Diwydiannau Cerdd Cymru mewn Byd Ôl-Covid

30 Tachwedd, 2020

Professor Paul Carr

Mae'r Athro Paul Carr, Athro Dadansoddi Cerddoriaeth Boblogaidd Prifysgol De Cymru (PDC), wedi cynhyrchu adroddiad ar effaith pandemig Covid-19 ar y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.

Ar ôl cael ei gomisiynu gan Ymchwil y Senedd ym mis Gorffennaf 2020, cyflwynodd yr Athro Carr ei ganfyddiadau i Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Senedd yn ystod ail hanner mis Tachwedd 2020.

Mae'r adroddiad yn ystyried diwydiant cerdd Cymru cyn pandemig Covid-19 ac ar ôl iddo daro, gan ganolbwyntio ar chwe maes penodol - Strategaethau Ailagor ac Adfer; Ymchwil; Cyfleoedd Strategol a Hyrwyddo; Polisi; Addysg; a Chyllid.  

Yna mae'n cyflwyno nifer o argymhellion ynghylch gweithredu i fynd i'r afael â phob un o'r rhain.

Sut roedd pethau cyn y pandemig?

Wrth drafod dylanwad cerddoriaeth cyn y pandemig, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at werth economaidd, cymdeithasol a diwylliannol cerddoriaeth ledled y byd. 

O ran yr economi, yn 2019:

  • Ystyriwyd bod diwydiannau cerddoriaeth y DU gwerth tua £5.2bn, yn creu dros 190,000 o swyddi. Cyfrifwyd bod Gwerth Ychwanegol Crynswth y diwydiannau cerddoriaeth fyw yn £1.1bn. Er gwaethaf hyn, amcangyfrifwyd mai tua £18,000 oedd cyflog blynyddol cyfartalog 'artistiaid ac asiantau creadigol' yng Nghaerdydd. Mae'r rhan fwyaf o randdeiliaid y diwydiannau yn llawrydd.
  • Roedd gan ddiwydiannau cerddoriaeth y DU gyfanswm refeniw allforio o £2.7bn, gyda £4.5bn ynghlwm hefyd wrth 'dwristiaeth cerddoriaeth fyw'. 
  • Denodd twristiaeth cerddoriaeth Cymru 363,000 o bobl, gyda chyfanswm gwariant o tua £124m, gan gynhyrchu 1,754 o swyddi.  

"Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod cerddoriaeth yn chwarae rhan bwysig wrth greu 'brand cenedlaethol', gan ddod ag ystyr a mwynhad i'n bywydau a hyrwyddo Cymru a'i diwylliant i'r byd," dywed yr adroddiad.

Beth mae'r pandemig wedi'i wneud i gerddoriaeth yng Nghymru?

Pan darodd Covid-19 yng ngwanwyn 2020, gwelodd y diwydiannau cerddoriaeth yng Nghymru ystod eang o weithgareddau’n cael eu canslo, gan gynnwys teithiau, gwyliau cerddoriaeth, gwaith mewn ystafelloedd ymarfer a stiwdios recordio, hyfforddiant cerddoriaeth, cerddoriaeth ar lawr gwlad, a chyngherddau, oll yn effeithio'n sylweddol ar y gwariant o £124m a briodolwyd i dwristiaeth cerddoriaeth Cymru.

Roedd cefnogaeth gan Lywodraethau'r DU a Chymru yn cynnwys rhyddhad ardrethi annomestig, a chyllid uniongyrchol ar gyfer y diwydiannau cerddoriaeth, gan gynnwys Cronfa Gwytnwch y Celfyddydau gwerth £7m, £401,551.39 wedi ei ddyrannu i 22 o fusnesau cerddoriaeth ar lawr gwlad yng Nghymru yn rhan o Gronfa Cymru Greadigol gwerth £1m, a'r Gronfa Adferiad Diwylliannol gwerth £53m.  Roedd yr olaf o’r rheiny, dywed yr adroddiad, 'yn araf i ddod i'r amlwg o'i gymharu â chenhedloedd eraill Ewrop, gyda dyraniad Cymru yn dal heb ei roi i leoliadau cerddoriaeth'. 

Mae nifer o fentrau ariannu gan y sector preifat, gan sefydliadau fel Undeb y Cerddorion, Y Gymdeithas Hawliau Perfformio, Help Musicians UK, a Chymdeithas y Cerddorion Annibynnol, wedi ceisio unioni'r diffygion yng nghynlluniau'r llywodraeth.

Mae llawer o'r gweithwyr llawrydd yn y diwydiannau cerddoriaeth a chreadigol wedi bod yn anghymwys ar gyfer cynlluniau cymorth Llywodraeth y DU, gydag Undeb y Cerddorion yn adrodd bod 88% o'i aelodau wedi'u siomi gyda'r gefnogaeth a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU.

Adroddodd yr Undeb hefyd fod bron hanner cerddorion y DU wedi gorfod chwilio am waith y tu allan i'r diwydiant, bod 70% yn methu ymgymryd â mwy na chwarter eu gwaith arferol, a bod dros draean heb unrhyw waith o gwbl.

Ym mis Mai, roedd Grŵp Cerddoriaeth Fyw y DU yn disgwyl i gymaint â £900m gael ei ddileu o'r £1.1bn yr oedd disgwyl i sector cerddoriaeth fyw'r DU ei gyfrannu at yr economi ddomestig, gydag 82% o leoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad yn nodi bod perygl y gallen nhw orfod cau’n barhaol.  

Amcangyfrifodd adroddiad ym mis Gorffennaf, ar gyfer pwyllgor dethol yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), fod 93% o leoliadau cerddoriaeth llawr gwlad ledled y DU yn wynebu cau'n barhaol, gydag 86% ohonynt yn nodi mai'r bygythiad mwyaf roedd eu busnesau'n ei wynebu oedd talu rhent.

Nid oedd lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad yn gallu rhoi mesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith oherwydd cyfyngiadau ariannol. 

Prin yw'r ymchwil, os o gwbl, i’r mathau o leoliadau cerdd, cyfanswm yr incwm, yr incwm a gadwyd, a’r cyfraniad at yr economi diwydiannau cerdd yng Nghymru’n benodol.

Mae perfformio byw yn cael ei dderbyn yn eang fel y sector diwydiant cerddoriaeth y mae'r pandemig wedi effeithio fwyaf arno. Mae hyn wedi atal gyrfaoedd cerddorol yng Nghymru, digon i greu, gyda’i gilydd, effaith fawr iawn. 

Beth gellir ei wneud?

Argymhellion i Lywodraeth Cymru eu hystyried:

  • Datblygu Strategaeth Ailagor ac Adfer - fydd yn amlinellu cynllun tymor byr clir o'r hyn sy'n bosibl nawr, yr hyn nad yw'n bosibl eto, yr hyn na fydd byth yn bosibl, a pha gymorth fydd ar gael ar gyfer yr holl sefyllfaoedd hyn.
  • Gweithio gydag arbenigwyr yn y diwydiannau cerdd, y sector prifysgolion, a Chyngor Celfyddydau Cymru, i ddatblygu strategaeth adfer dair blynedd hirdymor. Dylai hyn ystyried effaith Covid-19 ac ystyried sut y gall y diwydiant gynnal, cadw a meithrin talent, meithrin hyder y cyhoedd, a helpu i ailsefydlu'r diwydiannau cerddoriaeth.
  • Comisiynu ymchwil i'r rôl y mae cerddoriaeth yn ei chwarae yn economi, cymdeithas a diwylliant Cymru.
  • Adeiladu map rhyngweithiol o fathau o leoliadau yng Nghymru, a'u heffaith ar yr amgylchedd lleol, cenedlaethol a byd-eang.
  • Adeiladu system ar-lein i ddatblygu menter 'diwylliant gartref' i weithio ochr yn ochr â gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol eraill.
  • Gweithio gyda Llywodraeth y DU i leihau'r 'bwlch gwerth' – y gwahaniaeth rhwng incwm rhai sy’n creu cerddoriaeth a chomisiwn y 'cewri technoleg' - i artistiaid o Gymru.
  • Sicrhau nad yw'r diwydiant mor ddibynnol ar incwm masnachol.
  • Gweithio gyda chynghorau lleol ar drwyddedu hyblyg a rhyddhad ardrethi busnes i sicrhau bod y cyhoedd yn gallu manteisio ar ystod eang o gerddoriaeth fyw.
  • Sicrhau bod y sgiliau amrywiol sydd eu hangen yn y 'diwydiannau cerddoriaeth newydd' yn cael eu hadlewyrchu mewn ysgolion, colegau, prifysgolion a diwydiannau preifat.
  • Ystyried a chynllunio ar gyfer potensial argyfwng iechyd meddwl yn y diwydiannau cerdd.
  • Gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru i sicrhau bod cyllid ar gael yn deg drwy’r diwydiannau cerddoriaeth i gyd, a bod y broses o wneud ceisiadau grant yn cael ei symleiddio.

Argymhelliad Pellach:

  • Dylai Cymru Greadigol ystyried ei haelodaeth er mwyn sicrhau ei bod yn adlewyrchu arbenigedd y diwydiant cerddoriaeth, ac i'r corff ystyried ymarferoldeb cyflwyno protocolau ar gyfer rhoi blaenoriaeth i gerddoriaeth o Gymru ar y radio a'r teledu.

Wrth gloi ei adroddiad, nododd yr Athro Carr bod: "y diwydiannau creadigol yng Nghymru yn dal i wynebu bygythiad i’w bodolaeth sy'n herio bywoliaeth llawer o weithwyr is-sectorau'r diwydiannau cerddoriaeth. Felly, er na all adroddiad fel yr un hwn fynd i'r afael â phopeth, y gobaith yw ei fod yn ddechrau adeiladol."

Mae’r adroddiad llawn ar gael yn https://culture.research.southwales.ac.uk/publications/