PDC yn lansio interniaeth gerddorol gyda chynhyrchydd a enwebwyd gan Grammy

5 Chwefror, 2021

RomeshDodangoda.jpeg

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn falch o gyhoeddi partneriaeth diwydiant gyda chynhyrchydd, peiriannydd a chymysgydd sydd wedi ei enwebu ar gyfer gwobrau’r Grammy, sef Romesh Dodangoda y bydd rhaglen newydd yn elwa’n fawr o’i brofiad sylweddol.  

Mae’r BA (Anrh) Cynhyrchu Cerddoriaeth yn rhaglen ymarferol ac yn brofiad dysgu llwybr carlam, sy'n rhoi mynediad i fyfyrwyr at gyfleusterau stiwdio arloesol PDC ac amgylchedd dysgu cydweithredol. Fe'i cynlluniwyd i feithrin sgiliau'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchwyr mewn diwydiannau creadigol fel cerddoriaeth, ffilm, teledu a sain gemau.

Bydd Romesh, sydd wedi gweithio gyda llu o artistiaid gan gynnwys Motorhead, Bring Me The Horizon a Funeral for a Friend, yn dod â'i wybodaeth arbenigol i'r cwrs newydd drwy gyfres o friffiau pwrpasol, dosbarthiadau meistr a Gwobr Rhagoriaeth Graddedigion Romesh Dodangoda, a fydd bob blwyddyn yn dathlu gwaith prosiect lefel 6. Bydd y wobr yn gydnabyddiaeth bwysig o’r gwaith, ac hefyd yn cynnig interniaeth gyda Stiwdio Recordio Long Wave Romesh lle mae llawer o ddarnau poblogaidd wedi'u recordio.  

I lansio'r bartneriaeth, mae PDC yn cynnal wythnos o weithgareddau o 8 Chwefror i ddathlu, yn cynnwys darlithoedd gwadd, cyfweliadau ac ysbrydoliaeth gan ein graddedigion mwyaf llwyddiannus.

Bydd yr wythnos yn cynnwys dosbarth meistr gyda Romesh ar ddydd Mercher 10 Chwefror o Stiwdio Long Wave ac mae'n agored i'r gymuned gerddoriaeth ehangach. Mae tocynnau ar gael am ddim yma

Dywedodd Romesh Dodangoda: "Mae’r BA (Anrh) Cynhyrchu Cerddoriaeth yn rhaglen gyffrous newydd a ddatblygwyd gan PDC i ddarparu profiad dysgu llwybr carlam i fyd proffesiynol cynhyrchu cerddoriaeth greadigol. Rwyf wedi curadu cyfres o ddosbarthiadau meistr gyda thîm y cwrs a fydd yn datblygu'r sgiliau perthnasol sydd eu hangen yn y diwydiant heddiw ac mae'n anrhydedd cael cefnogi’r radd hon gyda Gwobr Rhagoriaeth Graddedigion Romesh Dodangoda."

Dywedodd Lucy Squire, Rheolwr Academaidd Cerddoriaeth a Sain:  "Bydd y bartneriaeth rhwng yr Ysgol a Romesh Dodangoda a’r Wobr i Raddedigion yn darparu arbenigedd arloesol yn ogystal â chyfleoedd i feithrin cydweithio proffesiynol o fewn rhaglen y Radd Cynhyrchu Cerddoriaeth newydd. Ein gallu i ddarparu addysg alwedigaethol ragorol yw'r hyn sy'n gosod PDC ar wahân yn y farchnad."