Corff ar y traeth: Sut mae arbenigwyr yn Ne Cymru yn gweithio ar ddirgelion sydd heb eto eu datrys
7 Medi, 2020
Corff dyn canol oed yn cael ei ganfod ar draeth yn un o fannau mwyaf pellennig Ynysoedd Prydain ddiwedd y 1970au. Modrwy â’r geiriau 'Georgio a Katrina 1956' arni yw’r unig gliw o ran pwy oedd y dyn hwn.
Efallai bod hyn yn teimlo fel agoriad nofel neu ddrama deledu, ond mae'n sefyllfa wir y mae gwasanaeth newydd o'r enw Ymchwiliadau Canolfan Locate i Bobl Goll yn ymchwilio iddo. Partneriaeth o arbenigwyr yw Locate, sy’n cynnwys, ymhlith eraill, academyddion a myfyrwyr o Brifysgol De Cymru (PDC).
Un o'r achosion cyntaf o Olion Dynol Heb Eu Hadnabod mae’r Ganolfan yn ymchwilio iddyn nhw yw rhai dyn y cafwyd hyd i’w gorff ar draeth Port Minick ar Ynysoedd Sili ar 21 Chwefror, 1979. Tua diwedd 'Gaeaf Anniddig’ y DU oedd hi, ychydig fisoedd cyn i Margaret Thatcher ddod yn Brif Weinidog.
Er iddo ddigwydd dros 40 mlynedd yn ôl, mae amgylchiadau’r farwolaeth yn ddirgelwch o hyd. O ble daeth y corff, pwy oedd Georgio a Katrina, a beth oedd arwyddocâd y flwyddyn 1956?
Mae Ynysoedd Sili tua 40km oddi ar arfordir Cernyw yn ne-orllewin Lloegr, ac ar gyrion sawl corff mawr o ddŵr – Môr Iwerddon, y Sianel, a Môr Iwerydd. 100 milltir yn unig i ffwrdd, mae Môr Hafren, gyda'i lanw enfawr.
Y gred oedd bod y dyn wedi cael ei eni rhwng y rhyfeloedd byd a’i fod rhwng 40 a 60 oed adeg ei farw. Roedd wedi bod yn y dŵr ers o leiaf bedwar mis. Roedd yn wyn ac yn rhyw 5 troedfedd a 4 modfedd o daldra, gyda gwallt brown tywyll yn troi’n llwyd, ac roedd yn gwisgo crys llawes fer glas a gwyn dros fest Eltex gwlân.
Roedd y fodrwy ag arysgrif arni ar fys modrwy ei law dde a chredir mai modrwy briodas oedd hi.
Er gwaethaf treigl amser, nid yw'r dyn erioed wedi'i adnabod.
"Mae ymchwilwyr wedi methu â datrys dirgelwch y dyn ar y traeth ar Ynysoedd Sili ers dros bedwar degawd, ond rydym yn gobeithio y gall dulliau cyfathrebu modern, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol, ddod â gobaith o'r newydd bod modd datrys y dirgelwch.
"Mae'n debyg mai ychydig iawn o resymau all esbonio pam bod y dyn penodol hwn wedi cyrraedd y traeth penodol hwnnw ar yr adeg benodol honno. Ond i ddeall y rhesymau hyn a'u rhoi at ei gilydd i ddatrys y dirgelwch, rydyn ni angen cael pobl yn cynnig gwybodaeth, waeth pa mor fychan bynnag, i ni. Gallai hynny ein helpu i gwblhau'r jig-so drwy agor llinellau ymholi cwbl newydd."
Mae achos 'Georgio a Katrina' yn un o nifer o achosion y mae Locate yn gweithio arnyn nhw, gydag Uned Pobl Goll y DU (Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol) hefyd yn rhan o’r ymchwiliad.
Yn dîm o arbenigwyr mewn ymchwiliadau i lofruddiaethau a throseddau difrifol heb eu datrys, mae arbenigwyr Locate-International yn defnyddio dulliau arloesol i fwrw achosion pobl goll yn eu blaen. Mae'n gwmni buddiannau cymunedol sy'n ymroi i helpu teuluoedd i ddod o hyd i'w hanwyliaid neu i atebion. Nid oes cost i deuluoedd.
"Rydym yn gwneud hyn drwy adeiladu timau o arbenigwyr o wahanol ddisgyblaethau a gwirfoddolwyr o gymunedau lleol. Mae'r timau'n ymchwilio ac yn adolygu'r achosion i sicrhau bod popeth y gellir yn rhesymol ei wneud wedi cael ei wneud neu yn cael ei wneud".
"Rydym yn ystyried achosion heb eu datrys ar y cyd er mwyn deall materion yn well, yr hyn sy’n gyffredin rhyngddynt a sut y gellir datblygu ymchwiliadau i achosion pobl sydd ar goll."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth allai helpu’r ymchwiliad, anfonwch e-bost i [email protected]