Penodi Llysgenhadon Addysg Uwch newydd i’r Coleg Cymraeg o Brifysgol De Cymru
17 Chwefror, 2021
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi dau lysgennad newydd o Brifysgol De Cymru ar gyfer 2021 i rannu ‘Sŵn y Stiwdants’ ac annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
Mae 26 o lysgenhadon i gyd eleni sydd wedi eu lleoli mewn saith prifysgol ledled Cymru. Eu prif rôl fel llysgenhadon fydd perswadio mwy o ddysgwyr o ysgolion a cholegau addysg bellach i ddilyn eu hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a chyflwyno’r manteision o hynny.
Byddant yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg mewn amryw o ffyrdd ar-lein, fydd yn cynnwys rhoi cyflwyniadau, creu a chyfrannu at gynnwys gwefannau cymdeithasol y Coleg, ysgrifennu blogiau a chreu podlediadau ‘Sŵn y Stiwdants’.
Meddai Rheolwr Marchnata’r Coleg Cymraeg, Elin Williams: “Mae cyfraniad ein llysgenhadon i ledaenu’r neges am fywyd myfyrwyr Cymraeg yn ein prifysgolion a manteision addysg cyfrwng Cymraeg yn hynod bwysig. Yn sgil y pandemig COVID-19, mae hyrwyddo ar wefannau cymdeithasol a thrwy bodlediadau wedi dod yn fwyfwy pwysig. Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda chriw brwdfrydig o fyfyrwyr o brifysgolion Cymru unwaith eto eleni.”
Dywedodd Elain Llwyd Williams, myfyriwr Plismona Proffesiynol: “Wrth ddewis prifysgol, roedd astudio pwnc gyda ffordd o wneud rhan ohono yn Gymraeg yn bwysig iawn i mi, gan mai Cymraeg yw fy iaith gyntaf. Rwy’n teimlo’n freintiedig i gael fy newis fel llysgennad ac edrychaf ymlaen at gydweithio â myfyrwyr eraill i hyrwyddo’r iaith ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol y Coleg Cymraeg a @dyddyfodoldi.”
Dywedodd Gwawr Taylor, Ysgrifennydd Cynorthwyol Prifysgol PDC: “Rydym yn falch iawn o’r gwaith rhagorol y mae llysgenhadon PDC yn ei wneud bob blwyddyn wrth hyrwyddo cyfleoedd a buddion astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r myfyrwyr yn cael cyfleoedd gwych gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn datblygu sgiliau pwysig wrth helpu darpar fyfyrwyr i rannu eu profiadau a rhoi blas iddynt o fywyd Cymraeg yn y brifysgol.”
Gellir gwrando ar bodlediadau ‘Sŵn y Stiwdants’ ar Spotify, ble mae myfyrwyr Cymraeg yn rhannu eu profiadau, boed am fywyd Prifysgol yng nghanol pandemig, cyrsiau neu sgyrsiau ysgafn a rhoi’r byd yn ei le! Yn ogystal mae modd dilyn eu hanturiaethau a gweld lluniau’r unigolion ar wefan y Coleg Cymraeg ac ar dudalen Instagram a Twitter ‘Dy Ddyfodol Di’ a Facebook a YouTube ‘Coleg Cymraeg’.