Ymchwil newydd yn amlygu rôl hanfodol teledu cylch cyfyng (CCTV) mewn ymchwiliadau dynladdiad

3 Chwefror, 2021

Camerâu CCTV

Lluniau CCTV yw un o'r dulliau a ddefnyddir amlaf mewn ymchwiliadau dynladdiad yn y DU, ond mae ei ddefnydd yn cynnig nifer o heriau a risgiau, yn ôl ymchwil newydd gan droseddegwyr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC).

Canfu data manwl a gasglwyd o 44 o ymchwiliadau dynladdiad gan bedwar gwasanaeth heddlu ledled Prydain fod CCTV wedi'i ddefnyddio mewn 95% o'r ymchwiliadau hyn at amrywiaeth o ddibenion, gan gynnwys i adnabod neu ddileu rhai a ddrwgdybir, i gysylltu pobl a ddrwgdybir ag arddangosion allweddol, i ddangos symudiadau a chymdeithasau, a chefnogi'r achos erlyn. Datgelodd yr ymchwil ei fod yn cael ei ddefnyddio'n amlach nag unrhyw fath arall o wyddoniaeth neu dechnoleg fforensig i adnabod a chyhuddo rhai a ddrwgdybir.

Edrychodd y canfyddiadau, a ddeilliodd o'r prosiect Ymchwiliad Dynladdiad a Gwyddoniaeth Fforensig pedair blynedd gan Ganolfan Troseddeg y Brifysgol – a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Leverhulme – ar ba wyddorau a thechnolegau fforensig a gyfrannodd at ymchwiliadau dynladdiad a sut. 

Ochr yn ochr â thystiolaeth ddigidol o ffonau symudol, cyfrifiaduron a CCTV, archwiliodd yr ymchwilwyr hefyd rôl proffilio DNA, archwilio olion bysedd, dehongli balistig a dadansoddi olrhain tystiolaeth mewn ymchwiliadau dynladdiad.

Aeth yr ymchwilwyr, yr Athro Fiona Brookman a Dr Helen Jones (dde), i safleoedd trosedd, gyda ditectifs ar ymholiadau CCTV ac o dŷ i dŷ, mynychu cyfarfodydd strategaeth fforensig, cynadleddau erlynwyr a gwahanol gamau o'r broses dreialu. Cyfwelwyd hefyd â 144 o ymarferwyr sy'n ymwneud ag ymchwilio i ddynladdiad, megis uwch swyddogion ymchwilio, gwyddonwyr fforensig ac arbenigwyr eraill, a dadansoddwyd cannoedd o bapurau achos. 

Datgelodd y data, er bod CCTV yn cael ei ddefnyddio mewn sawl ffordd wahanol mewn ymchwiliadau dynladdiad, bod heriau'n gysylltiedig â'i ddefnyddio i helpu i ddatrys dynladdiad. Er enghraifft, weithiau nid oes gan y rhai sydd â'r dasg o adalw lluniau CCTV y sgiliau na'r dechnoleg angenrheidiol i wneud hynny ac weithiau, mae lluniau CCTV yn cael eu 'colli' (h.y. recordio drostyn nhw) cyn y gall ditectifs ei adfer. 

Mae lluniau o ansawdd gwael hefyd yn cyflwyno heriau a risgiau penodol i dditectifs a swyddogion CCTV wrth geisio gwneud synnwyr o'r delweddau a phenderfynu a ddylid defnyddio 'arbenigwyr' i helpu i gael golwg ar ddelweddau neu eu dehongli ai peidio. Ar hyn o bryd, gall y diffygion hyn effeithio ar ddibynadwyedd tystiolaeth CCTV sy'n cael ei chyflwyno a'i chlywed yn y llys.

Dywedodd yr Athro Brookman: "Mae ymchwiliadau dynladdiad yn aml yn ymdrechion cymhleth, dan bwysau mawr ac yn defnyddio llawer o adnoddau. Mae CCTV yn un o blith llawer o linellau ymholi ymchwiliol sy'n digwydd ar y cyd, ac yn aml mae'n rhaid i Uwch Swyddogion Ymchwilio jyglo galwadau sy’n cystadlu â’i gilydd am adnoddau cyfyngedig.

"Mae ein canfyddiadau'n awgrymu, ar hyn o bryd, y gellir peryglu uniondeb a tharddiad tystiolaeth CCTV yn hawdd oherwydd systemau, prosesau ac arferion annigonol ar bob cam yng nghylch bywyd olion CCTV. Yn yr un modd, mae pryderon ynghylch gallu'r heddlu i adnabod a nodi'r ffordd bwrpasol o drin fideos drwy dechnolegau trin digidol newydd, neu sut i ymdrin yn briodol â fideos ffrwd fyw a ddarperir gan aelodau o'r cyhoedd.

"Mae'r pryderon hyn yn ein hatgoffa'n amserol o sut mae cyflymder newid technolegol yn symud yn gyflymach na gallu'r heddlu a'r system cyfiawnder troseddol (CJS) i gael y wybodaeth ddiweddaraf a deall ei botensial neu ei beryglon. O ystyried amlygrwydd CCTV mewn ymchwiliad dynladdiad, a goblygiadau difrifol gwallau ymchwiliol, mae'n bryd i'r CJS gydnabod natur gymdeithasol adeiledig tystiolaeth CCTV a gwarchod rhag ei gamddefnyddio."

Mae'r papur ymchwil, o'r enw Capturing killers: the construction of CCTV evidence during homicide investigations, wedi'i gyhoeddi'n ddiweddar yn y Journal of Policing and Society. Mae'r papur ar gael  i’w ddarllen yn llawn yma.

Mae'r Athro Brookman a Dr Jones wedi nodi nifer o gyfleoedd i wrthbwyso'r risgiau sy'n gysylltiedig ag adalw a dehongli lluniau CCTV, gan gynnwys argymhellion ar gyfer heddluoedd unigol a phrosiectau cenedlaethol cyfredol.

Gwasgarwyd eu canfyddiadau a'u hargymhellion yn eang i wasanaethau'r heddlu a grwpiau cynghori cenedlaethol a gweithgorau, a chyrff y llywodraeth. Defnyddir y casgliadau hyn i lywio'r gwaith o ddatblygu polisïau a strategaethau ar lefel genedlaethol, gyda'r nod o gadw a gwella capasiti CCTV a gwella hyfforddiant yr heddlu a safonau cenedlaethol wrth adalw a dehongli lluniau CCTV.

Comisiynwyd yr Athro Brookman a Dr Jones hefyd gan y Tîm Polisi Fforensig yn y Swyddfa Gartref i ddarparu tystiolaeth ar effaith gwyddoniaeth fforensig ar y system cyfiawnder troseddol.