Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n anrhydeddu academyddion o Brifysgol De Cymru
27 Ebrill, 2021
Dr Louise Bright a'r Athro Ruth Northway
Mae dau academydd o Brifysgol De Cymru (PDC) ymhlith Cymrodorion newydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Maen nhw’n ymuno â 43 o Gymrodyr newydd eraill, y mae gan bob un ohonynt gysylltiad â Chymru, ei phrifysgolion neu ei bywyd deallusol, ac sy’n dod o bob maes arbenigedd.
Y Cymrodyr newydd o PDC ywDr LouiseBright CCDdC, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Ymgysylltu â Busnes PDC; a'r Athro Ruth Northway OBE FRCN PFHEA CCDdC, Athro Nyrsio Anabledd Dysgu, a Phennaeth Ymchwil Cyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg PDC.
Mae'r Cymrodyr yn dangos rhagoriaeth barhaus yn ymchwil, prifysgolion a bywyd deallusol Cymru, y mae pob un ohonynt wedi disgleirio yn ystod digwyddiadau eithriadol y flwyddyn hon o bandemig.
Mae'r Cymrodyr newydd yn cynnwys academyddion o sefydliadau addysg uwch Cymru, y DU a thramor, yn ogystal ag unigolion sy'n chwarae rhan bwysig ym mywyd cyhoeddus Cymru. Mae arbenigeddau'n amrywio o nanodechnoleg i jazz, o hanes seneddol i fioleg tiwmorau, ymhlith llawer iawn o bethau eraill.
Wrth sôn am y Cymrodyr newydd, dywedodd Llywydd y Gymdeithas, yr Athro Hywel Thomas: "Rwy'n falch iawn o groesawu ein Cymrodyr newydd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
"Mae'r flwyddyn ryfeddol ddiwethaf wedi dangos gwerth ymchwil o'r radd flaenaf. Mae syched am wybodaeth ac arbenigedd, ym mhob maes, wrth i ni geisio gwella o heriau'r pandemig. Mae ein Cymrodyr ar flaen y gad o ran y wybodaeth a'r arbenigedd hwnnw.
"Rydym hefyd wedi ethol canran uwch o Gymrodyr benywaidd nag erioed o'r blaen, sef 38%. Mae mwy y mae angen i ni ei wneud ond rwyf hefyd yn falch ein bod yn gwneud cynnydd o ran ein hymdrechion i wneud i'r Gymdeithas adlewyrchu amrywiaeth bywyd Cymru yn well."
Dywedodd Dr Bright: "Rwy'n falch o fod yn ymuno â'r Gymdeithas Ddysgedig ar adeg pan fo cymaint o fentrau cyffrous a phwysig yn datblygu.
"Mae’r cyfle i weithio gyda'r tîm a Chymrodyr eraill i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith CDdC er lles Cymru yn fy nghyffroi’n fawr."
Dywedodd yr Athro Northway "Mae'n anrhydedd cael fy ethol i'r Gymrodoriaeth hon ac rwy'n edrych ymlaen at y cyfleoedd y bydd yn eu cynnig i weithio gyda Chymrodyr eraill i ddatblygu ymchwil ac ysgolheictod."
Mae cael eich ethol i'r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth ac yn digwydd yn sgil archwiliad trwyadl o gyflawniadau pob enwebai yn ei faes.
Mae gan y Gymdeithas 595 o Gymrodyr erbyn hyn. Mae eu harbenigedd ar y cyd yn galluogi'r Gymdeithas i gryfhau ei chyfraniad i fywyd cyhoeddus Cymru, drwy ei chyfraniadau at ddatblygu polisïau'r Llywodraeth, darlithoedd a seminarau cyhoeddus a'r rhaglen Astudiaethau Cymru, sy’n prysur dyfu.
Bydd y Cymrodyr newydd yn cael eu derbyn yn ffurfiol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas, a gynhelir ar 19 Mai.