Cwrdd â'r graddedigion sydd wedi gweithio ar ffilmiau a enwebwyd am Oscar eleni

20 Ebrill, 2021

Ed Jackson.jpg

Yn y llun: Ed Jackson, un o raddedigion Animeiddio PDC, yn gweithio ar set A Shaun the Sheep Movie: Farmageddon

Mae graddedigion o Brifysgol De Cymru wedi gweithio ar rai o ffilmiau mwyaf llwyddiannus y flwyddyn ddiwethaf, sydd wedi'u henwebu yng Ngwobrau 2021 yr Academi.

Roedd cyfanswm o 22 o gyn-fyfyrwyr o Ysgol Ffilm a Theledu Cymru PDC yn rhan o'r gwaith o greu chwe ffilm sydd wedi eu henwebu eleni, yn y categorïau Ffilm Nodwedd Animeiddiedig ac Effeithiau Gweledol. 

Mae’r ffilmiau llwyddiannus o Hollywood, Tenet, Over The Moon, The Midnight Sky, Wolfwalkers, The One and Only Ivan, a A Shaun the Sheep Movie: Farmageddon wedi eu henwebu yng Ngwobrau’r Oscars eleni, fydd yn cael eu cynnal ddydd Sul (25 Ebrill) yn Los Angeles.

Rydyn ni wedi bod yn siarad â rhai o'r graddedigion sy’n gobeithio am lwyddiant yng Ngwobrau'r Academi y penwythnos hwn.

Gemma Roberts

Gweithiodd Gemma, sydd o Gaer, fel Uwch Artist Animeiddio Glân ar Wolfwalkers, sy'n dilyn taith prentis ifanc o heliwr a'i thad i Iwerddon i helpu i waredu’r bleiddiaid olaf. 

Graddiodd o PDC yn 2012 gyda BA (Anrh) mewn Animeiddio, ac mae'n gweithio i Cartoon Saloon yn Iwerddon.

"Ein tîm ni oedd yn gyfrifol am dynnu'r lluniau olaf a welwch yn y ffilm o'r animeiddio bras.

"Mae hyn yn golygu addasu'r cymeriadau i fod 'ar fodel', fel eu bod yn edrych yn gyson drwy gydol y ffilm, a thynnu lluniau’r cymeriadau yn y ddwy arddull linell wahanol. Arddull o’r enw ‘Llinell Drefol’ yw un, sydd wedi ei hysbrydoli gan y dull bloc pren solet. ‘Llinell Goedwig’ yw enw’r llall, sy’n fwy garw, ac a olygodd ein bod yn rhoi llinellau yr animeiddiad bras nôl i mewn er mwyn iddo edrych yn debycach i animeiddio traddodiadol gyda phensil.“ 

Cyn Wolfwalkers, bu Gemma’n gweithio ar ffilmiau nodwedd a rhaglenni teledu arbennig, gan gynnwys ffilmiau byr yn seiliedig ar y llyfrau plant We’re Going on a Bear Hunt, The Tiger Who Came to Tea a The Snowman and the Snowdog.

"Yn fy arddegau roeddwn i wrth fy modd gyda chelf ddigidol, ond pan oeddwn i yn y coleg y cefais fy swyno gan animeiddio. Pan ddaeth hi'n bryd dewis prifysgol, roedd PDC yn apelio’n fawr.  Roeddwn i wrth fy modd gyda’r cyfleusterau animeiddio, ac roedd y math o gynnwys roedd y cwrs yn ei gynhyrchu yr union fath o animeiddio roeddwn i am ei wneud! Roedd yn ddewis hawdd mewn gwirionedd ac yn gweddu i’r dim i fi. 

"Cefais lawer o gefnogaeth gan fy nhiwtoriaid, a dysgais gymaint am animeiddio fel ffurf gelfyddydol ac am berfformiad cymeriadau ac adrodd straeon. Rwyf hefyd wrth fy modd ein bod wedi cael ein dysgu i animeiddio mewn ffordd draddodiadol ar bapur a blychau golau gyntaf, cyn i ni gael animeiddio'n ddigidol. Gwnaeth wir feithrin y grefft ynddon ni a'n helpu i ddysgu sut yr arferai fod (ac y mae e o hyd weithiau!).

"Mae'r diwydiant animeiddio yn un sy’n rhoi boddhad mawr, ac rwy'n hynod ddiolchgar fy mod i’n rhan ohono."

Bryony Evans 

Bu Bryony, sy’n dod o Gasnewydd, hefyd yn gweithio ar Wolfwalkers, gan ddechrau fel Artist Glanhau cyn cael ei dyrchafu’n Uwch Artist Glanhau. Graddiodd mewn Animeiddio o PDC yn 2012, ac mae bellach yn gweithio ochr yn ochr â Gemma yn Cartoon Saloon.

"Fy ngwaith i oedd gwneud yn siŵr bod y cymeriadau'n aros ar fodel, yn ogystal â chipio'r ddwy arddull gelf llinell wahanol yn y ffilm. 

"Pan ddechreuais i yn PDC roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau bod yn animeiddiwr. Celf oedd fy mhwnc gorau a fy hoff bwnc yn yr ysgol ond doedd dilyn cwrs Celfyddyd Gain rywsut ddim yn iawn i fi.  Roedd animeiddio yn ticio llawer mwy o flychau; gwneud ffilmiau, celf, perfformiad cymeriadau a llawer mwy.

"Camu i mewn i’r diwydiant ar ôl gadael y brifysgol oedd y rhan anoddaf i fi, ond wedi llwyddo i gael gwaith, gwelais gymaint o fri mae’r diwydiant yn ei roi ar bobl.  Mae gweithio gyda'n gilydd fel tîm i wneud i'r prosiect ffynnu yn rhoi boddhad mawr."  

Chaitan Joshi

Gweithiodd Chaitan, sydd o dde Llundain, fel Artist Gosod ar The One and Only Ivan, oedd yn serennu Bryan Cranston, Angelina Jolie a Danny DeVito, ymhlith eraill.  Astudiodd BA (Anrh) Animeiddio Cyfrifiadurol yn PDC a graddiodd yn 2014.

"Mae Artist Gosod yn cael y ffilm o’r set ac yn ychwanegu'r cymeriadau a'r modelau procsi, a gwneud unrhyw newidiadau bach cyn iddo fynd i'r animeidddwyr. Roedden ni’n sicrhau bod y camerâu wedi'u gosod yn gywir a bod yr actorion wedi aros o fewn paramedrau'r procsi, gan fod y ffilm yn gyfuniad o actio byw ac effeithiau gweledol."

Mae Chaitan wedi gweithio ar nifer o ffilmiau a sioeau teledu ers graddio, gan gynnwys rhaglenni plant Floogals a fersiwn newydd Dennis and Gnasher.

"Buon ni’n gweithio ar Ivan am bedwar mis, yna cafodd ei ryddhau ar Disney+, gan fod Covid wedi golygu na chawson ni première fel fyddai fel arfer yn digwydd gyda ffilm.

"Rwy'n ddiolchgar fy mod i wedi gallu parhau i weithio drwy gydol y pandemig, gan mai’r tu ôl i'r llenni maen ein gwaith ni’n digwydd. 

"Roeddwn i wrth fy modd gyda chyfres Harry Potter a byddwn i wrth fy modd yn gweithio ar y ffilmiau Fantastic Beasts. Rwy'n teimlo'n gartrefol yn gweithio mewn ffilm a theledu.

"Mae'n braf gwybod bod fy ngwaith wedi cyfrannu at enwebiad Oscar ar gyfer y ffilm hon. Mae hynny'n eithaf cŵl!"

Kathryn Chandler

Bu Kathryn, sydd o Lundain, hefyd yn gweithio ar The One and Only Ivan, fel Animeiddiwr. Graddiodd yn 2015 o PDC gyda BA (Anrh) mewn Animeiddio Cyfrifiadurol, ac mae bellach yn gweithio i Stiwdios Rebellion Film & TV. 

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae wedi gweithio ar nifer o ffilmiau, gyda’r rhai adnabyddus, The Lion King a Dora and the Lost City of Gold yn eu plith. 

 "Ro’n i eisiau bod yn animeiddiwr ers pan o'n i ryw 15 oed. Roedd y Brifysgol yn gyfle gwych i gwrdd â phobl eraill oedd yn rhannu’r angerdd hwnnw.

"Mae PDC yn adnabyddus am fod yn un o'r sefydliadau gorau ar gyfer Animeiddio yn y DU ac mae ganddo'r fantais ychwanegol o fod yng Nghaerdydd sydd, yn fy marn i, yn ddinas berffaith i fyfyrwyr sy'n symud oddi cartref am y tro cyntaf. 

"Y peth pwysicaf a ddysgais i ar fy ngradd oedd mai bod yn bresennol a gweithio’n galed sydd bwysicaf os ydych chi am fod yn llwyddiannus mewn unrhyw faes, beth bynnag rydych chi am ei gyflawni. Mae dyfalbarhad yn hollbwysig, yn enwedig mewn maes cystadleuol fel animeiddio."

Ed Jackson

Gweithiodd Ed, sy'n wreiddiol o Ben-y-bont ac sydd bellach yn byw ym Mryste, fel Animeiddiwr Stop-Symud ar A Shaun the Sheep Movie: Farmaggeddon. Graddiodd o PDC yn 2004 gyda BA (Anrh) mewn Animeiddio.

Ar ôl gweithio i Aardman am sawl blwyddyn, roedd wedi bod ynghlwm wrth gyfres Shaun the Sheep yn y gorffennol ac fe neidiodd ar y cyfle i fod yn rhan o'r ffilm yma. 

"Roedd fy nau frawd hŷn wedi astudio'r radd Sylfaen yn PDC ac wedi mwynhau eu cyfnod yno, felly roedd yn naturiol i fi eu dilyn yno mewn ffordd, yn enwedig gan ei bod, ar y pryd, yn un o ddim ond llond llaw o brifysgolion oedd yn cynnig gradd mewn Animeiddio.

"Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mewn animeiddio a stop-symud yn enwedig. Y rhannau mwyaf defnyddiol o'r cwrs oedd egwyddorion animeiddio; ymarferion gwthio a thynnu yn astudio'r corff a’i ffurf a dysgu sut i ddefnyddio a dilyn arcau. Hefyd, dysgu mor hir yw’r broses, gyda stop-symud o leiaf – yr amynedd, yr amser a'r ymdrech sydd eu hangen i gwblhau prosiect.

"Byddwn i'n dweud, os oes gennych ddiddordeb yn y maes hwn, peidiwch byth â rhoi'r ffidil yn y to.  Mae'n ddiwydiant cymharol fach a chystadleuol, ond os ydych chi’n awchu digon amdano ac yn gweithio'n ddigon caled, gall ddigwydd i chi."

Paul Thomas

Roedd Paul, sydd o Gaerdydd, hefyd yn gweithio fel Animeiddiwr Stop-Symud ar Farmageddon. Graddiodd o PDC yn 2008 gyda BA (Anrh) mewn Animeiddio.

"Roeddwn i wedi gweithio ar ffilm Aardman, Early Man, ac fe wnaethon nhw ofyn i fi ddychwelyd atyn nhw ar gyfer y ffilm hon.

"Pan ddechreuais i yn y brifysgol roeddwn i eisiau bod yn animeiddiwr a chreu fy animeiddiadau fy hun. Dewisais i PDC oherwydd yr enw da iawn oedd gan y radd Animeiddio, a mwynheais ddysgu pob agwedd ar animeiddio, gan gynnwys gwaith bwrdd stori, rôl yr adran gelf ac yn y blaen.

"Mae hyn wedi golygu fy mod i wedi gallu gweithio mewn nifer o rolau gwahanol dros y blynyddoedd, a chael mwy o gyfleoedd gwaith o fewn y diwydiant."

Sean Gregory

Gweithiodd Sean, sydd o Gaerffili, hefyd fel Animeiddiwr Stop-Symud ar Farmageddon. Graddiodd o PDC yn 2014 gyda BA (Anrh) mewn Animeiddio.

"Cefais y swydd ar sail y gwaith roeddwn i wedi'i wneud ar ffilm flaenorol Aardman, Early Man.  Rwyf wedi bod yn lwcus iawn i weithio ar lawer o brosiectau gwych dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gan gynnwys treulio amser yn UDA yn gweithio yn Laika ar Kubo and the Two Strings a Missing Link. 

"Yn fwyaf diweddar, yn Aardman, rwyf wedi bod yn gweithio ar Robin Robin, ffilm Nadolig arbennig newydd sydd eto i'w rhyddhau. 

"Roeddwn bob amser yn gwybod fy mod i eisiau gweithio naill ai ym maes creu pypedau neu animeiddio. Byddwn i wedi bod yn hapus yn gwneud y naill neu’r llall, ond mae'n debyg bod y stiwdios a roddodd waith i fi yn hoffi fy ngwaith, felly i’r cyfeiriad hwnnw es i! 

"Fe wnes i fwynhau fy nghyfnod yn PDC yn fawr. Rhoddodd y cwrs ddealltwriaeth wych i fi o egwyddorion sylfaenol animeiddio yn y flwyddyn gyntaf, a wnaeth wedyn fy ngalluogi i greu dwy ffilm fer wedi'u hanimeiddio yn yr ail a'r drydedd flwyddyn. Rwyf hefyd yn dwlu ar Gaerdydd! 

"Galluogodd fy ngradd fi i ddatblygu digon o sgiliau i ddefnyddio’r hyn oedd yn fy nychymyg, ei ddeall e, a’i drosglwyddo'n gywir i bapur a chlai."

Dysgwch fwy am astudio Animeiddio yn PDC.