Llwyddiant i un o gyn-fyfyrwyr PDC gyda ffilm yn ennill Oscar
26 Ebrill, 2021
Mae un o raddedigion Prifysgol De Cymru (PDC) wedi cael llwyddiant am yr eildro y mis hwn, yn rhan o'r tîm fu’n gweithio ar ffilm sydd wedi ennill Oscar.
Roedd Rosie Walker, a raddiodd yn 2012 gyda gradd BA (Anrh) mewn Effeithiau Gweledol a Graffeg Symud, yn rhan o'r tîm yn DNEG fu'n gweithio ar y ffilm Tenet, a enillodd y wobr Effeithiau Gweledol Arbennig. Enwebwyd y ffilm hefyd yn y categori Dylunio Cynhyrchu Gorau.
Hwn oedd yr ail lwyddiant o fewn mis i’r ffilm, a enillodd y categori Effeithiau Gweledol Arbennig yng Ngwobrau Ffilm yr Academi Brydeinig (BAFTA) ychydig wythnosau'n ôl. Roedd y BAFTAs hefyd yn cynnwys gwaith gan nifer o raddedigion eraill PDC. Gallwch ddarllen y manylion llawn am hynny fan hyn.
Mae Rosie yn gyn ddarlithydd Effeithiau Gweledol yn PDC, ac mae bellach yn gweithio i DNEG yn Vancouver, Canada.
Dywedodd Jack Phillips, Uwch Ddarlithydd Effeithiau Gweledol a Graffeg Symud PDC: "Mae'n wych bod talentau Rosie wedi cael eu cydnabod fel hyn drwy effeithiau gweledol arobryn Tenet.
"Mae'n anhygoel ei gweld hi'n mynd o nerth i nerth, o raddio ar y cwrs i gael ei chydnabod gan un o'r anrhydeddau uchaf mewn Effeithiau Gweledol.
"A hithau’n gyn-ddarlithydd gyda thîm BA (Anrh) Effeithiau Gweledol a Graffeg Symud, mae Rosie yn enghraifft o'r ddawn a'r profiad sydd o fewn y cwrs yn PDC, ac yn dangos sut mae myfyrwyr yn cael eu meithrin a’u cefnogi i fwrw yn eu blaen gyda’u gyrfaoedd."