Prifysgol De Cymru yn penodi Is-Ganghellor newydd
27 Ebrill, 2021
Dr Ben Calvert
Mae'n bleser gan Brifysgol De Cymru (PDC) gyhoeddi penodiad Dr Ben Calvert yn Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredol newydd. Bydd Ben yn cymryd yr awenau gan yr Athro Julie Lydon sy'n ymddeol yn yr haf, ar ôl un mlynedd ar ddeg yn y rôl.
Ar hyn o bryd mae Ben yn Ddirprwy Is-Ganghellor yn PDC ac mae'n arwain y portffolio academaidd gyda ffocws cryf ar ansawdd a gwella ein darpariaeth dysgu ac addysgu. Mae wedi bod yn aelod o'r tîm Gweithredol ers ymuno â'r Brifysgol fel Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr yn 2015.
Wrth sôn am ei benodiad, dywedodd Dr Calvert: “Mae’n anrhydedd imi gael fy mhenodi’n Is-Ganghellor nesaf Prifysgol De Cymru. Mae gan y Brifysgol hanes trawiadol o ehangu cyfranogiad a darparu dysgu ac addysgu sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant, ac edrychaf ymlaen at adeiladu ar y sylfeini cryf hyn a sefydlwyd o dan arweinyddiaeth Julie.
“Mae’n gyfnod o her a chyfleoedd mawr ym maes addysg uwch, ac mae gan Brifysgol De Cymru ran allweddol i’w chwarae yn adferiad ôl-bandemig Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda thîm gwych o gydweithwyr ymroddedig, wrth i ni barhau i gefnogi ffyniant myfyrwyr, cymunedau a busnesau.”
Ychwanegodd Louise Evans, Cadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr: “Yn dilyn proses drylwyr a chadarn a oedd yn cynnwys cydweithwyr o bob rhan o’r Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr, llywodraethwyr a dau gynghorydd arbenigol allanol, rwy’n falch iawn bod Ben wedi derbyn y swydd Is-Ganghellor.
“Roedd egni a gweledigaeth Ben yn sefyll allan drwy’r maes cystadleuol, ac mae ei ymrwymiad i’n staff a’n myfyrwyr yn absoliwt. Dangosodd cadeiryddiaeth barhaus Ben o Grŵp Cynghori Addysg Uwch Llywodraeth Cymru ei wybodaeth drylwyr a’i arbenigedd o Addysg Uwch yng Nghymru. Mae hefyd wedi bod yn aelod allweddol o’r tîm Gweithredol yn PDC, sydd gyda’i gilydd wedi llywio’r Brifysgol trwy bandemig COVID-19.”
Cyn ymuno â Phrifysgol De Cymru, bu Ben yn gweithio ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw, fel Deon Cyfadran yn rheoli sylfaen ddisgyblaeth eang gan gynnwys Ysgolion y Cyfryngau, Dyniaethau, Celf a Dylunio a Chyfrifiadura a Thechnoleg. Sefydlodd sawl cwrs gradd newydd gan gynnwys Cerddoriaeth Boblogaidd, Cynhyrchu Teledu a Chynhyrchu Radio, ac roedd yn rhan o dîm a sicrhaodd achrediad Skillset Academy ar gyfer Ysgol y Cyfryngau.
Bydd Dr Calvert yn ymgymryd â’r swydd Is-Ganghellor ar 1 Medi 2021.