ddefnyddiol fel rhan o set ehangach o atebion arfaethedig.

· Yn olaf, pwysigrwydd gwella cysylltiadau rhwng yr heddlu a'r gymuned. Mae tystion yn amharod (am lawer o resymau) i ymgysylltu â'r heddlu (gan gynnwys ofn dial, diffyg ymddiriedaeth yn yr heddlu, diffyg amddiffyn tystion yn effeithiol). Cymunedau yw'r conglfaen i ddatrys lladdiadau ac felly mae'n bwysig dod o hyd i ffyrdd newydd o ymgysylltu â chymunedau anodd eu cyrraedd a'u haelodau sydd yn aml â gwybodaeth bwysig. Mae rôl y Swyddog Cyswllt â Theuluoedd (FLO) a ddefnyddir yn ystod ymchwiliadau i laddiadau (Brookman a McGarry, 2015) yn aml yn gweithio'n dda iawn ond gellid, gydag adnoddau priodol, ei hehangu i ymchwiliadau i droseddau treisgar nad ydynt yn angheuol, neu ei defnyddio hyd yn oed yn fwy cynhwysfawr ym mhob ymholiad ynghylch llofruddiaethau.