Creu Cymru newydd gyda PDC

25 Chwefror, 2021

GettyImages-1198042394.jpg

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn cydweithio â Manufacturing Wales i alluogi busnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru i gael mynediad at dalent, ymchwil, cyfleusterau ac arloesedd cydweithredol o'r radd flaenaf.

Dywedodd yr Athro Paul Harrison, Dirprwy Is-ganghellor, Arloesi ac Ymgysylltu,  "Rydyn ni’n falch iawn o fod yn aelod cysylltiedig o Manufacturing Wales, yn cydweithio â phartneriaid yn y diwydiant i fynd i'r afael â heriau allweddol ac i gyfrannu ein harbenigedd at nodau a rennir mewn addysg, ymchwil ac arloesi.

"Fel sefydliad, mae gan PDC ystod eang o arbenigedd mewn disgyblaethau sy'n berthnasol i'r sector, gan gynnwys peirianneg, digidol a'r gadwyn gyflenwi, a bydd ein hamcanion cyffredin yn sicr o gefnogi Manufacturing Wales yn eu huchelgeisiau i gryfhau a gwella ecosystem weithgynhyrchu sydd eisoes yn ffynnu yng Nghymru.

"Mae'r berthynas yn llwyfan ardderchog ar gyfer cydweithredu yn y dyfodol ac edrychwn ymlaen at ystyried sut y gall PDC weithio gydag aelod-fusnesau i ddatblygu rhaglenni datblygu sgiliau/talent, ymchwil ac arloesi ar gyfer y cymunedau a'r economïau rydyn ni i gyd yn eu gwasanaethu."

Dywedodd Chris Wright, Rheolwr Cyfnewidfa PDC "Mae’r ffaith bod Manufacturing Wales wedi dod i’r amlwg ar adeg mor amserol yn gyffrous iawn wrth i ni geisio cefnogi'r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru i arloesi ac adeiladu'n ôl yn gryfach.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gysylltu aelodau Manufacturing Wales â'n talent, ein harbenigedd a'n cyfleusterau technegol drwy Gyfnewidfa PDC – ein hyb ar gyfer ymgysylltu â'r diwydiant a datblygu partneriaethau, yn ogystal â rhannu cyfleoedd i gael gafael ar gyllid ar gyfer cydweithredu drwy fentrau fel Rhaglen Partnera ac Ymgysylltu PDC."

Croesawodd Frank Holmes, Cadeirydd Manufacturing Wales, PDC yn gynnes fel aelod cyswllt: "Mae PDC wedi meithrin enw da fel sefydliad AU wedi ei arwain gan anghenion diwydiannau, ac sydd wedi datblygu record ragorol o ran darparu ymchwil a datblygu mawr eu heffaith ac wedi eu harwain gan ddiwydiant yn holl sectorau gweithgynhyrchu Cymru. Mae hyn yn rhoi hyd yn oed mwy o gyfle i'n haelodau fanteisio ar gyfleoedd newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli, a chodi'r uchelgais fyd-eang drwy gael mynediad at wybodaeth, pobl, deunyddiau ac offer o'r radd flaenaf."

Mae Manufacturing Wales, a lansiwyd y llynedd, wedi ymrwymo i hyrwyddo a diogelu gweithgynhyrchu ledled Cymru yn y dyfodol. Mae’n cynrychioli gweledigaeth ac anghenion cymhleth sefydliadau yng Nghymru, yn codi hygrededd brandiau Cymru, yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd cyflenwi ac yn cynyddu gwydnwch sefydliadau sy'n aelodau ohono.