Sut mae'r gyfraith yng Nghymru a Lloegr yn mynd i'r afael ag anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM)?
2 Chwefror, 2021
6 Chwefror yw Diwrnod Rhyngwladol Dim Goddefgarwch i Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM), a ystyrir gan y gymuned ryngwladol yn fater hawliau dynol hollbwysig.
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae 'Diwrnodau Rhyngwladol' yn 'achlysuron i addysgu'r cyhoedd ar faterion sy'n peri pryder, i ysgogi ewyllys wleidyddol ac adnoddau i fynd i'r afael â phroblemau byd-eang'.
Mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn digwydd mewn 30 o wledydd ledled Affrica a'r Dwyrain Canol, ond mae'n fater o bryder byd-eang ac un y bu'n rhaid ei ystyried gan gyfraith genedlaethol oherwydd nifer y menywod sy'n ymfudo i'r DU, o wledydd â chyfradd uchel o anffurfio organau cenhedlu benywod.
Mae data o'r GIG yn enghraifft o hyn: o fis Ebrill 2019 i fis Mawrth 2020, adroddodd GIG Lloegr am 6590 o ymweliadau â meddygfeydd teulu, clinigau ac ysbytai gan fenywod a oedd wedi profi anffurfio organau cenhedlu benywod, i fyny o 4120 y flwyddyn flaenorol. Felly sut mae'r gyfraith yng Nghymru a Lloegr yn mynd i'r afael â hyn?
Daeth anffurfio organau cenhedlu benywod yn drosedd benodol ym 1985 ac mae bellach yn cael ei llywodraethu gan Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003, a gellir cael cosb o hyd at bedair blynedd ar ddeg yn y carchar. Ni chyflawnir unrhyw drosedd os yw triniaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer iechyd menyw yn cael ei pherfformio gan ymarferydd meddygol, neu os yw triniaeth yn cael ei pherfformio yn ystod esgor neu enedigaeth.
Cafwyd yr euogfarn gyntaf, a'r unig un, am anffurfio organau cenhedlu benywod ym mis Chwefror 2019, dros ddeg ar hugain o flynyddoedd ar ôl i ddeddfwriaeth benodol gael ei deddfu: ac mae’n amlwg y gellir cwestiynu effeithiolrwydd y gyfraith droseddol. Fodd bynnag, mae'r gyfraith sifil wedi profi i fod yn fwy llwyddiannus.
Galluogodd Deddf Troseddau Difrifol 2015 y llysoedd i wneud Gorchmynion Gwarchod rhag Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGMPOs), sef gorchmynion a gynlluniwyd yn bennaf i atal anffurfio organau cenhedlu benywod
rhag digwydd. e.e. trwy atafaelu pasbort plentyn i’w wahardd rhag teithio i wlad lle mae'r risg o anffurfio organau cenhedlu benywod yn bresennol.
Gellir erlyn unigolyn sy'n gwneud rhywbeth sydd wedi'i wahardd gan y gorchymyn yn y llysoedd troseddol a bydd yn wynebu dedfryd o garchar o hyd at bum mlynedd, hyd yn oed os nad yw anffurfio organau cenhedlu benywod yn digwydd mewn gwirionedd, sy'n gwasanaethu i wneud y Gorchmynion yn effeithiol.
Gall cais am Orchymyn Gwarchod rhag Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod gael ei wneud gan yr unigolyn sydd mewn perygl neu drydydd parti e.e. awdurdodau lleol, yr heddlu, elusennau neu berthnasau. Mae ceisiadau trydydd parti yn llawer mwy cyffredin gan fod y rhan fwyaf o ddioddefwyr yn blant ac yn methu â dechrau achos eu hunain.
Yn 2019, gwnaed 199 o Orchmynion gan y llysoedd, o'i gymharu â 143 yn 2018 a 109 yn 2017: mae mwy a mwy o ferched yn cael eu hamddiffyn gan y gyfraith. Ond dim ond os oes ymwybyddiaeth eang o'r amddiffyniad sydd ar gael y mae hyn yn bosibl: felly mae addysg yn hanfodol.
Awdur: Mae Ruth Gaffney-Rhys yn Athro Cyswllt yn y Gyfraith ac yn bennaeth Ymchwil i’r Gyfraith. Mae hi'n arbenigo mewn cyfraith teulu ac yn cynnal ymchwil i Gyfraith Teulu; Cyfraith Priodas; Cyfraith Ryngwladol a Hawliau Menywod, ac mae'n Gyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru. Mae hi wedi cyhoeddi erthyglau mewn cyfnodolion fel Family Law, International Family Law a Child and Family Law Quarterly. Gallwch weld mwy o’i hymchwil i Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yma.