"Mae wastad amser i helpu rhywun sy'n dioddef o orddos cyffuriau"

31 Awst, 2021

Drug overdose.jpg

I nodi Diwrnod Rhyngwladol Ymwybyddiaeth am Orddos (31 Awst 2021), mae Sharmila Mahesh Kumar, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol De Cymru, yn edrych ar oblygiadau ehangach gorddos cyffuriau.

"Mae nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau wedi bod yn cynyddu'n gyson yng Nghymru a Lloegr dros y ddeng mlynedd diwethaf (Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2020).  Awgryma ymchwil y gallai hyn fod oherwydd bod y boblogaeth sy'n defnyddio heroin yn heneiddio; bod mwy o ddefnyddio cyffuriau ar y cyd; bod mwy o gyffuriau ar gael neu am nad yw pobl yn ymgysylltu gyda gwasanaethau trin. Fodd bynnag, mae derbyn bod marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn rhywbeth anochel yn beryglus gan ei fod yn rhagdybio na ellir atal y marwolaethau hyn (Dennis, 2019).

Mae gorddos yn bwnc pwysig i fi, oherwydd fy mhrofiad blaenorol fel gweithiwr cyffuriau ac oherwydd fy ymchwil presennol sy'n ffocysu ar wella iechyd a lles pobl sy'n cael triniaeth yn sgil defnyddio heroin. Mae hyn wedi golygu, yn anffodus, fy mod yn adnabod pobl sydd wedi marw yn sgil gorddos cyffuriau, a phob tro y gwelaf ystadegyn am orddos, rwy’n dychmygu pobl a theuluoedd sydd wedi colli rhywun.

Ond, does neb yn marw ar unwaith o orddos, felly mae cyfle wastad i helpu rhywun. Mae ymchwil hefyd wedi dangos bod y rhan fwyaf o bobl sy’n ymateb i orddos yn weithwyr proffesiynol nad ydynt yn rhai meddygol.

Felly sut gall pobl helpu i achub bywydau? Ymhlith symptomau gorddos cyffuriau mae colli ymwybyddiaeth, anymatebwch, curiad calon araf, anadlu araf, chwydu, bysedd a gwefusau glas, ac wyneb oer a thamp. Mae symptomau gorddos opiadau neu heroin yn cynnwys cannwyll y llygaid yn fach iawn, syrthio’n anymwybodol ac anawsterau anadlu. Os ydych chi'n meddwl bod rhywun yn gorddosio o gyffuriau, peidiwch â chynhyrfu, a cheisiwch ddarganfod pa gyffuriau maen nhw wedi'u cymryd. Os byddant yn mynd yn anymwybodol, ffoniwch 999 am ambiwlans ar unwaith a'u rhoi yn y safle adfer. Arhoswch gyda nhw nes i'r ambiwlans gyrraedd, a dywedwch wrth y criw ambiwlans pa gyffuriau rydych chi'n meddwl mae'r person wedi'u cymryd.

Mae Naloxone yn gwrthdroi effeithiau gorddos heroin ac yn prynu amser gwerthfawr nes i ambiwlans gyrraedd. Mae wedi ei ddefnyddio’n effeithiol gan asiantaethau cyffuriau yng Nghymru i achub bywydau, ar y cyd ag Adfywio Cardio-pwlmonaidd. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Naloxone, cysylltwch â'ch asiantaeth gyffuriau leol.

Mae pobl sy'n defnyddio cyffuriau yn aml yn dioddef rhagfarn yn eu herbyn. 

Dywedodd un cyfranogwr yn ein hymchwil sy'n cael triniaeth ar gyfer defnyddio heroin ar hyn o bryd wrthon ni: 'O ran heroin, mae'n frwnt. Mae pobl yn meddwl taw chi yw baw isa’r domen. Dwi ddim yn mynd allan i ddwyn na dim byd felly. Rwy'n cadw ataf fy hun. Dyw pobl ddim yn gwybod fy mod i'n cymryd cyffuriau. Pan fydd pobl yn meddwl am heroin, maen nhw’n meddwl am gyffur budr.'

Mae ymchwil wedi dangos y gall methadone a buprenorphine hefyd helpu i achub bywydau. Ond pam mae cynnydd o hyd mewn marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau? Efallai fod angen ystyried y person y tu ôl i’r ystadegau, cynyddu  ymwybyddiaeth ynghylch gorddosau ac, yn bwysicaf oll, gweld y person yn hytrach na’r defnyddiwr cyffuriau."