Pam mae Bwdhaeth yn cael ei chysylltu â heddwch?
7 Ebrill, 2021
Gan Nick Swann, Darlithydd mewn Astudiaethau Bwdhaidd
Pan fyddaf yn dysgu dosbarthiadau israddedig am "Fwdhaeth a Thrais", byddaf fel arfer yn dechrau drwy ofyn i fyfyrwyr raddio grwpiau crefyddol yn nhrefn faint o ddilynwyr sydd ganddynt yn y fyddin Brydeinig. Fel arfer mae Cristnogion ar frig rhestrau’r myfyrwyr a Bwdhistiaid ar y gwaelod.
Mae hyn yn adlewyrchu’r rhagfarn ddiarwybod sydd gan lawer o'r myfyrwyr hyn ynghylch Bwdhaeth – maent yn tybio bod pob Bwdhydd yn heddychwr ac nad yw Bwdhydd yn debygol o eisiau gyrfa a allai gynnwys trais ar ryw adeg.
Felly maen nhw bob amser yn synnu o ddarganfod bod mwy o Fwdhistiaid yn y Fyddin Brydeinig nag o Fwslimiaid a Sikhiaid gyda’i gilydd – er gwaethaf y nifer gymharol fach o Fwdhistiaid sydd ym Mhrydain.
Ond pam mae cynifer o bobl yn y gorllewin yn cysylltu Bwdhaeth â heddwch?
Yn ôl yr hanesydd yr Athro Jonathan Walters, mae gwreiddiau hyn mewn gwladychiaeth a chenhadon Cristnogol. Wrth ddod ar draws gwahanol gredoau ymhlith pobloedd oedd wedi eu trefedigaethu, mabwysiadodd cenhadon strategaeth o fframio crefyddau eraill yn y fath fodd fel y gellid cyflwyno Cristnogaeth fel rhywbeth gwell a mwy deniadol.
Yn eu llygaid nhw roedd Islam yn rhy ymosodol ac yn canolbwyntio gormod ar lynu'n gaeth at reolau. Roedd Bwdhaeth yn rhy arallfydol, yn rhy heddychol, ac mor oddefol fel ei bod yn farwaidd bron. Gosodwyd Cristnogaeth yn y man euraid rhwng y ddwy.
Mae'r ffordd hon o fframio pethau’n dal i gael ei defnyddio ac mae’n arwain at rywfaint o feddwl anghyson pan fydd Bwdhistiaid, er enghraifft, yn cyrraedd y penawdau am y rhesymau anghywir.
Mae osgoi "ymosod ar fodau byw" a meithrin caredigrwydd cariadlon tuag atynt yn lle wrth wraidd moeseg Bwdhaidd; dyma'r cyntaf o’r pum praesept moesol, a'r un y mae'n rhaid i chi lynu wrtho os am eu mabwysiadu o gwbl. Roedd y Bwdha yn annog pobl i beidio ag ymgymryd mewn trais ac roedd yn cynghori brenhinoedd i ddod o hyd i ffyrdd eraill o ddatrys problemau. Ystyrir bod gwerthu arfau yn fywoliaeth amhriodol i Fwdhistiaid.
Trais Bwdhaidd
Ond mae Bwdhistiaid wedi bod yn gysylltiedig â digwyddiadau o wrthdaro treisgar fwy neu lai ers i'r grefydd ddod i'r amlwg gyntaf. Fel arfer, mae’r cyfiawnhad dros weithredu fel hyn wedi'i seilio ar amddiffyn y Dharma (y dysgeidiaethau Bwdhaidd), gan ddemoneiddio neu ddad-ddynoli’r gelyn weithiau i'w gwneud yn llai anghywir, o ran carma, i'w lladd.
Ceir enghraifft arbennig o anghyfforddus o hyn yn y cronicl o’r bumed ganrif yn Sri Lanka, y Mahafamsa lled-chwedlonol, lle mae mynaich yn ceisio tawelu meddwl brenin drwy ei sicrhau mai dim ond dau o Fwdhistiaid oedd ymhlith y miliynau yr oedd newydd eu lladd a bod y lleill yn debycach i anifeiliaid na phobl.
O ran "trais Bwdhaidd", fel gydag unrhyw wrthdaro yr ystyrir ei fod yn un crefyddol, dim ond un ffactor yw crefydd mewn sefyllfa gymhleth. Hunaniaeth ethnig yn aml yw'r broblem mewn gwirionedd – cyd-ddigwyddiad yw bod gan un o'r grwpiau ethnig dan sylw gysylltiadau Bwdhaidd hanesyddol, ac nad yw’r lleill yn rhannu’r un cysylltiadau.
Ar un adeg, bu tri rhyfel cartref yn digwydd ar yr un pryd ynn ngwrthdaro 1983-2009 Sri Lanka, a’r rheiny oherwydd materion ethnig a gwleidyddol yn aml: Sinhalesiaid yn erbyn Tamiliaid, eithafwyr Sinhalesaidd yn erbyn y llywodraeth Sinhalesaidd, a Theigrod Tamil Eelam yn erbyn grwpiau Tamil milwrol eraill.
Er nad oedd mor syml â Bwdhistiaid, Mwslimiaid a Hindwiaid Tamil yn ymladd ei gilydd, daeth Jathika Chintanaya neu "Meddwl yn Genedlaetholgar" i’r golwg, oedd yn hyrwyddo gweledigaeth Fwdhaidd yn unig ar gyfer Sri Lanka, ac mae ei ddylanwad i’w weld o hyd ar sefydliadau fel Bodu Bala Sena ("Llu Grym Bwdhaidd").
Fe wnaeth tensiynau rhwng grwpiau ethnig Bwdhaidd a Mwslimaidd yn Nhalaith Rakhine ledaenu’n derfysgoedd yn 2012 ac yn y pen draw arweiniodd at ddadleoli dros 700,000 o Fwslimiaid Rohingya i Fangladesh. Er ei fod yn ei ddisgrifio'i hun yn benodol fel mudiad di-drais ac yn mynnu nad yw'n gyfrifol am y digwyddiadau hyn, mae'r Mudiad Cenedlaetholgar Bwdhaidd 969 serch hynny wedi tanio teimladau gwrth-Fwslimaidd yn Myanmar ac wedi fframio Moslemiaid fel bygythiad i hunaniaeth genedlaethol. Mae'n bwysig nodi, ar yr un pryd, nad yw'r mudiadau cenedlaetholgar hyn yn gynrychioladol o bob Bwdhydd – lleyg neu fynachaidd – yn Sri Lanka nac ym Myanmar.
Gwnaeth mynaich Bwdhaidd ddefnyddio arfau ac ymladd yn ymdrech Korea i wrthsefyll cyrchoedd Japan yn ei herbyn ddiwedd yr 16eg ganrif. Er nad yw gwasanaeth milwrol yn cael ei wahardd mewn testunau Bwdhaidd, ystyrir bod bywyd milwr yn broblematig oherwydd y tebygolrwydd o farw mewn brwydr, o gyflyru pobl i ladd ac o ganolbwyntio gormod ar drais. Yn ddelfrydol, mae Bwdhydd am farw gyda meddwl heddychlon, sy'n fwy tebygol o gael ei ail-eni i fywyd cadarnhaol. Gallai meddwl treisgar arwain person i un o deyrnasoedd uffern y Bwdhistiaid.
Nid rhyfel a bygythiadau allanol yn unig sydd wedi arwain at enghreifftiau o drais Bwdhaidd. Roedd cosb gorfforol yn nodwedd o system gyfreithiol Tibet yn y cyfnod cyn-fodern. Yn 1997, cafodd tri mynach o Dibet eu llofruddio yn Dhamsala – olrheiniodd yr heddlu gysylltiad rhwng y sawl yr amheuwyd nhw o’r llofruddiaethau â dadl oedd yn cyniwair ymhlith Bwdhistiaid Tibet. Mae’r gosb eithaf yn dal ar lyfrau statud Gwlad Thai, ac fe’i defnyddiwyd ddiwethaf yn 2018.
Craidd heddychlon
Ar ddiwedd y dosbarth rwyf bob amser yn ofni y bydd myfyrwyr yn dechrau meddwl gormod am y trais rwyf wedi ei drafod, ac y bydd ystrydeb eithafol newydd yn disodli’r hen un. Fodd bynnag, nid yw'r ystrydeb ynghylch heddychwyr Bwdhaidd heb ei sail.
Cofier, er enghraifft, am wrthwynebiad parhaus y Dalai Lama i drais mewn perthynas ag annibyniaeth Tibet, actifyddiaeth heddwch y mynach Thich Nhat Hanh o Fietnam, neu ymdrechion Bwdhistiaid Nafayana ("Ambedcaraidd") mewn perthynas â chyfiawnder cymdeithasol yn India, yn codi miliynau o Ddalitiaid allan o drais strwythurol y gyfundrefn gast.
Ond mae Bwdhaeth o leiaf yr un mor amrywiol ei chyfansoddiad ag yw Cristnogaeth neu Islam – ac, o'r herwydd, dylem wylio rhag cyffredinoli. Wedi'r cyfan, prin yw’r Cristnogion fyddai’n hoffi i’w crefydd gael ei hystyried ar sail y Crynwyr yn unig, neu Eglwys Bedyddwyr Westboro.