Anrhydeddu myfyrwyr newyddiaduraeth mewn gwobrau hyfforddiant darlledu cenedlaethol

13 Tachwedd, 2020

UNIVERSITY of South Wales (USW) journalism students and graduates were recognised at the annual Broadcast Journalism Training Council (BJTC) awards held earlier this week (Nov 10 2020).

CAFODD myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Newyddiaduraeth o Brifysgol De Cymru (PDC) eu cydnabod gan wobrau’r Cyngor Hyfforddi Newyddiaduraeth Ddarlledu (BJTC) a gynhaliwyd yn gynharach yr wythnos hon (Tach 10).

Yn ystod y seremoni wobrwyo, a gynhaliwyd ar-lein eleni ac a wyliwyd gan fyfyrwyr yn y Sinema ar Gampws Caerdydd PDC ac o'u cartrefi eu hunain, enwyd 'Zoom Newsday 3', a gafodd ei olygu, ei gynhyrchu a’i gyflwyno gan dîm o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf ac ail a thrydedd flwyddyn BA Newyddiaduraeth PDC, yn enillydd y categori ‘Newsday’ Rhithwir/Ar-lein. Enillodd Wobr Steve Harris hefyd am y cyfraniad mwyaf nodedig at y gystadleuaeth gyfan.

Yng nghategori’r Rhaglen Ddogfen Radio Orau, cafodd gwaith y cyn-fyfyriwr Dan Moffat ‘10 Years On: What's Occurring on Barry Island?’ yr ail wobr.  Roedd yn edrych ar sut mae’r rhaglen deledu 'Gavin and Stacey' wedi newid tref y Barri a'i chyrchfan glan môr, a sut mae bywyd yno wedi cael ei drawsnewid gan bandemig coronafeirws.

Dywedodd Emily Price, myfyrwraig newyddiaduraeth blwyddyn gyntaf, o Dde Cymru, yr oedd ei stori’n ganolbwynt i Zoom Newsday 3:   "Rwyf wedi synnu’n lân, ond yn falch iawn o fod wedi ennill y wobr, yn enwedig Gwobr Steve Harris am newyddiaduraeth. 

"Roedden ni'n gwybod bod gennym brif stori dda ac fe weithion ni’n dda iawn fel tîm i'w thynnu at ei gilydd.  Roedd yn gyfnod mor anodd oherwydd Covid ac mae'n wych bod rhywbeth da wedi dod ohono.

"Mae bod yn rhan o ennill y wobr hon yn gwbl wych."

Dywedodd Dan Moffat, sy'n wreiddiol o Ogledd Iwerddon ac a oedd yn olygydd Zoom Newsday 3, a aeth ar-lein yn ystod y cyfnod cloi cyntaf ac a gefnogwyd gan arweinydd y modiwl Beccy Leach ac arweinydd y cwrs Newyddiaduraeth Craig Hooper: "Rwyf mor falch ein bod i gyd wedi dod at ein gilydd yn ystod cyfnod anodd iawn ac wedi rhoi stori at ei gilydd oedd yn ecsliwsif i ni ac a achosodd dipyn o stŵr yma yng Nghymru a thu hwnt.

"Rwy'n credu ein bod ni hefyd wedi ymdrin â'r stori'n deg gyda dadansoddi gwleidyddol da. Mae ennill y wobr yn profi mor gryf y mae’r cwrs yn PDC o ran cyflwyno’r sgiliau sydd eu hangen arnon ni."

Dywedodd y Darlithydd Beccy: "Roedd pethau mor anodd pan ddaeth y brifysgol i ben yn sydyn oherwydd y cyfnod cloi.  Dechreuon ni'r ‘newsdays’ rhithwir i ddod â'r myfyriwr yn ôl at ei gilydd - ac roedd cymaint o straeon pwysig i'w cynnwys. Roedd y dechnoleg i gyd yn newydd i ni a bu'n rhaid i ni ddysgu'n gyflym. 

"Pob clod i Emily a ddeliodd mor dda â stori gref oedd o ddiddordeb mawr i’r cyhoedd, ac i weddill y tîm a weithiodd yn galed i ddod â'r bwletin cyfan at ei gilydd."

Dywedodd y beirniaid am waith PDC "Cynnwys ecsliwsif, wedi'i esbonio'n dda, ac effaith genedlaethol."

Elusen addysgol ddi-elw yw BJTC sy'n dwyn prif gyflogwyr darlledu amlgyfrwng y DU ynghyd, yn ogystal â chynrychiolwyr cyrsiau hyfforddi achrededig, i sicrhau bod myfyrwyr yn cael y safonau proffesiynol uchaf o hyfforddiant newyddiadurol.