Hwb o £4m i ariannu ymchwil y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru
9 Rhagfyr, 2020
Yr Athro Hefin Rowlands Astute 2020 Prif Ymchwilydd Prifysgol De Cymru:
Gall busnesau gweithgynhyrchu ledled Cymru barhau i arloesi’n flaengar yn sgîl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru bod £4 miliwn o gyllid yn dod o’r UE.
Bydd y gefnogaeth ychwanegol yn adeiladu ar lwyddiant partneriaeth ymchwil prif sefydliadau addysg uwch Cymru, a arweinir gan ddiwydiant, trwy estyn rhaglen ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch).
Dan arweiniad Prifysgol Abertawe, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, mae ASTUTE 2020 wedi bod yn cydweithio â’r diwydiant ers 10 mlynedd, yn cyflwyno ymchwil, datblygu ac arloesedd effeithiol ar sail y galw yn y sector gweithgynhyrchu ledled Cymru.
Nawr bod Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop wedi darparu cyllid ychwanegol, gall ASTUTE 2020 barhau i gefnogi busnesau tan fis Medi 2022.
Mae’r academyddion o’r radd flaenaf a’r arbenigwyr technegol o fri sy’n rhan o ASTUTE 2020 yn defnyddio dull gweithredu amlddisgyblaeth sy’n cwmpasu ymchwil, yr arloesedd ddiweddaraf, arbenigeddau penodol a’r cyfleusterau diweddaraf.
Mae’r tîm yn cefnogi busnesau i ddileu risgiau a rhoi newid ar waith, gan wneud yn fawr o gyfleoedd presennol a newydd, a datblygu cynnyrch a gwasanaethau cynaliadwy trwy gymhwyso gwybodaeth, cyfarpar, deunyddiau a phobl mewn modd integredig.
Dywedodd yr Athro Hefin Rowlands Astute 2020 Prif Ymchwilydd Prifysgol De Cymru:
“Mae Prifysgol De Cymru yn falch iawn o fod yn bartner ym mhrosiect Astute 2020 sydd eisoes yn cael effaith ar fusnesau gweithgynhyrchu Cymru.
“Croesewir yr arian ychwanegol ar gyfer y prosiect. Bydd yn galluogi cefnogaeth bellach i fwy o gwmnïau gweithgynhyrchu yng Nghymru wella eu cynhyrchion a'u prosesau yn ystod yr amseroedd ansicr hyn. "
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth, a Gogledd Cymru, Ken Skates:
“Mae pandemig y coronafeirws wedi dangos pa mor anhygoel o bwysig yw hi bod ein sector gweithgynhyrchu yn derbyn y gefnogaeth a’r adnoddau angenrheidiol i addasu ei brosesau a’i weithrediadau yn ôl y gofyn.
“Rwyf wrth fy modd bod y cyllid hwn yn mynd i gefnogi’r sector, ac rwy’n hyderus y bydd yn ein helpu i gael hyd i atebion pwysig, arloesol wrth i ni barhau i gael hyd i ffordd trwy’r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn a ffurfio bywyd y tu hwnt iddo.
Mae rhaglen ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch), sy’n cefnogi cwmnïau gweithgynhyrchu ledled Cymru, wedi cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a’r Sefydliadau Addysg Uwch cyfranogol.