Athro o PDC yn ymchwilio i ddeunyddiau adeiladu wedi eu seilio ar bridd
14 Ebrill, 2021
Mae ymchwil i adeiladu gyda deunyddiau wedi eu seilio ar bridd yn cael ei gwneud gan Yr Athro John Kinuthia o Brifysgol De Cymru (PDC).
Mae'r Athro mewn Arloesi ac Ymgysylltu mewn Peirianneg Sifil, sy'n Bennaeth Canolfan Profi Deunyddiau Uwch PDC (AMTeC), yn ymchwilio i ddatblygu deunyddiau adeiladu cynaliadwy sy'n defnyddio gwastraff naturiol, diwydiannol ac amaethyddol, a sgil-gynhyrchion eraill.
Mae gan bridd botensial aruthrol o ran adeiladu cynaliadwy, nid yn unig am fod digon ohono ar gael, a hynny am gost isel, ond hefyd am ei fod yn gallu cael ei ddefnyddio ar y cyd ag amrywiaeth o ffrydiau gwastraff naturiol, diwydiannol ac amaethyddol.
Mae treialon diwydiannol mewn gweithfeydd gwneud brics yn Swydd Bedford, ac Ewenni, ger Pen-y-bont ar Ogwr, eisoes wedi dangos dichonoldeb cynhyrchu briciau clai heb eu tanio ar raddfa ddiwydiannol.
A gallai’r dechnoleg gael ei defnyddio ledled y byd.
Yn y DU, mae deunyddiau wedi eu seilio ar bridd a ddatblygwyd yn PDC wedi cael eu hystyried i’w defnyddio mewn ystod eang o brosiectau effaith uchel, gan gynnwys fel haenau sylfaen ar gyfer prosiectau proffil uchel fel HS2.
Ymhellach i ffwrdd, mae deunyddiau newydd wedi eu seilio ar bridd wedi cael eu defnyddio’n rhan o dreialon maes wedi eu cefnogi gan UNESCO yn Kenya a Cameroon.
Mae cyllid gan Academi Gwyddorau Meddygol Kenya, yn rhan o Weledigaeth 2030 y wlad, yn cefnogi prosiectau fydd yn darparu tai cymdeithasol cost isel ar raddfa fawr ar gyfer poblogaethau trefol.
Yn Cameroon, mae’r cyllid cychwynnol gan UNESCO wedi helpu i ddatblygu cod ymarfer a safonau ar gyfer deunyddiau sy'n seiliedig ar bridd.
Mae'r prosiectau hyn yn Affrica yn dangos sut y gall gwledydd sy'n datblygu wneud gwir gynnydd tuag at ddatblygu seilwaith cynaliadwy drwy ddefnyddio’r gwastraff amaethyddol ddaw o o dyfu coffi, cans siwgr, reis ac olew palmwydd, ymhlith cnydau eraill.
Mae'r dechnoleg hefyd yn helpu gwledydd datblygedig i amrywio dulliau o gyrraedd targedau allyriadau Protocol Kyoto drwy ddefnyddio ffrydiau gwastraff diwydiannol, megis o weithgynhyrchu dur, ailgylchu alwminiwm, a llosgi glo.
Maer Athro Kanuthia eisoes wedi cael ei gydnabod, gan gynnwys ennill Gwobr Brian Mercer y Gymdeithas Frenhinol am Arloesedd am ei waith ar systemau clai heb ei danio. Mae cydnabyddiaeth wedi dod hefyd gan Academi'r Gwyddorau Meddygol drwy Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang (GCRF), ac achrediad i AMTeC gan Wasanaeth Achredu'r Deyrnas Unedig (UKAS).
"Mae hyn yn dilysu ymchwil PDC ymhellach o ran ein cyfraniad tuag at fynd i'r afael â heriau byd-eang ac ennyn brwdfrydedd ymchwil mewn gwledydd datblygedig a rhai sydd yn datblygu," dywedodd yr Athro Kinuthia.
"Mae hefyd wedi codi proffil technoleg pridd a Pheirianneg Sifil yn PDC, a dwyn sylw iddyn nhw’n rhyngwladol."