PDC yn anelu at fod yn garbon niwtral erbyn 2040
8 Ebrill, 2021
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn anelu at fod yn garbon niwtral erbyn 2040.
Mae hyn yn rhan o Strategaeth Carbon newydd PDC, sy'n cydnabod bod datgarboneiddio yn ofyniad hanfodol i weithredu a chynnal amgylchedd prifysgol cynaliadwy - rhan o strategaeth 2030 y Brifysgol.
I ddechrau, bydd y Brifysgol yn canolbwyntio ar fynd i’r afael ag allyriadau carbon a gynhyrchir trwy gaffael nwyddau a gwasanaethau, yn ogystal â thrwy ei defnydd o drydan a nwy. Rhoddir sylw hefyd i'r defnydd o ddŵr, allyriadau o wastraff, teithio busnes a theithio carbon isel, ynghyd â newid polisi ac ymddygiad.
Cyflwynwyd rhai newidiadau eisoes sydd wedi dechrau cael effaith gadarnhaol, gan gynnwys cyflwyno goleuadau LED, paneli solar, opsiynau pecynnu bioddiraddadwy mewn cyfleusterau arlwyo a newid i rai cyflenwyr lleol. Mae ôl troed carbon y Brifysgol eisoes wedi gostwng 32% ers 2012/13.
Dywedodd yr Athro Julie Lydon, Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru: “Newid yn yr hinsawdd yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r Byd ac rydym yn ymwybodol o’n heffaith carbon yn PDC. Rydym am ymgorffori cynaliadwyedd wrth wraidd popeth a wnawn ac rydym eisoes wedi gweithredu amryw o newidiadau i'n harferion dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i ddechrau mynd i'r afael â hyn.
“Rydyn ni am adael yr etifeddiaeth hirhoedlog gywir yn PDC sydd o fudd i’n cymunedau, ac felly fel rhan o’n cyfrifoldeb cymdeithasol mae angen i ni ddiogelu ein heffaith amgylcheddol yn rhanbarthol, ac yn wir yn fyd-eang. Dyna pam rydyn ni bellach wedi nodi ein nod i fod yn garbon niwtral erbyn 2040.”
Y tu hwnt i'n gweithgaredd busnes, mae'r Brifysgol wedi ymrwymo ers amser maith i ymchwil yn y maes hwn, gyda'r Ganolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy (SERC) yn cynnal ymchwil genedlaethol a blaenllaw yn y byd i drin gwastraff a chynhyrchu ynni o wastraff a biomas wedi'i dyfu. Mae'n dwyn ynghyd arweinwyr o fioleg, peirianneg, cemeg a ffiseg mewn un tîm academaidd sy'n cyfuno eu hadnoddau a'u sgiliau er mwyn mynd i'r afael â heriau ymchwil a datblygu ynni ac amgylcheddol mawr.
Ym Maglan, mae ymchwilwyr yng Nghanolfan Ymchwil Hydrogen PDC yn gweithio gyda phrif bartneriaid y diwydiant i nodi dulliau datgarboneiddio, yn enwedig trwy fabwysiadu technolegau hydrogen.
Yn 2020, helpodd PDC i sefydlu a datblygu Clwstwr Diwydiannol De Cymru, gan weithio fel yr arweinydd academaidd gyda phartneriaid diwydiannol i nodi'r opsiynau gorau ar gyfer datgarboneiddio cost-effeithiol diwydiant yn Ne Cymru.