Wrth i Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru gyrraedd ei ben-blwydd yn 25 oed, cyfle i ystyried sut mae pethau wedi newid, ond eto wedi aros yr un fath
16 Tachwedd, 2020
Wrth i Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru gyrraedd ei ben-blwydd yn 25 oed, dyma Gyfarwyddwr y Sefydliad yr Athro Mark Llewellyn yn ystyried sut mae pethau wedi newid i'r sectorau dros y chwarter canrif diwethaf.
Tua diwedd 1995 roedd y byd yn lle gwahanol iawn. Doedd Cymru ddim wedi pleidleisio dros ddatganoli, doedd Tony Blair ddim yn Stryd Downing, a doedd ‘Byg y Mileniwm’ ddim yn derm cyfarwydd.
I'r byd hwn y camodd Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, neu WIHSC, fel y mae’n cael ei adnabod gan lawer. Yn ganolfan ymchwil, wedi'i lleoli ym Mhrifysgol De Cymru, cafodd WIHSC ei chreu i drin a thrafod polisïau iechyd a gofal cymdeithasol a’r ffordd y maen nhw’n cael eu rhoi ar waith.
Fe'i datblygwyd i ddadansoddi systemau oedd yn effeithio ar bron pawb yng Nghymru, a chynghori ar sut y gellid eu gwella, gydag arbenigwyr yn cynnal ymchwil yn seiliedig ar dystiolaeth ac egwyddorion gorau'r byd academaidd – gwrthrychedd, tystiolaeth a didueddrwydd.
Er mor wahanol y mae’r byd mewn sawl ffordd erbyn hyn - gyda’r heriau sydd wedi dod yn sgil Covid-19 yn un o’r gwahaniaethau mwyaf - mae'r problemau sydd ynghlwm wrth reoli iechyd a gofal cymdeithasol yr un fath ag yr oedden nhw bryd hynny, ac mae'r cwestiynau sy'n cael eu gofyn am sut i wella systemau cymorth yn dal yn berthnasol.
Er bod rhai pethau’n debyg, fodd bynnag, bu llawer o newidiadau dramatig hefyd. Nid y lleiaf ymhlith y newidiadau hyn mae’r ffordd y mae pobl yn cael eu cynnwys mwy – yn ddinasyddion, yn ddefnyddwyr gwasanaethau, yn gleifion neu'n ofalwyr – mewn penderfyniadau personol a pholisi o ran y gofal y maen nhw ac eraill yn ei gael.
Cysyniad sy'n adlewyrchu dewis personol, ac sydd wedi dod yn fwyfwy cyffredin yn ystod y degawd diwethaf, yw 'cyd-gynhyrchu'. Ar ei orau, mae’r dull hwn yn cydraddoli'r pŵer rhwng pobl a gweithwyr proffesiynol, gan roi llais i bobl, a rheolaeth dros benderfyniadau a wneir am eu gofal, yn hytrach na'i fod yn rhywbeth sy'n cael ei 'wneud' iddyn nhw.
Ymgorfforwyd hyn yn y gyfraith gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac mae'n golygu bod gan gyrff cyhoeddus gyfrifoldeb y gellir ei orfodi'n gyfreithiol i weithio gydag unigolion, eu teuluoedd, eu ffrindiau a'u gofalwyr, a'u cynnwys wrth geisio sicrhau bod y gofal a'r cymorth maen nhw’n eu derbyn gystal ag y gallan nhw fod. Gall dinasyddion ddwyn cyrff i gyfrif am benderfyniadau a wneir amdanyn nhw.
Er i 'gyd-gynhyrchu' gael ei gydnabod yn swyddogol gan Ddeddf 2014, roedd y syniad bod unigolion yn cael dweud eu dweud, er mewn ffordd lai, eisoes ar waith yng Nghymru cyn y Mileniwm diolch i syniad a gyflwynwyd gan WIHSC, sef Rheithgorau Dinasyddion.
Yn dilyn esiampl rheithgorau tebyg yn Lloegr, America a'r Almaen, rhoddodd y Rheithgorau gyfle i ddinasyddion drafod materion cymhleth yn ymwneud â phwnc penodol ar ôl cyflwyno tystiolaeth iddyn nhw ar ddwy ochr y geiniog. Yna, rhoddwyd amser a chyfle iddyn nhw greu datrysiad ar gyfer cwestiwn penodol oedd wedi ei roi iddyn nhw ei ystyried.
Edrychodd y rheithgorau cychwynnol ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys effaith bosibl ymchwil genomau ar y gwasanaeth iechyd, barn grŵp o bobl ifanc ar effeithiau moesegol a meddygol dylunio geneteg babanod, ac a ddylai pobl hŷn gymryd aspirin yn ddyddiol.
Yn gynharach eleni, trefnwyd rheithgor ar-lein gan broject Mesur y Mynydd, sy'n ystyried effaith y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ar ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr. Mae’r project hwn yn cael ei gynnal ochr yn ochr â’r gwerthusiad cenedlaethol o'r Ddeddf sy'n cael ei arwain gan WIHSC mewn partneriaeth â thair o brifysgolion eraill Cymru.
Roedd rhoi cyfle i ddinasyddion drafod a dylanwadu ar arferion a pholisïau oedd yn effeithio ar eu gofal nhw a’u hanwyliaid, yn golygu ein bod yn gallu deall y materion oedd yn codi a’u cynnwys yn ein hymchwil.
Fel Cyfarwyddwr WIHSC, rwy'n hynod falch bod y Sefydliad wedi helpu, drwy reithgorau ac amryw brojectau eraill, i sicrhau bod unigolion yn gallu cymryd rhan mewn materion mor bwysig, a rhoi llwyfan i’w lleisiau a'u profiadau.
Wrth ddathlu llwyddiannau'r 25 mlynedd diwethaf, rhaid ystyried hefyd yr heriau enfawr sydd wedi eu creu gan Covid-19.
Mae'r pandemig wedi troi'r byd ben i waered, ac wedi achosi straen digyffelyb ar y gwasanaethau iechyd a gofal a'r sector gwirfoddol, mewn ffyrdd na allai'r staff a'r defnyddwyr erioed fod wedi'u dychmygu. Dydyn ni ddim yn gwybod eto pa heriau pellach y gallai'r gwasanaethau cymorth hanfodol hyn eu hwynebu dros y gaeaf a’r flwyddyn nesaf.
Mae yna o leiaf un llygedyn o obaith ar gyfer y dyfodol, fodd bynnag. I raddau helaeth, fel ymateb i’r sioc a achoswyd i gymdeithas gan yr Ail Ryfel Byd y cafodd y GIG a gwasanaethau cymdeithasol eu sefydlu. Mae'u heffaith ar gymdeithas wedi bod yn anfesuradwy.
Os daw unrhyw beth da o bandemig Covid-19, efallai mai’r posibilrwydd y byddwn ni fel cymdeithas yn dwys ystyried cynaliadwyedd gofal cymdeithasol a gofal iechyd yn ei ystyr ehangaf yw’r un peth da hwnnw. Mae’n ddyletswydd arnon ni i gynnig ateb cynaliadwy i'r heriau enfawr y mae darparu gofal - yn ofal iechyd ac yn ofal cymdeithasol - yn eu cyflwyno i bob un ohonom.