Darlithydd Cyfrifeg yn ennill un o wobrau pwysig y diwydiant am ei haddysgu eithriadol

30 Ebrill, 2021

Rebecca Wright_USW.jpg

Mae Rebecca Wright, darlithydd mewn Cyfrifeg Broffesiynol ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), wedi ennill Gwobr Darlithydd Y Flwyddyn PQ Magazine 2021 yng nghategori'r sector cyhoeddus.

Mae'r wobr, a gyhoeddwyd neithiwr (Nos Iau 29 Ebrill) mewn seremoni rithwir, yn cydnabod cymorth cyson Rebecca i'w myfyrwyr a'i harddull addysgu ysbrydoledig.

Mae PQ Magazine yn deitl cenedlaethol sydd wedi'i anelu at gyfrifwyr sydd wedi cymhwyso’n rhannol, ac mae’r gwobrau blynyddol yn cydnabod y gorau ym maes addysg gyfrifyddu broffesiynol. Rebecca, 37, oedd ar frig y rhestr fer o enwebeion o brifysgolion o bob cwr o’r DU.

Ymunodd â PDC bum mlynedd yn ôl fel darlithydd, a chyn hynny bu'n fyfyriwr eithriadol gydag ACCA (Cymdeithas Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig) ac ICAEW (Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr) yn y brifysgol – dau gwrs y mae bellach yn eu haddysgu ar ôl penderfynu dychwelyd i addysg uwch.

"Pan adawais yr ysgol, dechreuais astudio Peirianneg Bensaernïol ac roeddwn i’n ei gasáu," meddai Rebecca, sy'n byw ym Mhontcanna, Caerdydd gyda'i gŵr Mike a'i gefeilliaid 12 oed, Daisy ac Amelia.

"Gadewais y brifysgol yn 20 oed,  a ’nghael fy hyn wrth groesffordd. Wedyn, fe wnes i briodi a chael y merched, a phenderfynais yn ddiweddarach fynd i’r byd Cyfrifeg, yn 26 oed. Newidiodd fy mywyd yn llwyr gan iddo roi cyfeiriad cwbl newydd i fi.

"Roedd yn anodd iawn ar adegau – roeddwn i'n gweithio'n llawn amser mewn ymarfer cyfrifeg ac roedd yr efeilliaid yn ddim ond 2 flwydd oed pan ddechreuais fy ngradd, ond fe lwyddais, gyda chefnogaeth anhygoel fy ngŵr. Fe yw fy nghefnogwr pennaf, ac fe roddodd amser i fi yn ddi-gwestiwn i astudio a chanolbwyntio ar fy nghymwysterau. Pan enillais i fy nhystysgrif ACCA, roedd yn llwyddiant i’r ddau ohonon ni mewn gwirionedd."

Gan iddi fod yn yr un sefyllfa ag y mae ei myfyrwyr nawr, mae Rebecca wedi gwneud pob ymdrech i wirio eu lles, yn enwedig yn ystod pandemig Covid-19 pan symudwyd yn sydyn i ddysgu ar-lein.

"Mae iechyd meddwl myfyrwyr mor bwysig, ac rwy'n poeni cymaint amdanyn nhw a'r pwysau maen nhw'n ei roi arnyn nhw eu hunain, oherwydd gall hynny arwain at ynysu.  Rwyf wedi cwrdd â myfyrwyr yn fy ngardd am goffi ac wedi ceisio cadw mewn cysylltiad â nhw er mwyn iddyn nhw wybod fy mod i yno’n gefn iddyn nhw.  Os ydw i'n credu ynddyn nhw, dylen nhw hefyd gredu ynddyn nhw’u hunain," meddai.

Y math hwn o ofal dros ei myfyrwyr a ysgogodd Dr Jared Davies, Rheolwr Pwnc Academaidd Addysg Broffesiynol PDC, i enwebu Rebecca ar gyfer gwobr Darlithydd y Flwyddyn.

Dywedodd: "Mae Rebecca, yn syml iawn, yn ddarlithydd eithriadol – yn ddynamo o fenyw – sy'n angerddol dros ei myfyrwyr a'u llwyddiant. Roedden ni wedi sylwi ar botensial Rebecca fel addysgwr tra oedd hi'n fyfyrwraig gyda ni, gan ei bod yn gallu tynnu pobl ynghyd i fod yn rhan o grwpiau astudio a’i bod wedi helpu a hyfforddi ei chyd-fyfyrwyr.

"Dangosodd Rebecca frwdfrydedd a thalent aruthrol o'r cychwyn cyntaf fel darlithydd newydd; cyn bo hir roedd myfyrwyr yn ysgrifennu adolygiadau rhagorol amdani, fel y gwelwyd yn ei henwebiadau ar gyfer Gwobrau Dewis y Myfyrwyr yn 2018 a 2019. Ers hynny mae wedi dod yn arbenigwr Trethi ICAEW gyda ni ac yn  Arweinydd Cwrs ICAEW ac mae hi wedi ei thaflu ei hun at hyn gyda’i brwdfrydedd arferol. 

"Mae hi’n llawn haeddu'r wobr hon o ystyried y gefnogaeth ragorol mae hi’n ei rhoi i'n myfyrwyr ICAEW ac ACCA. Da iawn Rebecca!"

Ychwanegodd Rebecca: "Mae’n anrhydedd anhygoel cael fy nghydnabod fel hyn. Ac mae’n fraint bod yn rhan o siwrnai fy myfyrwyr.  Rwyf mor falch o'r ffordd y maen nhw wedi ymdopi cystal yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Mae Cyfrifeg Broffesiynol yn achrediad gwych i'w gael gan ei fod yn agor cynifer o ddrysau a gall fynd â nhw i ba le bynnag maen nhw eisiau mynd. Rwyf hefyd yn cael gweld y newid yn aeddfedrwydd a datblygiad proffesiynol myfyrwyr. Mae bod yn dyst i hynny’n rhywbeth arbennig iawn.

"Byddwn wedi bod wrth fy modd yn mynychu seremoni wobrwyo grand arferol PQ Magazine, ond yn anffodus roedd yn ddigwyddiad ar-lein eleni oherwydd Covid-19. Rwy’n edrych ymlaen at dderbyn fy nhlws drwy’r post yn lle.

"Ar ôl cael y newyddion am y wobr, daeth fy nhad – sydd hefyd yn gyfrifydd ac a ’nghyflwynodd i fyd cyfrifeg – draw ar unwaith gyda blodau a siampên i ddathlu. Mawr yw fy nyled iddo am fy ysbrydoli i ddilyn y llwybr a wnes i."