Mynydd wedi ei Fesur? Prosiect Mesur y Mynydd yn dod i ben

3 Chwefror, 2021

social care.jpg

Dros y tair blynedd diwethaf, mae prosiect Mesur y Mynydd (MyM) wedi bod yn casglu profiadau pobl o ddefnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, neu o fod yn ofalwyr di-dâl, i ddeall mwy am sut beth yw bywyd i bobl o ddydd i ddydd.   Maen nhw hefyd wedi cynnal dau Reithgor Dinasyddion i ystyried themâu allweddol a gododd o'r straeon.

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae'r prosiect ymchwil dan arweiniad Prifysgol De Cymru (PDC), wedi bod yn elfen bwysig o’r gwaith i ddod i ddeall effaith gynnar Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Mae adroddiadau terfynol 2019 / 2020 wedi'u cyhoeddi ac mae'r rhain ar gael ar www.mtm.cymru ynghyd ag adroddiadau 2018 a dogfennau a fideos allweddol a gafodd eu creu yn ystod y prosiect.

Mae cronfa ddata o dros 450 o straeon wedi'i chyhoeddi, a fydd yn ffurfio cronfa hynod werthfawr o wybodaeth, fydd yn ddefnyddiol i bobl sy'n gweithio yn y sector gofal a chymorth, ac o'i amgylch, ar gyfer llywio ymarfer, cynorthwyo gyda phenderfyniadau polisi, a dylanwadu ar ffocws prosiectau ymchwil yn y dyfodol.

Roedd gwaith y Rheithgor yn 2018 a 2020 yn llwyddiant mawr, ac fe gynhyrchon nhw gyfanswm o 31 o argymhellion.  Mae'r adroddiadau a'r argymhellion ar gael ar wefan y prosiect a recordiadau o sesiynau’r Rheithgor Dinasyddion yn 2020 i'w gweld ar sianel YouTube y project.

Mae'r mynydd yn dal i fod ymhell o fod wedi ei fesur yn llawn, ond mae'r gwaith sydd wedi ei wneud wedi helpu’n fawr.   Gobaith y prosiect yw ei fod wedi gadael gwaddol o wybodaeth ac adnoddau gwerthfawr fel y gall eraill barhau i ddysgu a datblygu eu polisïau a'u harferion. 

Bydd yr adroddiadau, y straeon a'r argymhellion yn www.mtm.cymru ar gael tan 2026.

Dywedodd Dr Rachel Iredale, Prif Ymchwilydd MyM ac Athro Cysylltiol Cynnwys y Cyhoedd PDC:

"Dim ond diolch i haelioni pobl Cymru yn rhannu eu straeon a chymryd rhan yn y Rheithgorau Dinasyddion y bu gwaith MyM yn bosibl.  Mae wedi bod yn dyst i barodrwydd pobl i gymryd rhan mewn ymchwil, eu hawydd i ddefnyddio eu profiadau i ddylanwadu ar newid a sicrhau gwelliannau, a brwdfrydedd pobl dros brosesau wedi eu harwain gan ddinasyddion i ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer.

"Gwnaeth MyM wir ein galluogi ni i ddeall profiad byw defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr di-dâl ledled Cymru. Ni chlywir eu lleisiau fel arfer a rhoesom gyfle i rai rannu eu barn ar goedd am y tro cyntaf. Drwy gasglu’r lleisiau ynghyd, rydyn ni wedi tynnu sylw atyn nhw ac wedi sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwrando arnynt - ac yn gweithredu arnynt. 

"Mae'r adborth wedi bod yn wych. Mae aelodau ein Rheithgorau ar gael i weithio gydag unrhyw sefydliad, mawr neu fach, sy'n delio â materion gofal cymdeithasol ac yn cynnig persbectif y profiad byw.  Byddwn yn cadw llygad barcud ar sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r argymhellion."