Mae Rhwydwaith Jean Monnet ar Wrthderfysgaeth yr UE yn dechrau gyda Chynhadledd Ryngwladol dri diwrnod

9 Rhagfyr, 2020

Placeholder Image 1

Bydd Rhwydwaith Jean Monnet ar Wrthderfysgaeth yr UE (EUCTER) sydd newydd ei sefydlu, ac sydd o dan arweiniad Prifysgol De Cymru (PDC), yn dechrau gyda chynhadledd ryngwladol dri diwrnod. Bydd y gynhadledd yn dod â phobl allweddol sy’n ymwneud â pholisi gwrthderfysgaeth rhyngwladol at ei gilydd ac academyddion sy’n ymwneud ag astudio terfysgaeth, gwrthderfysgaeth a radicaleiddio.

Dyma rai o’r bobl fydd yn annerch y gynhadledd: 

  • Federica Mogherini (Rheithor Coleg Ewrop a chyn Uchel Gynrychiolydd / Is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd)
  • Michèle Coninsx (Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol a Chyfarwyddwr Gweithredol Pwyllgor Cyfarwyddiaeth Weithredol Gwrthderfysgaeth y Cenhedloedd Unedig)
  • Christiane Hoehn (Prif Gynghorydd Cydgysylltydd Gwrthderfysgaeth yr UE)
  • Claudio Gazelrano (Pennaeth y Ganolfan Wrthderfysgaeth Ewropeaidd – Europol)
  • Syr Rob Wainwright (cyn Gyfarwyddwr Gweithredol Europol)
  • Francisco Fontán Pardo (Pennaeth Is-adran Wrthderfysgaeth y Gwasanaeth Gweithredu Allanol Ewropeaidd)
  • Georgia Holmer (Pennaeth Uned Gweithredu yn erbyn Terfysgaeth – Adran Fygythiadau Trawswladol OSCE)
  • Philippe Rio (Pennaeth Cenhadaeth Sahel yr UE)
  • Syr Julian King (Cyn-Gomisiynydd Diogelwch a Chyn-Lysgennad y DU ym Mharis a Dulyn)

Uchafbwynt arbennig yn y gynhadledd fydd darlith ar yr 20 mlynedd o wrthderfysgaeth yn Ardal Rhyddid, Diogelwch a Chyfiawnder Ewrop, gan yr Athro Jörg Monar. 

Dywedodd yr Athro Christian Kaunert, Cyfarwyddwr Canolfan Ragoriaeth Jean Monnet, a’r Ganolfan Ryngwladol Plismona a Diogelwch (ICPS) yn PDC: “Yn ystod y gynhadledd, byddwn yn archwilio dimensiwn byd-eang gwrthderfysgaeth yr UE, yn ogystal â’r heriau niferus rydym yn eu hwynebu megis terfysgaeth adain dde eithafol, ariannu terfysgaeth, ymosodiadau gan unigolion, radicaleiddio jihadaidd, swyddogaeth rhywedd mewn heddwch a diogelwch, heriau seiberderfysgaeth, ac effaith Covid-19 ar wrthderfysgaeth hefyd. Yn bwysig, byddwn hefyd yn trafod dyfodol Agenda Gwrthderfysgaeth yr UE a fydd yn cael ei lansio ar Ragfyr 9, gan ddod â’r byd academaidd a’r llunwyr polisi ynghyd er mwyn manteisio ar ein harbenigedd perthnasol i helpu i wthio’r agenda bwysig hon ymlaen.”

Mae Rhwydwaith Jean Monnet ar Wrthderfysgaeth yr UE (EUCTER), o dan arweiniad PDC, hefyd yn cynnwys Prifysgol Gorllewin Lloegr Bryste a Phrifysgol Caerdydd yn y DU, Prifysgol Dinas Dulyn yn Iwerddon, Prifysgol Augsburg yn Yr Almaen, Sefydliad Egmont yng Ngwlad Belg, Prifysgol Maastricht yn Yr Iseldiroedd, Prifysgol Pisa yn Yr Eidal, CIDOB Barcelona a Phrifysgol Deusto Bilbao yn Sbaen, Prifysgol Iasi yn Romania, Prifysgol Metropolitan Prague yn Y Weriniaeth Tsiec, yr IDC Herzliya yn Israel a Phrifysgol Jendouba yn Nhiwnisia.