Cynyrchiadau y bu cyn-fyfyrwyr o PDC yn gweithio arnyn nhw’n cael eu cydnabod yng Ngwobrau’r VES
15 Ebrill, 2021
Bu graddedigion o Prifysgol De Cymru (PDC) yn gweithio ar gynyrchiadau sydd wedi eu hanrhydeddu gan wobrau rhyngwladol pwysig.
Yng Ngwobrau’r Gymdeithas Effeithiau Gweledol (Visual Effects Society/VES) yn gynharach y mis hwn, enwyd cynyrchiadau y gweithiodd pedwar o gyn-fyfyrwyr PDC arnyn nhw, yn enillwyr.
Yn y categori Effeithiau Gweledol Eithriadol a Phennod Ffotoreal - – The Mandalorian: The Marshal aeth â hi. Bu Daniel Kemeys, a raddiodd yn 2014 gyda gradd mewn Effeithiau Gweledol a Graffeg Symud, a Charlotte O'Keefe, a raddiodd yn 2019 gyda gradd mewn Effeithiau Gweledol a Graffeg Symud, yn gweithio ar y cynhyrchiad ar gyfer cwmni ILM.
Yn y categori Effeithiau Gweledol Eithriadol mewn Nodwedd Ffotoreal, roedd The Midnight Sky yn enillydd. Roedd Ellen Jaram, a raddiodd yn 2017 gyda gradd mewn Effeithiau Gweledol a Graffeg Symud, ac sydd hefyd wedi gweithio i ILM, yn rhan o'r tîm cynhyrchu, ac roedd Beth Warner, sy'n gweithio i Framestore ac a raddiodd yn 2015 gyda gradd mewn Animeiddio Cyfrifiadurol, yn gydlynydd effeithiau gweledol ar y ffilm.
Bu Daniel, sy’n gysodydd digidol, a Charlotte, sy’n rhedwr cynhyrchu VFX, hefyd yn gweithio ar benodau buddugol eraill. Roedd y rhain yn cynnwys The Mandalorian: The Jedi, a gafodd ei hanrhydeddu yn y categori Cymeriad Animeiddiedig Eithriadol mewn Pennod neu Brosiect Amser Real am The Child, a The Mandalorian: The Believer, a gafodd ei chydnabod yn y categori Amgylchedd Eithriadol mewn Pennod neu Brosiect Masnachol neu Amser Real ar gyfer Morak Jungle.
Dywedodd Jack Phillips, Uwch Ddarlithydd Effeithiau Gweledol a Graffeg Symud yn PDC: "Bob blwyddyn mae'n bleser gweld enwau cyn-fyfyrwyr cyfarwydd yn rhan o dimau VFX buddugol Gwobrau VES, a thalentau mor anhygoel o'r cwrs BA Effeithiau Gweledol a Graffeg Symud yn cael eu cydnabod yng ngwobrau amlycaf y sector.
"Gyda rhai o’r cyn-fyfyrwyr buddugol wedi graddio'n ddiweddar iawn, mae’n amlwg bod ganddyn nhw yrfaoedd addawol iawn yn barod a’u bod yn mynd o nerth i nerth."