Tad yn dilyn ôl traed ei fab drwy astudio ar gyfer yr un radd brifysgol

2 Awst, 2021

Mario Elias followed in his son's footsteps and did a degree in quantity surveying

Mae plant yn aml yn dilyn yn olion traed eu rhieni ac yn astudio'r un pwnc yn y brifysgol, ond mae'n anarferol i dad wneud yr un cwrs gradd ag y cwblhaodd ei fab flynyddoedd ynghynt.

Ond dyna'n union y mae Mario Elias wedi'i wneud, ac mae hefyd wedi profi nad ydych byth yn rhy hen i roi cynnig ar rywbeth newydd, wedi iddo ddechrau ei radd yn ei 50au hwyr.

Treuliodd y tad i ddau, sy’n wreiddiol o Abertyswg ger Rhymni, ond sydd bellach yn byw ym Mhontypridd, flynyddoedd lawer yn gweithio fel bwci, gan weithio yn y sector am fwy na thri degawd.

Ond gyda’r byd yn newid, a phobl yn gwario eu harian mewn ffyrdd gwahanol, penderfynodd ailystyried ei ddyfodol.

"Mae'r diwydiant wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf, gyda mwy o fetio ar y rhyngrwyd," meddai.

"Roedd llawer mwy o fwcis yn gweithio gynt – roedd gen i fy siop bwci fy hun - ond, fel sydd wedi digwydd i lawer o fusnesau, mae llawer ohono wedi mynd ar-lein, a’r stryd fawr wedi newid yn ddirfawr. 

"Oherwydd y newidiadau hyn, a'r pryder y gallwn golli fy swydd, gwnes i ddechrau ailystyried fy nyfodol. Sylweddolais fy mod yn dod nesau at oed ymddeol a doeddwn i ddim yn siŵr sut i roi cychwyn ar rywbeth newydd, ond rwy wastad wedi hoffi fy herio fy hun. 

"Fe wnes i gais am gwpl o swyddi oherwydd byddai angen rhywbeth arna i pe bai'r siop betio'n cau, ond dywedwyd wrtha i nad oedd gen i’r cymwysterau oedd eu hangen i wneud y gwaith.

"Ond rwy'n credu bod unrhyw beth yn bosibl i fi, os caf i rywun i ddangos sut mae gwneud rhywbeth.  Rwyf wedi gweithio mewn llawer o wahanol leoedd, becws, cwmni peirianneg, ac rwyf wedi bod yn eithaf llwyddiannus, ond gyda phob swydd y gwnes i gais amdani, yr ateb oedd nad oedd gen i’r cymwysterau, a dyw fy oedran ddim wedi helpu bob tro chwaith."

Er gwaethaf cael ei wrthod sawl tro, roedd Mario yn benderfynol na fyddai'n llithro i ymddeoliad tawel, a phenderfynodd ei bod yn werth ceisio am le mewn prifysgol.

"Roeddwn i'n meddwl y dylwn i ddilyn fy nghyngor fy hun. Roeddwn i wedi cael sgwrs gyda fy mab Lloyd pan adawodd yr ysgol a'i gynghori i ddilyn galwedigaeth y bydd ei hangen bob amser, fel adeiladu.  Dywedais wrtho, pe bai’n dysgu crefft, y byddai bob amser yn gallu cael gwaith," meddai Mario.

"Felly dechreuais edrych ar gyrsiau prifysgol, yn enwedig ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), lle gwnaeth Lloyd ei radd, gan raddio yn 2014 fel syrfëwr meintiau.

"Roeddwn i wastad wedi bod â diddordeb mewn adeiladu. Roeddwn wedi gwneud llawer o waith ar fy eiddo fy hun, ac wedi helpu ffrindiau yn y fasnach, felly edrychais ar ba gyrsiau oedd ar gael, a setlo ar wneud cais am le ar gwrs Tystysgrif Genedlaethol Uwch ar gyfer syrfewyr."

Roedd hynny dair blynedd yn ôl, ac, ar ôl cwblhau ei TGU symudodd Mario yn ei flaen i'r BSc Arolygu Meintiau a Rheoli Masnachol rhan-amser, y bydd yn dechrau ar ei ail flwyddyn nesaf.  Bydd yn gorffen ei radd mewn dwy flynedd, pan fydd yn 60 oed.

Mae'r cam o TGU i lefel gradd wedi bod yn her i Mario, ond yn un y mae'n fwy nag abl ei rheoli.

"Fy mwriad gwreiddiol oedd gwneud fy TGU yn unig, ond gofynnwyd i fi a oeddwn am fynd ymlaen i wneud gradd. Doeddwn i ddim yn siŵr ar y dechrau, ond dywedodd fy mab ei bod yn well cael gradd gan y byddai’n agor mwy o ddrysau yn y sector. Fe wnaeth fy annog i barhau," meddai Mario.

"Mae fy mhartner, a fy merch Lily, hefyd yn gefnogol iawn. Mae'r radd wir yn gam mawr yn ei flaen o’r TGU, mae llawer o bwysau.  Ond dyna sydd i’w ddisgwyl o wneud gradd."

Wrth edrych tua'r dyfodol, mae Mario yn bwriadu cael profiad yn y sector adeiladu wedi iddo raddio, a'i nod yw rhoi rhai o’r pethau mae wedi eu dysgu yn PDC ar waith, wrth iddo gamu i mewn i’w 60au.

Ond a fyddai'n cynghori pobl eraill i wneud yr un peth ac astudio’n ddiweddarach mewn bywyd?

"Rwy'n credu ei bod ond yn naturiol pan fyddwch chi'n mynd yn ôl i'r ystafell ddosbarth i gael amheuon, yn enwedig pan fyddwch chi wedi bod i ffwrdd o addysg ers cymaint o amser," meddai.

"Gadewais yr ysgol 40 mlynedd yn ôl. Rydych chi'n gofyn i chi'ch hun 'beth ydw i'n ei wneud?'. Ond wedi i chi ddod dros hynny, mae wir yn werth chweil. Rwyf wedi cael profiad gwych."