Hanesion Graddio | Bydwraig benderfynol yn dal gafael yn ei breuddwyd
9 Awst, 2021
Mae Sian Preddy, o Ben-y-bont ar Ogwr, wedi graddio o Brifysgol De Cymru (PDC), 12 mlynedd ar ôl holi'n gyntaf sut i wneud cais i astudio ar y cwrs Baglor Bydwreigiaeth (Anrh).
Mynychodd Sian, sy'n sylweddol fyddar ac sy'n gwisgo mewnblaniad cochlear, Ddiwrnod Agored yn 2009 a gofynnodd i diwtoriaid beth fyddai angen iddi ei oresgyn i ddilyn gyrfa mewn bydwreigiaeth.
Dywedodd Sian: "Rwyf wastad wedi eisiau gweithio yn y proffesiwn nyrsio, wedi i fi dreulio llawer o amser yn yr ysbyty pan oeddwn i’n iau. Yn yr ysgol, dywedwyd wrthyf na fyddai hyn yn bosibl gan fy mod yn 'rhy fyddar' ond mae gofalu am bobl wastad wedi bod yn rhywbeth greddfol i fi.
"Flynyddoedd lawer yn ddiweddarach, fe benderfynais fy mod i am fod yn fydwraig.
"Des i o hyd i stethosgop oedd wedi'i addasu ac yn ar ôl ychydig flynyddoedd yn goresgyn gwahanol rwystrau, dechreuodd fy nhaith at fod yn fydwraig.
Yn ystod ei chyfnod yn astudio, enillodd Sian ddwy wobr yng Ngwobrau Womenspire yng Nghaerdydd lle cafodd ei chanmol am ei phenderfyniad wrth ddilyn ei breuddwydion.
A hithau bellach wedi cymhwyso, mae Sian yn gweithio yn ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd Sian: "Mae'n fraint bod ymhob genedigaeth ac ar ddechrau bywyd newydd wrth iddo gychwyn ei siwrnai. Rwyf hefyd wrth fy modd yn grymuso menywod ac yn darparu gofal sy'n canolbwyntio ar fenywod. Mae bod yn fydwraig yn fraint."
"Ers ennill y gwobrau, rwyf wedi cael llawer o bobl fyddar yn cysylltu â fi i ofyn am gyngor ar sut i fynd i fydwreigiaeth. Rwyf bob amser yn hapus i helpu os gallaf.
"Fodd bynnag, allaf i ddim diolch digon i diwtoriaid PDC, yn enwedig Debbie, sydd wedi bod yn graig i fi ac a eiriolodd drosof bob amser. Roedd ei chefnogaeth yn gyson ac fe wnes i barhau i gredu ynof fi fy hyn hefyd."
Dywedodd Debbie Lucey, Uwch Ddarlithydd, Bydwreigiaeth: "Pan gwrddais i â Sian yn y Diwrnod Agored yr holl flynyddoedd hynny yn ôl, fe gawson ni sgwrs hir am y problemau a’r anawsterau y gallai Sian ddod ar eu traws. O'r diwrnod hwnnw, aeth Sian ati i ddod o hyd i atebion iddyn nhw i gyd, ac mae hi wedi gweithio'n ddiflino i gyflawni ei breuddwyd drwy gydol ei hamser yn PDC.
"Mae wedi bod yn bleser cael Sian ar y cwrs. Mae hi bob amser wedi rhoi menywod a'u teuluoedd wrth wraidd popeth a does dim yn ormod o drafferth iddi. Yn ystod ei chyfnod yn PDC, mae Sian wedi helpu ei chyfoedion, myfyrwyr eraill, staff y Brifysgol, a'r GIG gydag Ymwybyddiaeth o Fyddardod, ac mae hynny wedi bod yn werthfawr iawn.
"Bydd Sian yn gaffaeliad mawr i'r GIG a dymunaf y gorau iddi ar gyfer ei gyrfa yn y dyfodol. Rwy'n falch fy mod wedi chwarae rhan fach yn ei thaith at fod yn fydwraig."