PDC yn codi 24 safle yng Nghanllaw Prifysgolion Da papur newydd y Times
18 Medi, 2020
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi codi 24 safle yn The Times and Sunday Times Good University Guide 2021.
Roedd yn safle rhif 114 y llynedd, ac mae wedi codi i safle rhif 90 yng Nghanllaw eleni.
Mae pob SAU arall yng Nghymru wedi aros yn yr un lle o ran eu safle yng Nghymru, mewn perthynas â’i gilydd, ag oedden nhw yn 2020, ac eithrio Caerdydd ac Abertawe, lle cyfnewidiodd y naill sefydliad ei safle â’r llall.
Mae pob Prifysgol yng Nghymru wedi codi yn y tabl ac eithrio Abertawe, sydd wedi mynd o safle 31 i safle 36. Mae Caerdydd wedi aros yn safle 34. PDC sydd â’r ail gynnydd mwyaf yn y tabl.
Mae PDC wedi gweld gwelliant cymharol yn y metrigau a ddefnyddir ar gyfer y tabl o ran Rhagolygon Graddedigion, cwblhau, Anrhydeddau Da, Cymarebau Staff Myfyrwyr, a'n gwariant cymharol ar wasanaethau a chyfleusterau.
Mae gan PDC dri phwnc yn 30 uchaf y DU. Mae Mathemateg yn safle rhif 15 – i fyny o 31 llynedd - Polisi Cymdeithasol yn 26, a Chelf a Dylunio yn 30. Ymhlith y gwelliannau nodedig eraill ers 2020 mae Celf a Dylunio (59 i 30), Addysg (77 i 41), Lletygarwch, Hamdden a Thwristiaeth (50 i 38), Y Gyfraith (56 i 31), Cerddoriaeth (65 i 49), a Gwyddor Chwaraeon (61 i 42).
Dywedodd yr Athro Martin Steggall, Dirprwy Is-ganghellor PDC: "Yn dilyn y cynnydd diweddar o 32 safle yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian, dyma newyddion gwych eto i PDC.
"Mae cofnodi canlyniadau mor drawiadol yn brawf bod ein staff yn gweithio'n galed iawn yn gyson i sicrhau bod myfyrwyr yn cael addysg a phrofiad o ansawdd uchel
"Mae hefyd yn wych gweld gwelliannau mewn ystod o bynciau, a nifer yn cael eu graddio ymhlith goreuon y sector.
"Fel gyda'r holl Ganllawiau hyn, mae nhw hefyd yn tynnu sylw at feysydd lle gallwn wella. Mae gennym yr arbenigedd a'r profiad i sicrhau cynnydd ymhob Canllaw, a byddwn yn ystyried nawr sut y gallwn ddefnyddio hyn i adeiladu ar y llwyddiannau rydyn ni eisoes wedi eu sicrhau.”