Dyfarniad cyllid i roi hwb i adferiad gwyrdd yn Ne Cymru

16 Ebrill, 2021

South Wales Industrial Cluster map

MAE prosiect sy'n cynnwys arbenigedd cynaliadwyedd Prifysgol De Cymru (PDC) wedi derbyn £1.5m o raglen Datgarboneiddio Diwydiannol UKRI.

Mae Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC), partneriaeth rhwng diwydiant Cymru, cyflenwyr ynni, darparwyr seilwaith, academia, y sector cyfreithiol, darparwyr gwasanaethau a sefydliadau'r sector cyhoeddus, wedi cael y cyllid i fapio'r hyn sydd ei angen i gefnogi De Cymru i ddod yn rhanbarth carbon sero-net erbyn 2050.

Mae gan Gymru dreftadaeth ddiwydiannol hir a chyfoethog, gan arwain y ffordd yn y chwyldro diwydiannol. Nawr mae'n bwriadu bod yn arweinydd y chwyldro gwyrdd. De Cymru yw'r ail allyrrydd diwydiannol mwyaf yn y DU, gan ryddhau'r hyn sy'n cyfateb i 16 miliwn tunnell o garbon deuocsid y flwyddyn ar draws cynhyrchu diwydiant ac ynni.

Yn 2019, daeth y DU yn un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i ddeddfu y bydd yn cyrraedd allyriadau carbon sero-net erbyn 2050.  Os yw'r DU am gyrraedd y targed hwn, mae arnom angen ffyrdd newydd o wresogi cartrefi, pweru busnesau a diwydiant trwm a chludo tanwydd. Mae hyn yn gofyn am leihau allyriadau cyn belled ag y bo modd gan ddefnyddio dulliau fel effeithlonrwydd ynni, newid tanwydd a dal, defnyddio a storio carbon (CCUS); ynghyd â gwrthbwyso'r carbon deuocsid gweddilliol trwy ddulliau eraill, megis technolegau allyriadau negyddol.

Dechreuodd y prosiect, dan arweiniad CR Plus, ac o'r enw “Diwydiant De Cymru - Cynllun ar gyfer Twf Glân” ym mis Chwefror 2021 a bydd yn para am 26 mis. Fe’i ariennir trwy ‘Her Datgarboneiddio Diwydiannol’ Llywodraeth y DU yn San Steffan. Bydd hyn yn rhoi hwb i gystadleurwydd rhanbarthau diwydiannol allweddol ac yn sbarduno buddsoddiad i mewn, gan greu a gwarchod swyddi ar gyfer economi fyd-eang carbon isel gyda marchnadoedd allforio carbon isel sy'n tyfu.

Bydd yr Her Datgarboneiddio Diwydiannol yn cefnogi cyflwyno Her Fawr Twf Glân a'r Genhadaeth Clystyrau Diwydiannol, sydd wedi gosod uchelgais i sefydlu clwstwr diwydiannol carbon sero-net cyntaf y byd erbyn 2040, gydag o leiaf un clwstwr diwydiannol carbon isel erbyn 2030.  Bydd y genhadaeth yn helpu i roi'r DU ar flaen y gad yn y newid byd-eang i dwf glân, trwy yrru'r technolegau, y gwasanaethau a'r marchnadoedd i gynhyrchu cynhyrchion diwydiannol carbon isel.

Nod calon y prosiect yw sicrhau sero-net ac ar yr un pryd, gwrthdroi dirywiad diwydiant trwm a chreu ffyniant economaidd i Gymru. Gwneir hyn trwy ddatblygu cynllun i ddiogelu'r 113,000 o swyddi gweithgynhyrchu presennol ac o bosibl greu miloedd o swyddi medrus newydd erbyn 2050. Er bod y cynllun hwn yn ddeinamig ac yn bellgyrhaeddol, mae'r SWIC yn gwerthfawrogi nad oes “bwled arian” ar gyfer datgarboneiddio diwydiant. Bydd SWIC yn cyflwyno nifer o lwybrau datgarboneiddio i helpu i sicrhau lles cenedlaethau'r dyfodol.

Arweinir y partneriaid, busnesau a sefydliadau sy'n ymestyn o Sir Benfro yn y gorllewin i Sir Fynwy yn y dwyrain, gan yr ymgynghorwyr cynaliadwyedd a pheirianneg ynni CR Plus Limited. Fel arweinydd y prosiect, bydd yn gweithio gyda'r gwahanol sectorau i ddatblygu opsiynau datgarboneiddio safleoedd diwydiannol cyfannol a chreu cynllun i helpu i sicrhau bod diwydiant De Cymru yn ei gyfanrwydd yn cyflawni sero-net erbyn 2050.

Dywedodd Jon Maddy, Cyfarwyddwr Canolfan Hydrogen PDC ym Maglan, sy’n arweinydd academaidd SWIC: “Bydd PDC yn arwain ar ddatblygu darpariaeth Ymchwil a Datblygu ar gyfer datgarboneiddio a datblygu sgiliau.”

Y cydweithwyr ym mhrosiect Cynllun Clwstwr SWIC yw Associated British Ports, Capital Law, Carbon 8 Systems, Celsa Steel, Confederation of Paper Industries, Connect and Convey Ltd, Costain, Dragon LNG, Energy Systems Catapult, ERM, Front Door Communications, Diwydiant Cymru, Liberty Steel, Porthladd Aberdaugleddau, National Grid Electricity Transmission, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Catapwlt Ynni Adnewyddadwy ar y Môr, Cyngor Sir Penfro, Progressive Energy, ROCKWOOL Ltd, RWE, Siemens, Tata Steel, Tarmac, PDC, Vale Europe , Valero Energy, Western Bio-Energy, Western Power Distribution a Wales & West Utilities.