Cyn-fyfyrwyr PDC yn rhan o grŵp o raddedigion newydd sy’n gweithio fel ymgynghorwyr cyfreithiol
4 Rhagfyr, 2020
Zoe Turner a Rebecca Moore
Mae dau gyn-fyfyriwr o Brifysgol De Cymru (PDC) wedi ymuno â grŵp o 11 o raddedigion newydd sy’n gweithio fel ymgynghorwyr cyfreithiol ac sydd wedi sicrhau swyddi gyda busnes cyfreithiol Ewropeaidd mawr.
Mae Zoe Turner a Rebecca Moore ymhlith y grŵp sy'n ymuno â thîm cyngor cyfreithiol Grŵp DAS UK yn eu canolfan alwadau ym Medwas, ger Caerffili.
"Rydyn ni’n falch iawn o groesawu'r garfan newydd i deulu DAS UK," dywedodd Nicole Rogers, Uwch Gyfreithiwr Cysylltiol ac Arweinydd Tîm yn DAS Law.
"Mae cynefino a meithrin y genhedlaeth nesaf o dalent yn hanfodol ar gyfer llwyddiant hirdymor ein busnes. Mae'r recriwtio yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i gefnogi graddedigion newydd a chynnig cyfleoedd iddynt uwchsgilio a chael effaith gadarnhaol ar y gymuned a'r economi."
Dywedodd Julia Rees, Partner Lleoliadau Gwaith, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd PDC: "Dyw Covid-19 ddim wedi dod â’r bartneriaeth i ben. Eleni rydyn ni wedi addasu a gwneud pethau'n wahanol.
"Yr hydref hwn rydyn ni wedi recordio deunyddiau gan ddarlithwyr gwadd a threfnu lleoliadau gwaith o bell ar gyfer 2021.
"Roedden ni’n dal yn awyddus i sicrhau bod ein myfyrwyr LLB ail flwyddyn yn dod i gysylltiad â chyflogwyr, felly trefnwyd wythnos 'Canolbwyntio ar Gyfreithwyr' gyda sesiynau Holi ac Ateb gyda chyflogeion DAS, a chynnig cyfle i wneud ffug gyfweliadau rhithwir gyda DAS."
Er gwaethaf diweithdra cynyddol ac effaith Covid-19, mae DAS UK wedi ymrwymo i ddenu a recriwtio talent newydd. Mae'r cwmni wedi sefydlu perthynas gref a hirsefydlog gyda phrifysgolion lleol allweddol ledled y DU i lansio a chyflwyno amrywiaeth o fentrau, fel ffeiriau gyrfaoedd, diwrnodau ffug gyfweliadau/clinigau CV, darlithoedd gwadd, clinigau cyngor cyfreithiol, a lleoliadau profiad gwaith i raddedigion.
Mae Grŵp DAS UK yn rhan o Grŵp ERGO, un o grwpiau yswiriant mwyaf Ewrop. Y cyfranddaliwr mwyafrifol yn ERGO yw Munich Re, un o ailyswirwyr mwyaf y byd.