Yr Athro Stuart Todd yn ymuno ag astudiaeth o effaith y pandemig ar bobl ag anableddau dysgu
16 Tachwedd, 2020
Mae’r ymchwilydd o Brifysgol De Cymru, yr Athro Stuart Todd, wedi ymuno ag arbenigwyr eraill ledled y DU mewn astudiaeth o brofiadau pobl ag anableddau dysgu yn ystod pandemig Coronafeirws. Mae’r project yn cael ei ariannu gan UK Research and Innovation.
Yn gweithio gyda thîm o ymchwilwyr o brifysgolion Metropolitan Manceinion, Warwick, Bryste, Caerdydd, Caint, Glasgow, Llundain ac Ulster, bydd y project yn siarad yn uniongyrchol â phobl ag anableddau dysgu i ddeall yr heriau y maen nhw wedi eu hwynebu. Dros y flwyddyn nesaf, nod y tîm yw siarad â 1,000 o oedolion ag anabledd dysgu, ac â 500 o ofalwyr teuluol neu staff cymorth cyflogedig, ar dri achlysur gwahanol. Yr Athro Todd sy'n arwain yr astudiaeth yng Nghymru, ynghyd â Dr Steve Beyer o Brifysgol Caerdydd.
"Cyn y pandemig Coronafeirws roedd pobl ag anableddau dysgu yn fwy tebygol o fod ag iechyd gwaeth, bywydau cymdeithasol tlotach a mwy cul, a llai o arian na phobl heb anableddau dysgu," dywedodd yr Athro Todd
"Rydyn ni bellach yn gwybod bod pobl ag anableddau dysgu mewn mwy o berygl o farw o ganlyniad i Coronafeirws na phobl eraill, yn enwedig pan yn iau. Mae angen i ni wybod nawr sut effeithiodd y pandemig ar fywydau pobl ag anableddau dysgu, a chynnig cyngor ynghylch sut gall gweithwyr proffesiynol a llywodraethau wella'r sefyllfa."
I wneud hyn yng Nghymru, bydd y tîm yn siarad yn uniongyrchol â 200 o bobl ag anableddau dysgu a 100 o ofalwyr teuluol a staff cymorth cyflogedig. I sicrhau llwyddiant yr astudiaeth yng Nghymru, mae'r ymchwilwyr yn gweithio gyda Fforwm Rhieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu Cymru Gyfan, Anabledd Dysgu Cymru, a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan.