Arbenigwr PDC yn cael ei chanmol gan y Dirprwy Weinidog yn ystod Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth

11 Chwefror, 2021

Dr Emma Hayhurst -Woman in Science

Fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, amlygwyd darlithydd Prifysgol De Cymru (PDC) Dr Emma Hayhurst fel un o'r menywod anhygoel sy'n arwain y frwydr yn erbyn COVID yng Nghymru.

Amlygodd Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Jane Hutt, Llywodraeth Cymru, waith Dr Hayhurst, Uwch Ddarlithydd mewn Bioleg Foleciwlaidd, ochr yn ochr â'r Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol Dr Catherine Moore.

“Mae pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yn ei chwarae yn y byd heddiw. Ni fu gweithwyr proffesiynol STEM erioed o’r blaen mor amlwg yn llygad y cyhoedd,” meddai’r Dirprwy Weinidog.

“Mae'n hanfodol bwysig ein bod ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth yn cynyddu gwelededd, pwysigrwydd ac apêl gwyddoniaeth i bawb.

“Trwy rannu straeon am fodelau rôl benywaidd STEM yn ystod y pandemig, gobeithio y gallwn ysbrydoli ac ysgogi mwy o ferched a menywod i astudio STEM, gan eu gosod ar lwybr i yrfa werth chweil.”

Gan ganolbwyntio ar y gwaith y mae Dr Hayhurst a Dr Moore wedi'i wneud, ychwanegodd Jane Hutt: “Mae Dr Hayhurst yn wyddonydd arweiniol ar brosiect yn PDC i ddatblygu prawf cyflym ar gyfer COVID-19. Mae'r prawf yn gyflym ac yn gludadwy, nid oes angen ei brosesu mewn labordy, a gall y canlyniadau fod ar gael mewn llai na 30 munud.

“Mae Dr Moore yn Wyddonydd Clinigol Ymgynghorol, a arweiniodd yr ymdrech i sefydlu profion COVID-19 yng Nghymru o fewn mis iddo gael ei gydnabod fel y coronafeirws newydd. Arweiniodd hyn at labordy microbioleg Iechyd y Cyhoedd Cymru yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn dod yr ail yn y DU i allu profi am y feirws.

“Mae yna nifer o enghreifftiau o fodelau rôl benywaidd STEM yng Nghymru sydd wedi dod i amlygrwydd yn ystod pandemig COVID-19 ac rydw i am dalu teyrnged i’w holl waith anhygoel.

“Pa ddiwrnod gwell na Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, i ddangos pa mor bwysig yw astudio pwnc STEM ond yn bwysicach fyth arddangos i’r byd mai dyma rai o’r menywod anhygoel sy’n arwain y frwydr yn erbyn COVID-19 yng Nghymru.”

Dywedodd Dr Hayhurst: “Byddwn yn annog unrhyw ferched ifanc sydd eisiau mynd i mewn i STEM, i wneud hynny. Rwy'n credu ein bod ni'n wynebu cymaint o heriau yn y byd a gallai llawer ohonyn nhw gael eu datrys, yn rhannol o leiaf, trwy ddefnyddio pynciau STEM.

“Er mwyn gwneud hynny mae gwir angen gweithlu creadigol, amrywiol - felly po fwyaf o bobl sydd gennym o bob math o wahanol gefndiroedd, y mwyaf o siawns sydd gennym o ddatrys y problemau sy'n ein hwynebu.”