Y gweinidog iechyd yn croesawu ymchwil Nyrsio Ardal yn y Gymdogaeth

1 Rhagfyr, 2020

Placeholder Image 1

Mae Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, wedi croesawu adolygiad sydd wedi ei gyhoeddi gan Brifysgol De Cymru (PDC) ar dri Chynllun Peilot Nyrsio Ardal yn y Gymdogaeth. Dechreuodd y cynlluniau peilot dwy flynedd, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, ym mis Ebrill 2018. 

Mae adroddiad PDC yn tynnu sylw at yr hyn a ddysgwyd gan y Timau Nyrsio Ardal yn y Gymdogaeth prototeip a sut maen nhw’n  cyd-fynd â strategaeth 'Cymru Iachach'.

Ym mis Mawrth 2019, cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ymchwiliad undydd i nyrsio cymunedol a nyrsio ardal. Ym mis Awst y flwyddyn honno, cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad ar yr ymchwiliad hwnnw a oedd yn cynnwys 10 argymhelliad.  Derbyniwyd naw o'r rhain gan y Gweinidog.

Roedd dau o'r argymhellion hyn yn ymwneud â'r Cynlluniau Peilot Nyrsio Ardal yn y Gymdogaeth, a gafodd eu gwerthuso yn rhan o ymchwil PDC.

Y cyntaf oedd y dylid cyflwyno’r dysgu’n genedlaethol pe bai gwerthusiad y cynlluniau peilot yn gadarnhaol.  

Roedd yr ail yn argymell y dylid hefyd gyflwyno’r systemau e-amserlennu llwyth achosion, oedd hefyd yn cael eu rhoi ar brawf yn rhan o’r gwerthusiad, pe bai’r gwerthusiad hwnnw’n gadarnhaol.

Yn gefn i’r gwaith o gyflwyno’r hyn a ddysgwyd o’r cynlluniau peilot yn genedlaethol, mae'r Gweinidog wedi penderfynu penodi Arweinydd Nyrsio Cenedlaethol ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chymunedol yn rhan o'r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol. Bydd y swydd hon yn dechrau ddiwedd mis Tachwedd 2020.

Dywedodd y Gweinidog hefyd y bydd byrddau iechyd nad oedden nhw’n rhan o'r cynlluniau peilot cychwynnol yn cael arian i ddechrau gweithio ar ddatblygu dull cenedlaethol o e-amserlennu llwyth achosion, gyda Phartneriaeth Genedlaethol Gwasanaethau a Rennir Cymru yn arwain ar ddatblygu contract i Gymru gyfan.